Pan ddaw cwsg i gau'm hamrannau Crwydra'm hysbryd dros y bryn, Hoffa ddianc at y blodau Dyf o bobtu Pont y Glyn.