Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hoffi

hoffi

'Watcyn Lloyd yn hoffi'i breifatrwydd.

'Dy fod ti'n hoffi cŵn.

Fel y deuem i arfer â hwy, deuem i'w hoffi.

'Yli, Merêd, arna i mae'r bai mae'n siŵr...ond mi ddylet ti sylweddoli nad ydw i'n hoffi'r math yma o wylia erbyn hyn.

Byddwn yn hoffi mynd i edrych amdani.

Dwi'n rhamantydd wrth gwrs, ond dwi'n hoffi meddwl cyn i ddyfodiad y peiriannau, er bod y bobl mor brysur ac yn gorfod gweithio mor galed, roedden nhw'n gweithio'n ddistaw yn y meysydd ac yn cael rhyw gyfle i ymglywed a natur fel petai.

Roedd hi'n dechrau tywyllu nawr a doedd e ddim yn hoffi bod tu allan yn y tywyllwch ar ei ben ei hun.

Ond nid oedd Fflwffen yn hoffi cael ei gwylio o hyd, ac ni bu fawr o dro yn rhedeg i ffwrdd oddi wrth ei meistres ar ôl iddi gyrraedd y berth uchaf.

Mae Llyn Cwmstradllyn yn lecyn delfrydol i'r rhai sy'n hoffi pysgota mewn mannau anial.

'Un peth fydden ni'n hoffi'i weld.

Sut ydych chi'n hoffi'ch brandi, syr?" "Fel mae o'n dod," meddwn i.

Pa ryfedd i Ddwynwen hoffi'r lle, ni ellid cael amgenach hafan i encilio a myfyrio.

(Y miwsig yn ergydio drwy'r pared.) Mewn gwirionedd, y rheswm rw'i'n cadw'r lle'n daclus ydi am fod fy ffrind gore fi, Sara, hefyd yn hoffi pethe'n daclus.

Ar yr ochr gadarnhaol, dywed yr adroddiad fod mwy o bobl ifanc yn hoffi cinio ysgol a gwelwyd cynnydd yn y nifer sy'n yfed llaeth sydd a llai o fraster.

Pan ddechreuodd Vera John lanhau i Edward Morgan gyntaf, nid oedd yn hoffi'r syniad o weithio mewn tŷ lle'r oedd yna ddau gi.

Byddai'n hoffi sôn am y wers 'English' honno pan gafodd dasg gan Mr Pritchard i lunio brawddeg Saesneg yn cynnwys y gair cakes.

Un peth yr ydw i yn ei hoffi am Harry Potter ydi ei fod o'n dewina yn yr hen fesurau.

Efallai nad oedd o'n hoffi iddi ymyrryd rhyngddo fo a Cathy ond ni allai esbonio'i ymateb i'r holi am Maes Môr.

Doedd aros yn rhy hir o dan onnen ddim yn beth da, fodd bynnag, gan fod ysbrydion yn tueddu i hoffi clwydo yn ei brigau.

Ond yr oedd yna eleni yn yr Hen Goleg, Aberystwyth, ymdeimlad cryf o bwrpas a chryn dipyn o dân yr 'Oes Aur' futholegol honno y bydd newyddiadurwyr a chenedlaetholwyr sydd wedi hen chwythu eu plwc yn hoffi malu awyr amdani.

Mi allwn hoffi'r eneth yma.

Ac wrth estyn croeso nôl yn oedfa gyntaf Medi, Gwilym Haydn yn dweud fod e'n gobeithio fy mod i'n hoffi'r lliw, lliw meddai oedd yn adlewyrchu tymer y gweinidog yng nghwrdd eglwys mis Gorffennaf!

Gwyddai Anna nad oedd William yn ei hoffi a gallai deimlo tyndra rhyngddynt.

Rwy'n hoffi arogl baco." Taniais y sigaret a chwythu llond ysgyfaint o fwg i'w gyfeiriad ac fe'i gwyntiodd fel daeargi wrth dwll llygoden fawr.

Os ydych yn hoffi casglu ffosiliau does dim gwell craig na'r Garreg Galch yma ger Bwlch Kate Anthony sy'n llawn o'r crinoid bychan ac o'r cwrel Caninia, Lithostrotion, Cyringopora a Michelina, heb sôn am y braichiapod a'r gostropod (Bellerophon a Euromphalus).

Roeddem ni'n hoffi'r rhain oherwydd, heb lyfr yn ei llaw, roedd hi'n rhydd i actio'r stori, actio efo'i llygaid a'i dwylo.

Nid oedd hwn yn hoffi Douglas.

Os fydde unrhyw un yn hoffi ymuno âr gynulleidfa mae modd anfon neges at Pawb âi Farn ar E-bost at pawbaifarn@bbc.co.uk.

Ond crwtyn serchog oedd Wil a phawb yn ei hoffi a chael blas ar ei ffraethineb annisgwyl, ac yr oedd yn ffefryn mawr gan Dic.

Nid oedd neb yn ei hoffi ac roedd llawer yn ei ofni.

Nid oes neb yn hoffi mynd i mewn i r cylch gyntaf felly bydd y sawl sy'n ceisio disodli'r pencampwr yn gorfod plygu o dan y rhaffau gyntaf a chamu i'r cylch.

Amheuai eu gogwydd tuag at Gatholigiaeth a'u gwrthwerinoldeb, bid siwr; eithr yr hyn a barai'r anesmwythyd mwyaf iddo oedd parodrwydd digwestiwn eu hadwaith: 'Nid wyf yn hoffi ffolineb y Sais; ond nid wyf yn hoffi ychwaith ffolineb Ffrainc, ac ni all haeriadau Ffrainc fod ddim mymryn mwy deniadol i'm twyllo na haeriadau Lloegr.' Yn ei hanfod, ymryson oedd dadl Gruffydd a Lewis ynghylch pwy oedd gwir gynheiliad 'yr hen ddiwylliant Cymreig.' Yr oedd diffiniadau ehangach o'r cychwyn yn iswasanaethgar i Gymreigrwydd y ddwy estheteg a bleidiwyd.

"Dwi'n hoffi arlunio, hefyd, a chwarae golff a gwylio'r teledu."

Sut bynnag, ar ôl heddiw doedd e ddim yn siwr a oedd yn hoffi bod tu allan gyda phobl eraill chwaith.

Er nad yw Mary'n hoffi'r modd y mae hyn yn cael ei wneud, dywed mai dyna'r unig ffordd.

Efallai y byddaf wedi priodi cyn hir Mae William Powel o Wrecsam yn galw ym Mryste'n aml ar fusnes ac yn hoffi fy nghwmni.

Ond dwi ddim yn hoffi.

buasai wedi hoffi aros i syllu arni, ond yr hen gar 'na !

Doedd e ddim yn hoffi bwyta ar ei ben ei hun hyd yn oed ar ôl yr holl flynyddoedd hyn.

Hyd yn hyn maent wedi aros yn driw i'r ethos gwreiddiol o recordio'r hyn y maent yn ei hoffi eu hunain, heb gael eu temtio gan arian mawr cynnyrch mwy poblogaidd.

Yr unig beth nad oedd yn ei hoffi oedd pobl yn sefyll ar y seddau a'r byrddau yn y dafarn.

Mae sôn hefyd fod Gadaffi yn wrywgydiwr, ei fod yn hoffi gwisgo dillad menywod ac yn cael pyliau maith o iselder ysbryd.

Hwyrach y byddech yn hoffi cadw at eich diet arferol yn ystod yr wythnos, er mwyn i chi allu llacio'r rheolau ar y penwythnosau.

Dywedodd fod lladron yn hoffi'r cyfle hawdd a phwysodd arnom i wneud ein cymdogaeth yn lle mwy diogel i fyw.

Yr hyn sy'n amlwg yn nhrafodaeth Saunders Lewis trwy'r Llythyr' yw ei fod yn hoffi pegynu.

'Moire' roedd dyn yr Emporiwm wedi galw'r peth, ac roedd hi wedi credu y byddai Niclas yn hoffi'r cyffyrddiad bach Ffrengig yn yr enw.

'Faswn i'n hoffi cwrdd â'r bachgen, y bachgen sy'n gwitho 'da chi, Mr Huws.' byrlymodd ar ei draws.

Ond rydw i'n hoffi'r darlun hwn yn fawr iawn.

'Tada, 'fyset ti'n hoffi dod 'lawr i aros gyda ni?'

Daeth i eistedd wrth fy ochr a dywedodd wrthyf y buasai yn hoffi i mi ddweud y frawddeg drosodd a throsodd nes iddi hi fy stopio.

Rydw i'n hoffi aros yma wedi cyrraedd yma.

Nid oedd yn hoffi teulu'r Cwmwd yn siwr, ond tybed a oedd mor ddieflig â mentro i'w cartref i'w chwalu, a gwybod bod Dad yn yr ysbyty.

Mae Catrin, sy'n ugain oed, ac yn gwarchod y plant, yn cofio hoffi Rala Rwdins pan oedd hi'n fach.

Gan fod y gylfingroes yn hoffi byw a bwydo mewn coed conwydd, gellir gweld heidiau ohonynt pan geir gorlifiadau po rhyw dair blynedd o'r cyfandir.

Y flwyddyn ganlynol, roedden ni'n paratoi CD amlgyfrannog arall o'r enw O'r Gad, ac fe ofynnon ni iddo fo a fyddai o'n hoffi cyfrannu cân.

'Roeddwn i'n hoffi'r ffordd gafodd y bêl ei lledu gan yr olwyr yn enwedig yn yr awr gynta.

Mae plant wastad yn hoffi cymeriad maen nhw'n eu hadnabod o lyfrau eraill (fel Smot, Tecwyn), ac er bod cefn y llyfr hwn yn awgrymu ei fod yn addas i blant o ddwy i fyny, credaf ei fod yn addas i blant llawer ieuengach na hynny, sydd yn dechrau adnabod anifeiliaid.

Unwaith y sefydlwyd Lloegr fel cenedl-wladwriaeth, yr oedd hi'n anochel y byddai'i brenhinoedd yn meddiannu Cymru, yn rhannol, wrth gwrs, am fod brenhinoedd yn y dyddiau hynny yn hoffi meddiannu llefydd, ond hefyd am y byddai Cymru yn fygythiad parhaus i Loegr, boed yn fygythiad uniongyrchol o du'r Cymry eu hunain neu o du gelynion tramor.

Stori briodasol fach dda yr ydw i yn ei hoffi yw honno am gyfaill yn gofyn i henwr dros ei bedwar ugain oed pam yr arhosodd cyhyd cyn priodi.

Mae o faint hwylus ar gyfer poced a bag llaw er, efallai, y byddai rhai yn hoffi hefyd gyhoeddiad mwy cylchgronol gyda lluniau o wisgoedd, steils gwallt ac yn y blaen.

A reductio ad absurdum yw defnyddio'r technegau i ddweud fod "naw o bob deg o gathod" yn hoffi bwyd arbennig.

''Does dim byd i'w rwystro fo alw yma amdanat ti, os hoffi di.'

Pan daeth y meddyg ataf - merch - i roi'r rheswm am ei farwolaeth gofynnodd yn annwyl a oedd gennyf rywbeth arbennig y buaswn yn hoffi ei roi amdano.

Yn aml iawn yr oedd rhywun yn teimlo fel codi a mynd allan oherwydd nad oedd yn hoffi'r hyn oedd yn cael ei ddweud neu'n hoffi sut yr oedd yn cael ei ddweud.

Byddai wedi hoffi brasgamu i lawr yr eil, ei chodi'n grwn o'i sedd a'i hysgwyd nes bod ei dannedd yn clecian yn ei phen 'mennydd-gwybedyn.

Ond, a minnau'n hoffi'r ddau, gwell gennyf ddweud eu tynghedu hwy i wrthbwyso'i gilydd fel y gwna deuddyn tal a byr neu dew a thenau yn rhwymau glân briodas.

Ni fyddai'n breuddwydio mynd i bysgota hebddi rhag ofn iddo gyfarfod ƒ Llew Williams y Cipar, hen ddyn annifyr nad oedd neb yn y pentre yn ei hoffi ...

Mae sôn hefyd fod Gadaffi yn wrwgydiwr a'i fod yn hoffi gwisgo dillad menywod.

Byswn i'n hoffi se nhw'n dewis Sais - mae Sais yn deall anian ei bobol ei hun.

''Swn i'n hoffi cannoedd o gwn,' meddai.

Dyw mam ddim yn hoffi trefn y capelwyr o gladdu.

Eglurais nad oedd yr un ohonynt wedi ceisio cael ysgariad ar ôl iddynt wahanu ac y byddwn weithiau yn meddwl, neu'n hoffi meddwl, mai ailddechrau hefo'i gilydd fyddai diwedd y stori.

Gallwn yn hawdd fod wedi ei hoffi a maddau llawer iddo petai wedi dangos yr arwydd lleiaf o serch tuag ataf.

Roedd hi mor ffeind wrthym ni a doedd ganddom ni'r un ffordd arall o ddangos ein diolch, ac os oedd hi'n hoffi cael cosi ei choesau, wel, iawn i ni wneud hynny drosti.

'Wyddwn i ddim dy fod ti'n hoffi cŵn,' meddai fo.

Ond nid pawb sy'n hoffi'r blas pridd arnynt.

"Dydw i ddim yn hoffi ei olwg o gwbl," meddai'r dyn ifanc wrtho'i hun.

Gyda llaw, wyt ti'n hoffi bwyd ysbyty?' Ac yna, yn ddisymwth, roedd y cyfarfod ar ben a Dei wedi cael mis o amser i gyflawni'r tasgau, ac wedi cael ei siarsio ar boen ei fywyd i gadw'r cyfan a welodd ac a glywodd yn gyfrinach.

Bu'n rhaid imi ddal yr wy dan ddweud "'Da ni'r tramorwyr yn hoffi bwyta Qingsong Pidan hefyd".

Cyhoeddwyd y papur syn dweud hyn yn rhifyn Hydref o'r Economic Journal gan ddau Athro Prifysgol, Bruno Frey ac Alois Strutzer, sydd wedi dod i'r casgliad nad yw hyd yn oed penderfyniadau gwleidyddol yn effeithio ar faint hapusrwydd pobol gyda datganoli - maen nhw jyst yn hoffi datganoli doed a ddel.

Yn y Traethodau i'r Amseroedd dangosodd Newman nad oedd yn hoffi'r gair 'Protestant' ac ymddangosai fel pe bai eisiau diwygio'r Diwygiad.

Roeddynt wedyn yn mynd allan o'u ffordd i osgoi cyfarfod â bechgyn nad oeddynt yn eu hoffi!

Mae'r tomatos yn hoffi amgylchfyd sych a'r cucumerau yn hoffi lleithder felly, ni ddylid eu cymysgu yn yr un tŷ a disgwyl tyfu'r ddau gnwd yn llwyddiannus.

Mae yna stori ddoniol y buasai THP-W yn ei hoffi, rwy'n meddwl, a all fod yn gymhariaeth werinaidd i hyn, a dim mwy.

'Rwy'n teimlo 'mod i yng nghanol ffrindia'." Un siaradus oedd Deilwen Puw, yn llawn brwdfrydedd ac yn barod i hoffi popeth ynglŷn â'r pasiant, y dathlu a'r ardal yn gyfan.

Daeth i sylweddoli fod Gwion yn unigolyn, yn berson a oedd yn hoffi llwyddo, ac fel yr esbonia Gwynn, 'nid yn rhan annatod o'r cyfundod a elwid y mentally handicapped.' Daeth yn weithgar gyda Chymdeithas Mencap Caernarfon a'r cylch.

Ac os byddaf yn hoffi ei wyneb, caiff aros yn yr ystafell wely: os na, rhaid fydd iddo chwilio am rywle arall i roi ei ben i lawr."

Ydych chi'n hoffi tegeiriannau?" "Dim yn arbennig," meddwn i.

Wrth gerdded tua'r Cwmwd a chario'r parseli neges a ddaeth Huw gydag e, meddai yntau, "Sut fuasech chi'ch tri yn hoffi mynd i Fangor i'r ysbyty i weld eich tad?

Mae pob unigolyn yma yn hoffi bod ei hun ar brydiau, h.y.

Y mae'r bobl yn hoffi'r ardal gymaint fel bod y rhai ffodus yn byw yn y Parc a theithio i'w gwaith yn Sheffield.

Rhoi tâp i fynd; mae cathod yn hoffi miwsig.

Nid oeddwn, ac nid wyf hyd heddiw yn hoffi cig bras a byddai Mam yn torri'r braster i ffwrdd pan oeddwn yn hogyn bach.

Gan fod pinc y mynydd yn hoffi bod yng nghwmni'r ji-binc mae'n hawdd eu cymysgu, ond gellir adnabod y ji-binc yn hawdd gan fod ganddo gorun lliw llechen.

Mi fydd plant yn siwr o hoffi'r atodiad yng nghefn y llyfr - sef map "go iawn" o'r byd yn dangos Cymru a Chanolbarth America.

'Mae tipyn wedi digwydd yn y ddau brawf nad ydw i'n hoffi.

Does yr un chwaraewr yn hoffi chwarae gyda phêl a gafodd 'fault'.

Rhoddodd olwg gas, galed ar ei wyneb, a'i hoffi.

Ond byddai yn hoffi gwneud rhywbeth rhyfeddach na'i gilydd bob amser.

Rydw i wedi mynd â fo adref ac wedi ei lapio fo yn y blanced oedd ganddo fo gael ei gladdu wrth ochr y gwely riwbob lle byddai o'n hoffi gorwedd yn yr haul o dan gysgod y dail.