Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hofn

hofn

Gallai ei threm fod yn llym hefyd; yr oedd arnom braidd ei hofn.

Bu'n rhaid mynd at yr Heddlu yn y Drenewydd i adrodd am y lladrad, ac wrth gwrs yn eu hofn a'u pryder dyma'r holl stori yn dod allan a'r manylion i gyd, oherwydd, erbyn hyn, eu gofid mwyaf oedd am gorff y famgu.

Wrth iddi hel meddyliau fel hyn trodd ei hofn o dipyn i beth yn rhyddhad.

Ar wahân i'w hofn rhag ffwndamentaliaeth Moslemaidd mae llawer o ferched Uzbek yn aelodau o deuluoedd a phriodasau cymysg ac ni fynnant hwy weld y rhyddid i ddilyn y diwylliant priodasol a fynnont yn diflannu.

Gofid Enid yw ei hofn mai hi sydd ar fai fod Geraint wedi colli blas ar ymladd a thwrnameint, yn ôl pob golwg.

"Erbyn hyn yr oedd Rageur a Royal wedi anghofio'u hofn ac wedi deall os na fuasen nhw'n helpu Rex i'm llusgo i fyny'r grisiau, buasai'n rhaid iddyn nhw fy ngadael i farw yno tu allan i'r tŷ.