Yn ddiweddarach y clywodd Rhian am haelioni Bernard Hogan yn anfon siec sylweddol iawn i'w nai.
Yn ddigon tebyg i'w dad a'i deidiau gynt, dim ond mai cyngerdd neu seiat neu ffair oedd cefndir eu dychymyg hwy cyn i'r 'hogan' fynd yn 'slasan'.
Dim ond un wiced yr un gafodd Andy Caddick ac Ian Salisbury yn y ddau brawf ac efallai bod cyfle i gynnwys Matthew Hogan y bowliwr cyflym sy wedi cipio 17 o wicedi ar y daith.
Dros y ffordd i'r Hen Eglwys mae'r cocos gora' i'w cael bob amsar, ac mi ŵyr Mrs Robaits yn iawn lle, achos flynyddoedd yn ôl, pan oedd hi'n hogan ifanc, mi oedd hi'n arfer'u hel nhw a mynd â nhw i'w gwerthu i Gaernarfon, medda' hi.
Giglodd Mam yn sydyn, yn union fel hogan ysgol, a chodi i gadw'r albwms lluniau ar y silff.
Mi fuasai Gruff ddiniwad yn troi yn i wely tasa fo'n sylweddoli hanner y petha rydw i'n gorfod eu darllen, i ddim ond dallt chwartar sgwrs yr hogan fach yna sy'n pwyso'r botyma ar wynab Mamon yn Kwiks.
Beth ddeuai ohoni petai Rick yn priodi'r hogan 'na?
Dwi'n cofio hogyn o Benmaenmawr yn priodi hogan o Lanfairfechan, ac ewyrth iddo'n gofyn: 'Ble rwyt ti am fyw, Bob bach?'
Ond ddiwedd yr wythnos hon y llynedd pan oeddwn ar wyliau yn yr Alban yr oedd yno goblyn o le wedi i hogan bedair ar bymtheg oed redeg bron yn boeth at Tiger Woods ar ddeunawfed grîn y Scottish Open a rhoi clamp o sws iddo fo a dawnsio o'i gwmpas.
'Dydw i ddim yn deud nad ydi o'n gwybod rhyw ffeithiau anffafriol am Hogan ond dydi hynny ddim yn helpu'n hachos.
Plediodd Carol Hogan yn euog i gyhuddiad o gynllwynio i gyflawni'r lladrad, ac fe'i dedfrydwyd i bum mlynedd am yr hyn a alwodd y barnwr yn drosedd difrifol.
Dechrau, yn unig, oedd affidafid Carol Hogan, ar fisoedd lawer o ymdrechu caled a chyfnodau o rwystredigaeth flin.
Atal beichiogi sy' yn Llys Abar rhwng y Dafydd yna a'r hogan De Breos.
Roedd yna hogan bach reit glên, reit ddel, yn y fan honno, ddigon i dynnu'ch meddwl chi oddi ar bys.
Weithiau byddem yn gofyn am 'stori pan oeddech chi'n hogan fach, Miss Lloyd,' a rhyfeddem at yr anturiaethau a'r helbulon arswydus a ddaeth i ran y ferch fach hon o'r wlad.
Roedd hi'n andros o lwcus.' O wybod hanes Carol Hogan cytunai Rhian â'i sylw.
Ac wedi diolch, a gofyn enw'r hogan fach, a chael ateb "Patricia," euthum yn ol i'r Mini, ar frys.
Maen rhaid i rywun ofyn - a oedd y Beatles gystal â hynny? meddai rhyw Kathryn Knight yn y Daily Express yr wythnos diwethaf gan deimlon dipyn o hogan, maen debyg, wrth ysgwyddor cyfrifoldeb o ofyn y cwestiwn mawr hwnnw.
Neu 'ieu+cs' yng ngeiria Nain Rhoscefnhir pan oedd hi'n hogan fach.
Diolch i'r miri efo'r hogan wirion yna gollodd ei chot law, roedden nhw chwarter awr yn hwyr yn cychwyn o Bwllheli ac roedd y ddamwain yna ger Llanllyfni wedi achosi iddo golli mwy o amser.
'Ond William Huws bach mae 'ma hogan yn hwylio i gal babi.' Fel y camai William Huws dros gamfa i gae, a'r hwch hanner o dan ei gesail, gwaeddodd y gyrrwr eilwaith.
'Rhowch gyfle i'r hogan.
P'run bynnag, 'roedd Rick wedi dechre poitsio efo'r hogan arall 'na.
Cafwyd yr wybodaeth mai gŵr o'r enw Arthur Gage oedd gyrrwr y Jaguar a ddefnyddiwyd yn y lladrad: lladdwyd hwnnw mewn damwain car o fewn wythnos ar ôl yr ymosodiad ar siop Hogan.
Onid ydi'r hogan benchwiban 'na sy'n darllen y Newyddion bob nos yn nith i chwaer yng nghyfraith c'nither Margiad Parry Ty Mwg a 'dydi pedigri hen ddynas Ty Mwg yn ddim i orfoleddu yn 'i gylch.