Mae Andrew Flintoff a Matthew Hoggard wedi eu cynnwys yng ngharfan Lloegr - ond y tebygrwydd yw y dewisir yr un tîm ag a chwaraeodd yn y prawf cyntaf yn Lahore.
Cafodd Matthew Hoggard, y bowliwr cyflym o Sir Efrog, ei ddewis i'r tîm wrth i Loegr hepgor troellwyr yn gyfan-gwbl ar gyfer y gêm hon.