Mae'r bladur, y gribin, a'r bicfforch yn segur ers tro, ac mae'r trowr rhaffau, y stric a'r corn grit ar gyfer hogi yn rhan o gelfi crôg ystafell y gegin erbyn hyn.
Mi wyddoch o'r gora sut byddwch chi." Yr oedd fy nghyfaill Williams yn hogi'r gyllell ar bigau'r fforc.
Wedi darfod tyllu, byddai'r tyllwr yn mynd â'i ebillion oedd wedi colli min erbyn hyn i'r efail i'w hogi, felly gwelwch fod angen gof yn y chwarel, a llawer yw'r helynt sydd wedi bod yn yr efail rhwng y gof a'r gweithwyr, fel y cawn sôn ymhellach ymlaen.
Gan eu bod yn gorfod cerdded dros y mynydd yn ôl a blaen o'u gwaith, a'r efail mewn rhan is o'r chwarel, yn weddol agos i'm cartre', dyma nhw'n gofyn i mi fynd â'u hoffer di-fin nhw i lawr at y gof i'w hogi, a dod â'r rhai miniog i fyny'n ôl.