Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

holai

holai

Holai'r bechgyn am bob dim ynglŷn â'u cŵn.

'Pwy we'r rocyn 'na we da ti'n clebran ar bwys y glowty?' holai ei mam yn syth.

Ynddo ceisiodd egluro sut y ffurfiwyd yr ynys wedi'r Dilyw, a holai beth oedd iaith y trigolion, ai o'r Hebraeg y tarddodd y Gymraeg: disrifiodd gyfraith a chrefydd gynnar yr ynys, athroniaeth a defodau'r Derwyddon, eu tamlau, eu hallorau a'u canolfannau yn y llwyni derw, gan atgynhyrchu'r lluniau o'r henebion derwyddol a gynhwysodd yn ei atebion i Queries Lhwyd.

Holai'n dyner amdanaf, a dweud fel yr oedd wedi mwynhau cwmni Gwyn pan gyfarfu'r ddau gyntaf Gofynnais yn gynnil beth oedd ei adwaith i'r pasiant ar ôl bod ar y llwyfan, ac yr oedd yn ddigon moesgar i beidio â dangos gwyn ei lygaid a chodi ei ysgwyddau, fel yr arferai Illtud ei wneud i ddangos fod rhywbeth y tu hwnt i eiriau.

Cynhwysodd yn ei lyfr ddetholiad o'r ohebiaeth a fu rhyngddo a Lhwyd a'i holai'n fynych ynghylch ystyr a tharddiad enwau priod Cymraeg, ond rhaid cyfaddef, er bod Rowlands yn hyddysg yn namcaniaethau ieithyddol ei ddydd a'i fod yn rhannu holl ddiddordebau eang Lhwyd na ddeallasai ef arwyddocad dull gwyddonol ei gyfaill o weithio.