Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hollalluog

hollalluog

Ac yr oeddwn yn clywed sŵn eu hadenydd wrth iddynt symud, ac yr oedd fel sŵn llawer o ddyfroedd, fel sŵn yr Hollalluog, fel sŵn storm, fel sŵn byddin; pan oeddent yn aros, yr oeddent yn gostwng eu hadenydd.

Hyd at ganol y ganrif ddiwethaf, er pwysiced y wladwriaeth, yr oedd yn bell iawn o fod yn oll-bwysig a hollalluog.

Mae'n amlwg mai hollalluog ac anfeidrol fyddai'r unben hwnnw a allai gyflawni'r holl oruchwylion ar ei ben ei hun, gan lwyddo i wneud hynny'n ddidragwydd ddydd ar ôl dydd drwy gydol y flwyddyn.

'Rydw' i'n dda iawn, diolch i'r Hollalluog, ac yn llawer gwell na'm haeddiant.

Yna, dyma hi'n rhoi copi o weddi Saesneg i mi, rhag ofn y byddai'r weddi o gymorth i rywun arall: Hollalluog Dduw, a wnaethost bob dydd i'w fyw yn llawn, bendithia bawb o'r to hŷn.

Plygwn ger dy fron, y Creawdwr hollalluog, gan ryfeddu at dy nerth a'th ddoethineb.

Ond ar ôl cyrraedd y swyddfa, efo pob stamp a llofnod bosibl, dyma ddarganfod nad oedd y person hollalluog arbennig efo'r goriad ar gael tan y prynhawn.

'Duw anweledig, Duw bendigedig, meddwl tragwyddol, Trindod fendigedig anfeidrol, llawenydd anhraethol, Meistr hollalluog, undeb llonydd, anfesurol tragwyddol' a geir.