Mae'r cartref, wrth gwrs, yn hollbwysig o ran sefydlu arferion defnyddio'r iaith ymysg pobl ifanc.
Rwyn credu bydd tactegau Steve yn hollbwysig heno, meddai.
Yr oedd gofalu bod y cylchgrawn yn cyflawni'r swyddogaeth ddwbl yma'n hollbwysig i'r golygydd, canys gwyddai ef o brofiad am gymaint a ddymunai gadw ei fudiad hereticaidd yn fud, a'i dewi am byth, os yn bosibl.
Mae'r gêm hon yn rhan hollbwysig o gynllunie Graham Henry ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a Chwpan y Byd nesa.
McGregor sgoriodd y gôl hollbwysig wedi awr a hanner o chwarae.
A dwi yn poeni bod y nod hwnnw yn diflannu o'r gôl hollbwysig honno a elwir yn ddatganoli grym.
A'r nod arall, anodd ond hollbwysig, ydyw cyrraedd at Olwen a dysgu cyd-fyw â hi, sydd fel y lloer i'r haul, yn ei adlewyrchu liw'r nos fewnblyg.
Mae tîm pêl-droed Cymru'n wynebu wythnos hollbwysig yn eu hymdrech i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd.
Roedd ar y dynion yma ei angen at ddibenion arbennig, roedd yn hollbwysig ei fod ar gael ar gyfer eu bwriadau, ac fel uchelswyddogion pob oes yn gweithredu yn enw eu gwlad rhoed rhwydd hynt iddynt fwrw ymlaen â'u cynlluniau.
Yn ogystal â hyn, gall delwedd ddwyieithog fod yn fantais y tu hwnt i Gymru, yn enwedig yn y marchnadoedd hynny lle mae delwedd unigryw yn hollbwysig, neu lle byddai dangos dealltwriaeth o amlieithrwydd yn eu huniaethu â'r farchnad gynhenid.
Mae hyn yn hollbwysig hefo sugnion rhosynnau.
Beth bynnag, yn ôl a gofiaf, pan fu rhaid iddo ddangos y 'cerdyn' hollbwysig yn y diwedd, fe ddywedwyd yn garedig wrtho fod Pantycabal wedi bod yn gyfan gwbl yn yr iawn, er ychydig yn ddihiwmor o bosib, a'i fod ef, Waldo, wedi troseddu wrth beidio â dangos y cerdyn, ond y câi ef ei esgusodi'n llwyr pe bai ef yn sgrifennu ychydig o'r hanes ar gân i'r Pembrokeshire Police Gazette; ac yno, onid wyf yn camgymryd, yr ymddangosodd y gerdd am y tro cyntaf.
Hyd yn oed ym mis Rhagfyr fe allai'r gêm hon fod yn hollbwysig yn y frwydr am y bencampwriaeth eleni.
Roedd bywyd y colier yn hollbwysig yn fy nghefndir i.
Flynyddoedd yn ddiweddarach gellid dadlau o hyd i'r achlysur fod yn un hollbwysig.
Roedd y paced hollbwysig yn dal ar fwrdd y gegin!
Y gwahaniaeth hollbwysig rhwng cyseptau fel hyn a rhai yr astroffisegwyr yw bod yr hyn a ddywedir ganddynt hwy yn ffeithiau ac nid yn ddyfaliadau neu ddychmygion awenyddol, barddonol.
Y sêl hon yw nodwedd hollbwysig yr wyddor newydd.
Maen teimlo y gallai ei bresenoldeb yn annerch Pwyllgor Technegol Undeb Rygbi Cymru nos Iau, fod yn hollbwysig.