Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hollti

hollti

Ac fe ddaeth y dydd pan godwyd baneri ar ben pob glofa, uwch y ddrifft hon, a'r pwll acw, ac fe dynnwyd lluniau'r glowyr buddugoliaethus, gwynder eu gwenau yn hollti'r du%wch a orchuddiai'u hwynebau, yn dathlu'r dydd pan ddaeth y cyfan oll yn eiddo i blant yr addewid.

Ar hyd y blynyddoedd, roedd ieuenctid yr ardal wedi'u hollti'n ddwy garfan, yn bennaf ar sail pa ysgol uwchradd y mynychent.

Sythodd ei gefn nes bod ei grys yn barod i hollti a dangos ei fol anferth.

Llanddewi Brefi fraith Lle brefodd yr ych naw gwaith Nes hollti Craig y Foelallt.

Mae'n wir hefyd ei fod ambell wythnos yn ei chael yn anodd i lenwi'r golofn, a gwelir tuedd iddo "hollti blew ar adegau felly.

Darganfuwyd fod y broses hon o hollti'r atom yn cynhyrchu ac yn rhyddhau ffrwd anhygoel o ynni, a dyma'r egwyddor sydd y tu ôl i'r bom atomig.

Roedd ei phen yn hollti.

Yn wir ymddengys fel pe bai rhywun wedi hollti'r graig â bwyell.

Daethom i'r casgliad mai cymryd pethau'n hamddenol yr oedd, a'i fod o bosibl yn clertian y tu cefn i un o'r tomennydd coed, ei ben bron hollti ar ôl yfed gormod o sake (gwin-reis y Siapaneaid) y noson cynt.

Suddodd o dan y llong a gwelodd fod un o'r estyll yn dechrau hollti a bod y Uenni copr yn codi oddi ar yr agen.

Bu+m yn llifio coed am sbel y bore yma ac yna yn hollti rhai o'r blociau yn goed tân a'u pentyrru'n dwt wrth y drws cefn.

Roedden nhw hyd yn oed yn barod i hollti eu meginau.

Yn union fel ni ddylid ysgaru'r ymgnawdoliad oddi wrth yr iawn, na ddylid ychwaith hollti'n ormodol rhwng bywyd Crist, ei aberth, ei atgyfodiad a thywalltiad yr Ysbryd Glân.

Cofiodd iddi hi glywed ymadroddion fel 'Môr yn berwi' a 'Creigiau'n hollti' gan mai canu am ddydd mawr y farn a wnaent.

Dyna benderfynu cyflwyno un arall, a hollti'r defnydd rhwng y ddau.

Ond awn ni ddim i hollti blew am hynny rwan.

Iddo ef neges seml oedd yr Efengyl a gallai fod yn bur bigog ynglyn â diwinyddion a oedd yn sefyll yng ngoleuni gwrandawyr trwy hollti blew'n fympwyol."Take heed", meddai, "of sophisticating the Gospel." Fel y Ficer Prichard, credai Wroth fod gwerth mewn llunio penillion ar batrwm y cwndidau i wneud hanfodion y Ffydd yn gofiadwy i'w bobl.

Mynych oedd y gwyliau drama tair act, a brwd, hyd at waed bron, oedd ymrwymiad y cyhoedd i'w cwmni%au bro, a pheryglus oedd hynt y beirniad druan fyddai'n gorfod hollti blew wrth bvwyso a mesur rhagoriaethau'r cystadleuwyr.

Ceir, hefyd, atodiadau ar animus ac anima, ar hollti'r pen, ac ar y tabŵ neu waharddiad ar losgach.

Trwy hollti cnewyllyn atom yr elfen iwraniwm, llwyddodd gwyddonwyr yr ugeinfed ganrif i greu ynni niwcliar.

Chwarddai nes yr oedd y dagrau yn rhedeg dros eu ruddiau a'i ochrau ar hollti gan chwerthin.