Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

honedig

honedig

Tuedda'r cynrychiolwyr busnes honedig mewn ardaloedd gwledig i fod yn anwybodus am anghenion yr economi neu'r anghenion sgiliau heblaw am bersbectif cul anghenion eu cwmni neu sector eu hunain.

Yn ei bennill ar Forgan y mae Valenger yn gwrthgyferbynnu ei gybydd-dra honedig ag afradlonedd y Dr Thomas Preston, a oedd yn hoff iawn o lwyfannu masgiau ac a lysenwir yn 'Jason'.

Cyfeiriodd Symons hefyd at anniweirdeb honedig y gwragedd yn siroedd Brycheiniog, Maesyfed a Cheredigion:

'Am dros ddegawd, dioddefodd y system addysg yng Nghymru ffrydlif o ddiwygiadau honedig nad oedd yn berthnasol i Gymru, ac yn ymwneud yn unig â dogma marchnad rydd y Torïaid.

Wedyn mae'r plismon yn nodi'r drosedd honedig ar ffurflen, ac yn ei rhoi i'r gyrrwr.

Gall bod dau darddiad o'r enw Cardamine, un yn golygu berwr dwr oherwydd blas cyffelyb y dail a'r llall oherwydd ei allu honedig i leddfu anhwylder y galon.Cyfeiria'r pratensis at y gweirgloddiau.

Ac er fy mod i'n meddu ar luniau gwell ohono na'r papurau newydd a gyhoeddai luniau honedig ohono fyth a hefyd, nid oedden nhw wedi fy mharatoi.

Ar ddechrau'r chwyldro, cafodd aelodau eglwysig eu herlid, yn rhannol oherwydd eu ceidwadaeth a'u rhagrith honedig, ond hefyd gan eu bod wedi rhoi lloches i wrthwynebwyr y chwyldro yn eu haddoldai.

Effaith honedig gwasgaru defnyddiau ymbelydrol ar y boblogaeth leol oedd testun rhaglen Fighting for Gemma ar HTV -- sef brwydr i achub bywyd merch ifanc yn dioddef o liwcemia.

Mae'n iawn i amau eu nai%frwydd honedig.

Mae dau aelod o dîm Stade Français, wedi'r holl ddadlau, nawr wedi clywed eu bod yn cael eu henwi am chwarae brwnt honedig yn erbyn Abertawe.

Gan ei amddiffyn ei hun, broliodd Churchill am ei 'niwtraliaeth' honedig, tra'n canu clodydd yr heddlu.

Llew Jones oresgyn y broblem honedig hon yn ddidrafferth trwy lunio stori ddigon gafaelgar i bontio unrhyw agendor.

Hiwmor realistig a geir fan hyn: Tref yn ei hanniddigrwydd yn cynnal sioe oleuadau un-dyn yn y Rex i gyfeiliant miwsig band bywiog; June yn dychwelyd o Birmingham heb lwyddo i gael y joban er-ail-wampio-ystadegau-di-waith-y- llywodraeth oherwydd methu ag enwi deg lefel 'O' pan holwyd hi am ei chymwysterau honedig!

Yr oedd 'Y Bwthyn yng Nghanol y Wlad', wrth gwrs, yn sumbol rhyngwladol o'r dedwyddwch gwladaidd honedig y gwnaeth y Mudiad Rhamantaidd gymaint i'w boblogeiddio.

Ac mae'r ffaith fod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cau'r drws ar ragor o ymchwil i unrhyw gysylltiad honedig wedi arwain at ragor o ddrwgdybiaeth o gymhellion y llywodraeth.