Rhyw fath o syrcas oedd yna heddiw 'ma, a dyn yn hongian yn y to, ar ddim byd ond weiran bach dena' dena', mor dena' fel na fedra neb ei gweld hi, bron iawn.
Mae gennyf gof fel y byddai mam a finna yn galw yno lawer i nos Sadwrn i gael torth fawr, a chael paned o de ar y bwrdd bach crwn, a byddai y Beibl ganddi ar y silff pen tan, ac yn hongian byddai Almanac Robert Roberts Caergybi, a llyfr cyhoeddiadau y Methodistiaid Calfinaidd (roedd hi yn ofalus iawn o'r achos).
Dro arall fe dorrodd i mewn i'w swyddfa drwy'r ffenest, gwasgaru ei ffeiliau, a rhwygo baner Jac yr Undeb oedd yn hongian ar y wal.
Cael mynd i mewn i'r gegin i ddewis bwyd a gweld hwyaid wedi sychu yn hongian ar y wal yno.
Nid boliau mawr yn hongian ar esgyrn di-gnawd yw unig arwyddion newyn.
Rhowch ef i hongian â'i ben i lawr a gwyliwch.
Yn crynu ac yn chwys i gyd, mi edryches lan, a dyna lle'r oedd mistir yn hongian wrth drawst, a'i dafod allan a'i ddau lygad ar agor yn rhythu arna i.
"Oes gen ti fap a Phren mesur?" "Oes, dacw fo." Roedd map crand iawn gan Lludd yn hongian ar y pared.
Fe geisia i afael yn y wifren sy'n hongian o du ôl y llong.
Gyda cheir yn hongian wrth ei gilydd gerfydd y tyllau lle'r arferai rhwd fod dydy'r heddlu ddim yn debyg o'ch stopio chi i ofyn oes gennych chi yr hyn sy'n cyfateb i MOT.
"Y peth cynta weles i oedd cysgod dwy goes yn hongian mor llonydd â phendil cloc wedi stopo.
O'm blaen yn awr, Llwybr Afon Vallember tua'r dyffryn cul, mor gul nes bod hogiau'r hafod wedi medru hongian baner ddu hir hanner y ffordd rhwng ei ddau fur, tua mil o droedfeddi uwchben yr afon.
Nid oedd fy fferau i yn ymwthio dros ymylon fy esgidiau bach i fel rhai Emli Preis, na fy nwyfron i'n hongian mor llac, na'm bol i mor dynn chwaith o dan fy sgert i.
Yno y diflannai am oriau, yn blentyn, i hongian ar iet yr ardd, ac i smalio gyrru car mewn sgerbwd hen dractor rhydlyd.
Priod y dragwyddol Hanfod Wela' i'n hongian ar y pren...
Roeddet yn ofni y byddai golau dy ffagl yn tynnu sylw'r milwyr, ond fe fyddai'r golau wedi dy alluogi i weld y cleddyf miniog a oedd yn hongian o'r nenfwd.
Pan fyddai gan y gof egwyl ym misoedd yr haf, a'r ffermwyr yn brysur gyda'r cynhaeaf, byddai yntau yn 'troi pedolau', rhai ugeiniau o barau o wahanol faint, a gwelid hwy yn rhesi yn hongian yn yr efail.
Pan straffagliais allan o'r dŵr fel chwiadan wlyb a drewdod y mwd yn fy ffroenau, yn y pellter, newydd ymddangos o'r coed, sleifiau Talfan a'i griw, a'i wn yn hongian dros ei ysgwydd.
Amheuaf ai Miles oedd yr enw arall, ond gwn fod cerdyn coffa am hen gyfaill iddi yn hongian ar y mur ar bwys y lle tan yn yr ystafell flaen ac mai enw ei chyfaill ymadawedig oedd Mary Miles Minter a gwn fod y cyfenwau Miles a Minter i'w cael yn weddol aml yn Ne Penfro.
Beth bynnag, mi ddaeth yna gar yn gyflym o'r ochr arall i'r ffordd efo pobl yn hongian allan ohono a machine guns yn eu dwylo.
Gan wybod fod distawrwydd yn andwyol i gerfiwr nerfus, ceisiais ailgychwyn ymgom gyffredinol trwy wneuthur sylw edmygol parthed darlun o General Buller a oedd yn hongian ar y pared gyferbyn.
Roedd Dad newydd gyrraedd yn ei ôl, ac yn hongian ei gôt yn y pasej.
Fe gawson ni ein bygwth tra'n ceisio ffilmio gŵr oedd wrthi'n torri camel yn ddarnau, yr anifail wedi'i rannu'n goesau, pen, gwddf a thafelli o gig coch ac ar fin cael eu hongian ar un o stondinau prysur y farchnad.
Dyna lle maent yn hongian ar y rhaff, ac yn rhoi'r trosol o dan y cerrig rhyddion hyn a'u bwrw i lawr.
Gofynnais i feddyg eiddil o dan fwrn ei ddiferion chwys - mewn oerni unig ynglŷn â chyflwr claf arall - am ganiatâd i roi chwistrelliad o gyffur cry' i arbed poen i'r bachgen deunaw oed a oedd yn cynhyrfu am fod ei lygad de yn hongian allan o'i ffynnon goch ac yn gorffwyso'n flêr ar ei rudd lwyd; ac yn disgleirio yn las tuag ataf .
Peth peryglus fyddai hongian darlun gwerthfawr fel hwn yn wyneb haul, llygad goleuni.
A chyn dechre pregethu yn yr eglwys gyntaf dvma fe'n hongian y cadach coch ar fraced y lamp wrth ben y pulpud, a phob tro yr oedd am bwysleisio rhyw wirionedd yn ei bregeth, dywedai, gan bwyntlo at y cadach coch bob tro, 'And that's as true, brothers and slsters, as my lunch is in that handkerchief!' Yr oedd rhai o stori%au difyrraf Waldo yn ymwneud â'i deithiau yn b Iwerddon.
Pa fedal fyddai fyth yn ddigon cymwys ac addas i hongian o gylch ei gwddf fel teyrnged i'w dewrder yn sefyll yn yr adwy i'n hatal ni y gwþ þ ie, y rhai cryfaf, i fod þ rhag llwyr golli ffydd a mynd ar ddisberod gyda'r genfaint foch?
Hwnna yw e, ife?' meddai'r crwydryn, a thôn ei lais yn newid, a chyn i Idris gael cyfle i'w rwystro, ysgythrodd am y gadwyn yr oedd yr afal yn hongian wrthi.
Fe'u rhoed i hongian yn y granar ond drannoeth yr oedd y lle'n drewi yn y modd mwyaf dychrynllyd a bu'n rhaid eu claddu ar fyrder.
'Mi faswn i'n stwffio fy mysedd i'w ben o nes y byddai ei ddau lygad o'n hongian hanner ffordd i lawr ei foch.
Yn ei law dde cariai bastwn byr gyda phelen bicellog yn hongian oddi wrtho ar gadwyn.
Wedyn, dyma'r ddynas yn rhoi pib i bawb i hongian wrth labad ei gôt, a'n gwahodd ni i'w chwythu nhw, ac mi fasach yn meddwl wrth y sþn fod yna griw o sgyrsions ar stesion Gaer wedi mynd yn groes.
A choffi gyda chi.' Erbyn i Kirkley gyrraedd swyddfa Andrews â mygaid o goffi yn un llaw a nifer o ffeiliau yn y llall, roedd côt Andrews yn hongian y tu cefn i'r drws ac Andrews wedi cymryd ei lle yn y gadair.
Yn cyd-bwyso â ffigur yr arlunydd mae ceiliog marw yn hongian gerfydd ei draed, fel arwr cwympiedig.
Dacw'r nefoedd fawr ei hunan 'N awr yn diodde' angau loes, Dacw obaith yr holl ddaear Heddiw'n hongian ar y groes; Dacw noddfa pechaduriaid, Dacw'r Meddyg, dacw'r fan Caf fi wella'r holl archollion Dyfnion sy ar fy enaid gwan.
Yr arferiad oedd trochi sach trwm, fel yr un a arferid ei ddefnyddio i gario grawn ar ddiwrnod dyrnu, yna ei hongian dros glwyd y cae yn union ar ol gorffen aredig.