Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

honnir

honnir

Honnir ar siaced lwch Y Gaeaf Sydd Unig Marion Eames, er enghraifft - nofel sy'n trafod cyfnod Llywelyn Ein Llyw Olaf : Er bod cymdeithas wedi newid yn ddybryd ers yr amser hynny, mae'r nofel yn dangos nad oes terfynau amser ar ymateb y natur ddynol i broblemau oesol cariad, cenfigen, dyletswyddau a marwolaeth.

"Mi fydd pobol Cwmystwyth wedi cyrraedd y Nefoedd yn eu clocsiau tra bydd pobol Aberystwyth yn cerdded y prom yn eu slipers." Honnir iddo unwaith ddweud wrth gynulleidfa fod eu pechodau, "cyn ddued a chachu mochyn".

Honnir mai digwyddiad Canwr y Byd Caerdydd yw'r gystadleuaeth gerddorol glasurol sy'n cael ei gwylio fwyaf yn y byd.

Honnir mai digwyddiad Canwr y Byd Caerdydd yw'r gystadleuaeth gerddorol glasurol syn cael ei gwylio fwyaf yn y byd.

Honnir gan rai bod problemau mawr yn codi mewn ymarferion o'r fath, ond yn yr achos hwn fe ddeillia'r ymarfer yn gwbl naturiol o'r gwaith.

Yn y gweddi%au Lladin hyn honnir bod Santes Dwynwen wedi dod i Gymru o Iwerddon a'i bod wedi cerdded dros y môr.

Yn ogystal, honnir ei fod yn dioddef cyfnodau maith o iselder ysbryd ac yn crwydro coridorau'r barics yn siarad â'i hunan.

Honnir fod hwiangerddi yn llawn 'ageism, sexism a racism'. Cwmni Macdonald yn penderfynu tynnu cyfeiriadau at 'golliwogs' du o straeon Noddy.

Honnir yn aml mai ceisio'r gwirionedd a wna'r gwyddonydd.

Honnir iddi orchymyn llysgennad Ariannin yn Awstralia i ddanfon cangarw adre er mwyn addurno gardd y palas arlywyddol.