Yn naturiol ddigon byddai rhyddhau'r hormon yma ar y farchnad agored, er i'w wneuthurwyr honi ei fod yn hormon naturiol sydd yn y fuwch eisoes, yn hoelen arall yn arch gwerthiant llaeth wedi ei gynhyrchu o ganlyniad i hormon.
Yn ffodus, ac oherwydd pwysau cyson a pharhaol o du'r undebau amaethyddol, mae'n fwy na thebyg y caiff gwaharddiad parhaol ar yr hormon yma gael ei gyflwyno maes o law.
Nid yw'r hormonau BST ar gael yn gyffredinol eto, ond caniatawyd defnydd o'r hormon mewn buchesi dethol i brofi ei effeithiolrwydd.