Agorodd y gyriedydd y cawell fel y gwnaethai lawer gwaith o'r blaen mae'n siwr, plygodd Mrs Trench a dechreuodd rannu'r hosanau llawnion gwerth eu cael.
Teganau gwerthfawr fyddai yn y hosanau, a wnaed gan ryw Tom Smith os cofiaf yn iawn, a llanwyd yr ysgol gan ein lleisiau ifainc yn canu mewn Saesneg Cymreig iawn.