Gellir adnabod, er enghraifft, anifeiliaid sy'n cario genynnau niweidiol, a'u hosgoi ar gyfer magu.
Yr ymateb swyddogol i'r newidiadau yn Nwyrain Ewrop oedd bod y gomiwnyddiaeth Sofietaidd wastad wedi gwneud camgymeriadau yr oedd y Cubaniaid wedi eu hosgoi.
Ciliai Sioned o'i gŵydd yn y swyddfa a thueddai Ben, hyd yn oed, i'w hosgoi.
Cred y Gymdeithas y gall pob damwain yn y gwaith gael ei hosgoi a bydd amgylchiadau unrhyw ddamwain, boed honno yn un a arweiniodd at niwed neu beidio, yn cael eu harchwilio a lle bo modd, cymerir camau gan y rheolwyr i leihau'r posibilrwydd o ddamwain debyg yn ailddigwydd, (a gweler Trefniadau Argyfwng).
I'r tadau Methodistiaid Calfinaidd ym Mon, ac yn wir ym mhob ardal yng Nghymru bron, roedd Gwyddelod a Phabyddion i'w hosgoi ar bob cyfrif, ac felly roedd llongau Cymreig yn perthyn i Fethodistiaid Calfinaidd Cymraeg, gyda chapteiniaid a swyddogion a oedd yn aelodau o'r un enwad, yn llawer mwy deniadol na llongau porthladdoedd Lloegr a oedd yn llawn o Wyddelod tlawd, afiach.Dyma pam y daeth llongau Davies Porthaethwy mor boblogaidd a chawsant lwyddiant ysgubol yn y fasnach i Ogledd America, gyda'u llongau'n cludo llechi ac ymfudwyr i Quebec, Efrog Newydd a New Orleans, ac yn dychwelyd gyda llwythi gwerthfawr o goed Gogledd America i adeiladu tai a llongau yn yr hen wlad.
Symbol yw'r Gors o'r elfen ym mhrofiad dyn na ellir ei hosgoi, a'r gosb a ddaw yn sgil anonestrwydd.