y wawr yn codi ar Gymru, hualau'n cael eu lluchio ymaith, iau gormes canrifoedd yn cael ei thynnu, y mynyddoedd yn bloeddio canu, y coed yn curo dwylo, ac felly ymlaen.
Wedi'r trobwynt diflannodd yr hualau.
Enghraifft o'r gwrthdaro hwn oedd ymgyrch y merched, a oedd yn rhan o'r ysbryd gwrthryfelgar a ysgubai drwy Ewrop, y chwyldro i ryddhau cymdeithas o afael hualau gormesol y gorffennol.
Bydd yn rhaid wrth chwyldro cyn y teifl proletariat Cymreig ymaith yr hualau hyn.
Fel pe bai wedi ei ryddhau am ychydig o hualau'r drefn Sofietaidd byddai Mr Gorbachev yn gwneud yn fawr o'i gyfle i draethu gerbron torf enfawr o ohebwyr.
Nid person ydyw Culhwch i Layard, ond Ego, sef craidd person, sy'n gorfod mynd ar ofyn yr Hunan, sef Arthur, i'w helpu i gyflawni'r tasgau sy'n angenrheidiol er mwyn cael rhyddhad oddi wrth ddylanwadau a hualau a osodwyd arno, neu er mwyn medru dod i delerau, a dysgu cyd-fyw, â hwy.
Nid tasg syml serch hynny yw diogelu traddodiadau, meithrin hunaniaeth, meithrin perthynas effeithiol efo gwledydd y Gorllewin a'r Dwyrain a sicrhau ffyniant economaidd wrth ddiosg yr hualau Sofietaidd.