'Roedd Huana yn ferch hardd ond na fyddai byth yn codi'i phen oddi ar y ddaear un ai o swildod rhag i'r haul edrych arni neu o euogrwydd rhag i rywrai o'r llys edliw ei throsedd iddi.
Merch fach Huana oedd hi, yn mynnu herian y ddau fachgen yn barhaus.
Fel ei mam, Huana, yr oedd Gwenhwyfar yn dlws a llywethau'i gwallt du yn disgyn yn drwm dros ei hysgwyddau a'r ddau lygad fel dwy eirinen yn las tywyll uwch dwy foch goch.
Huana, ei chwaer oedd yn gwarchod Owain Goch a Llywelyn gan eu llusgo o gaer i gaer dan orchymyn y Tywysog.