Ynghanol yr helynt hon y cyflawnodd Morgan waith mawr ei fywyd, sef cyfieithu'r Hen Destament (ac eithrio'r Salmau) a'r Apocryffa o'r newydd i'r Gymraeg, a diwygio cyfieithiadau William Salesbury o'r Salmau a'r Testament Newydd - fel y clywsoch yn gynharach fore heddiw, fe gafodd Salesbury beth help gyda'r Testament Newydd gan Richard Davies a Thomas Huet.
Ac eithrio I Timotheus, Hebreaid, Iago a I ac II Pedr, a gyfieithwyd gan yr Esgob Richard Davies, a'r Datguddiad, a gyfieithwyd gan Thomas Huet, William Salesbury oedd cyfieithydd cynnwys y ddwy gyfrol, ac ef a olygodd y cyfan hefyd.