Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hufen

hufen

Dim mwy o fefus a hufen i Greg Rusedski wrth iddo golli marathon o gêm bedair awr ar y diwrnod cynta i Americanwr o'r Vince Spadea.

Gellir gwella'r blas trwy gymysgu stribedi mân o fetys efo sôs hufen neu mayonnaise ac ychwanegu lovage, teim a hadau carddwy.

Gynt yr oedd hufen yr arweinwyr a goreuon doniau cymdeithas yn gwasanaethu'r Ffydd ac yn aelodau mewn eglwys.

"Ble'r aeth eira llynedd?" fydd Mam yn ei ddweud pan fydd y gacen siocled wedi diflannu i gyd a neb yn gwybod i ble!' 'Ie,' torrodd Delwyn ar fy nhraws a "Caws o fola ci% fydd hi'n ei ddweud pan ofynna i iddi am arian i brynu hufen iâ, ac addo'i thalu'n ôl yr wythnos wedyn.'

Ar y grib nefolaidd cawsom hufen iâ, gwin a gwledd o olygfa i lawr dros y pîn i'r smotiau tai a'r twr eglwys a oedd fel rhithlun yn nhes haul y dyffryn.

Roedd Guto Llew yn parhau ar ufflon o fform ac wrth ei fodd yn gweld cymaint o hufen y genedl o gwmpas roedd presenoldeb cryf yr heddlu'n ei blesio i'r dim hefyd.

Coeden, a thwrci, a phwdin Nadolig, a sôs llygeirin a chnau a hufen.

Wedi darganfod dull o wneud rhyw fath o hufen iâ - rhewi llefrith a ffrwythau neu fisgedi siocled wedi eu cymysgu.

Mi glywais y lleisiau a glywais yng Ngherrig Duon sawl tro wedyn mewn drama neu stori ar y radio a'r teledu, a theimlo mod i'n 'nabod cymeriadau Carreg Boeth (Hufen a Moch Bach) cystal â'r Parch.

Dyma hufen pysgota sewin gan rai pysgotwyr.

Rhys: Brwyn y tir llaeth sy'n melynu'r hufen, fe allwn gywiro menyn a magu lloi .

Prynodd guazi (hadau blodyn haul), bisgedi blas chilli, siocled a phapur i Kate a finnau, a rhyw fath o hufen iâ od wedi ei wneud o ffa soya.

Wedyn ychwaneger nytmeg a hufen sur neu iogurt.

Erbyn iddynt fwyta eu sosej a'u sglodion a'u hufen iâ bob tamaid a mynd i'r lle chwech efo Owain ac i'r ystafell newid clytiau efo Guto, roedd awr a hanner wedi mynd heibio er pan adawsant y car, ac yr oedd Carol ar bigau'r drain yn poeni am Emyr ar ei ben ei hun yn tŷ yn pryderu amdanynt hwythau.

Sonia R. T. Jenkins yn un o'i lyfrau am borthmyn y ddeunawfed ganrif yn gyrru'r gwartheg drosodd o Gymru i ffeiriau Lloegr; nid gwartheg a yrrwyd o Gymru i Loegr yn y tridegau ond hufen pobl ieuanc y genedl.

Ewel - Ceri ydi'r hufen ar y gacen ac ef ydi'r wyneb.

Oedd llawer teulu arall yn gwneud yr un peth cofiwch, a felly, picnic mawr neu "banquete% gredaf i oedd y peth, gan fod pob math o jams a theisennau a llaeth ffres a hufen tew i'w gael yno.

Mae Mark, fel ei dad, wedi treulio cyfnod yn y carchar a hynny am werthu cyffuriau i blant ysgol - defnyddiodd fan hufen iâ i guddio ei fusnes twyllodrus.

Blodeua'r tegeirian prinaf yn nechrau mis Gorffennaf sef y tegeirian llydanwyrdd Platanthera chlorantha, â'i flodau gwyrdd a gwyn yn rhoi gwawr lliw hufen i'r caeau.

Llawn yn y llaethdai oedd y crochanau o hufen a'r pedyll pres o faidd.

Mae'n anodd eu gweld nhw am fod eu cotiau meddal lliw hufen yn ymdoddi i'r cefndir gwyn.