"Wel, na, 'dwy ddim..." "Nag wyt, neu 'faset ti ddim yn sôn am ddiddanwch yn yr un anadl â hi." "Blin?" "Nid hynny'n gymaint â'i bod hi wedi mynd i dra-arglwyddiaethu yn y fan acw." "Beth am y misus?" "Mae'r hulpan honno o dan yr argraff y caiff hi gydaid o bres ar 'i hôl os bydd hi farw, ac mae'nhw fel person a chlochydd hefo'i gilydd.
Ac mae'r hulpan arall cyn wirionad â hitha.