Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hunaniaeth

hunaniaeth

Ar y llaw arall, wrth gwrs, dylid nodi fod yr anfodlonrwydd hwn yn arwydd o rywbeth amgen, sef yn ~wydd o ymdeimlad o arwahanrwydd, ymdeimlad a aeddfedodd yn fuan iawn mewn seiat a sasiwn yn ymwybod â hunaniaeth.

Cyfrol yn astudio cyfraniad crefydd i'r ymdeimlad o hunaniaeth genedlaethol.

Yn yr amgylchiadau hyn, a'r Basgiad yn ymladd dros ei hunaniaeth Fasgaidd, "y mae iddo siarad ei iaith ei hun yn weithred chwyldroadol".

Y mae ceisio cysoni'r ffaith hon a'r teimlad o falchter cenedlaethol, hyd yn oed a hunaniaeth genedlaethol, yn orchwyl poenus o anodd.

Er mai Saesneg oedd yr iaith swyddogol a orfodwyd o du allan, trwy gyfrwng y Gymraeg y bu i'r trigolion hyn ymwneud â'i gilydd a diffinio eu hunaniaeth.

Dyna ichi broblem y Dryswch Hunaniaeth wedyn.

Mewn gwlad nad oes ganddi ei llywodraeth ei hun ac sydd wedi dod yn rhan o wead gwleidyddol gwlad arall, a honno'n genedl llawer mwy, bydd teyrngarwch pobl yn dechrau simsanu a'u hunaniaeth yn gwanhau.

Heb fentr newydd gwelir fel y gall y Wyddeleg ddirywio'n gyflym i fod yn ddim amgen na symbol ffurfiol o hunaniaeth y Gwyddyl.

I genedl fel Cymru sydd heb ei gwladwriaeth ei hun y mae sefydliadau cenedlaethol, megis Prifysgol, Amgueddfa, Llyfrgell, Eisteddfod ac yn y blaen yn hanfodol at amddiffyn ei hunaniaeth.

Hunaniaeth - Un o uchafbwyntiau'r albwm a chân sy'n rhyngwladol ei hapêl.

Mewn cyfnod cyfnewidiol i hunaniaeth Cymru, roedd y gyfres Jones, Genes and Evolution (a wnaed gan Fulmar West) yn amserol iawn.

Y mae'r Cristion yn rhwym o barchu a chefnogi ymdrech dyn i gadw neu sicrhau ei hunaniaeth a'i urddas gan i Grist roi'r fath werth ar y person dynol.

b) dynodi beth yw ieithoedd swyddogol Cymru fel rhan o'i hunaniaeth greiddiol fel bo darparwyr gwasanaethau a masnachwyr o'r tu allan yn enwedig yn ymwybodol o fodolaeth yr iaith Gymraeg a dyhead pobl Cymru i greu dyfodol iddi.

Nid oedd yr ymchwil am hunaniaeth yn llenwi byd y sgrifenwyr Cymraeg i'r un graddau, efallai, ac eto yr oedd pryder ynghylch dyfodol Cymru yn destun cyson yng ngwaith y goreuon ohonynt hwythau, - Gwenallt a Waldo Williams, er enghraifft.

Mae celf sy'n ymwneud â maerion perthnasol, er enghraifft, â chynefin a hunaniaeth sydd dan fygythiad, yn perio poen.

Yr hyn y mae'r adroddwr yn chwilio amdano yw person sydd â hunaniaeth sydd yn annibynnol ar y naill Almaen a'r llall, un sydd yn medru siarad heb fod ei eiriau yn adlewyrchu syniadaeth y naill wladwriaeth na'r llall.

Fodd bynnag, mae'n hanfodol bod sector y amaethyddol yn parhau yn gadarn a llewyrchus, nid yn unig fel un'r prif ffynonellau incwm, ond hefyd fel ffactor i gynnal y boblogaeth wledig gynhennid, cadwraeth y tirwedd ac i sicrhau parhad hunaniaeth diwylliannol a ieithyddol ardal y Parc.

Gyda llais fel un Andrea nid oes posib methu gan ei bod yn rhoi hunaniaeth i'w cerddoriaeth.

Golwg ar wleidyddiaeth a hunaniaeth genedlaethol yr Eidal.

* fod yn atebol iddo * dderbyn ei farn a'i feirniadaeth yn agored * fod yn gefnogol a hyblyg i gwrdd a'i anghenion unigol * gael eu gweld yn gefnogol iddo fel unigolyn, gan gynnwys ei hunaniaeth, ei werthoedd a'i ddymuniadau.

Nodau Cyngor Celfyddydau Cymru i'r celfyddydau yng Nghymru yw bod celfyddydau o'r ansawdd uchaf yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru, eu bod ar gael i bobl Cymru ac yn dynodi dyheadau mwyaf aruchel arlunwyr a hunaniaeth ddiwylliannol unigryw Cymru.

Erbyn hyn roedd yr ymchwil am hunaniaeth wedi cychwyn o ddifri ac am ddeugain mlynedd beichiwyd llenyddiaeth Cymru (yn enwedig y rhan Saesneg) a'r rheidrwydd i archwilio lle'r hunan, a lle'r genedl yn y byd.

Byrdwn y gân ydy bod "hunaniaeth" yn bwysig inni gyd beth bynnag fo'n tras - yn enwedig os ydach chi'n Gymro.

Lle nad oedd un genedl yn ben, tuedd Herderiaeth oedd cryfhau hunaniaeth pob cenedl yn y wlad.

Ofni gweld ei gwlad (sef Lloegr) yn colli'i hunaniaeth sydd ar Margaret Thatcher.

* Cefnogi unigolion i ddatblygu eu hunaniaeth - wrth ddewis dillad a phethau i gyd-fynd, cysylltiadau cymdeithasol a chyfeillion.

Ni allant neu ni fynnant weld mai amddiffyn eu cenedl, eu hiaith neu eu hunaniaeth y mae pob cenedlaetholwr mewn unrhyw wlad.

Nid tasg syml serch hynny yw diogelu traddodiadau, meithrin hunaniaeth, meithrin perthynas effeithiol efo gwledydd y Gorllewin a'r Dwyrain a sicrhau ffyniant economaidd wrth ddiosg yr hualau Sofietaidd.

Nid yw'r ymchwil am hunaniaeth yn thema gwbl ddieithr ymhlith yr arddangosfeydd sy'n crwydro Llundain a gweddill Prydain.

Mae'n nhw'n dymuno byw'n ddi-enw, yn disgyn i sbeiral anobaith ac, oherwydd ofn unigrwydd ac ansicrwydd yn colli eu hunaniaeth."