Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hunig

hunig

Eu hunig obaith am loches oedd trwyn o graig ychydig bellter i ffwrdd a gyrasant eu ceffylau ato.

Cofiai ymweliad cyntaf Del â'r Neuadd Wen - ei hunig ymweliad fel y digwyddodd.

Ond ein hunig obaith yw dod o hyd i ambell ddelwedd i'w troi yn rhan o'n bywydau, rhan o fytholeg ein bywydau, i aros yn y cof, ynrhan o frethyn ein cyfansoddiad.

Er bod fy mam am roi'r enw 'Merlin' i'w hunig fab nid oes unrhyw sail i dybio fod ganddi lawer o wybodaeth am yr hen chwedl am Fyrddin Wyllt.

Eu hunig obaith oedd cael eu darganfod gan batrol mentrus o'r fyddin.

Ar Barc Jenner, bydd Y Barri gurodd Abertawe yn eu hunig gêm erbyn hyn, yn croesawu Cei Connah sydd heb bwynt yn y gystadleuaeth.

Ceisia gyfleu ei deimladau i aelodau eraill y grūp ond eu hunig ymateb yw mynnu bod yr amser am emosiwn heibio ac mai'r hyn sydd ei angen yn awr yw strategaeth a chanllawiau pendant ac astudiaeth o wleidyddiaeth, nid datganiadau o dristwch neu ddicter na hyd yn oed o lawenydd.

Caiff ei llywodraethu gan glymblaid Llafur/Plaid Werdd, a'i hunig enwogrwydd hyd eleni oedd y ffaith fod llafnau cyllyll o safon yn cael eu cynhyrchu yno.

Bu farw ei hunig fab rhai blynyddoedd yn ôl ond gedy wyr, Bob ac wyres Wendy.

Ein hunig ddiddanwch oedd y digwyddiadau bychain hynny a wnâi un diwrnod yn wahanol i'r dyddiau eraill.

Ac mae yna eraill, druan bach, a'u hunig sgwrs nhw ydi 'Fy operation gynta' a 'Yr operation fawr ges i 'mhen dwy flynedd wedyn'.

Ai ei hunig amcan yw cefnogi ymgais yr IRA i roi terfyn ar oruchafiaeth Llundain yn Ulster trwy losgi, bomio a saethu?

Sgoriodd Gaffie du Toit 16 pwynt i'r Sprinboks gan gynnwys eu hunig gais yn yr ail hanner.

Costiodd y ddau ryfel yn ddrud i'r llywodraeth ganolog, a oedd yn benderfynol o amddiffyn undod gwladol Ethiopia, yn arbennig am fod Massawa, un o'i hunig ddau borthladd, ar dir y gelyn yn Eritrea.