Un genedl fawr Brydeinig ydym, o dan yr un Llywodraeth, yn cael ein cynrychioli yn yr un senedd gyffredinol, ac y mae ein gwir nerth yn ein hunoliaeth... ac y mae'n rhaid imi ddweud nad oes ynof ond ychydig o gydymdeimlad â'r cri a godir yn y dyddiau hyn am gael Plaid Gymreig yn y senedd.