Y mae yr holl balasdai ardderchog y cyfeirwyd atynt, a channoedd heblaw hwy, heddiw yn syrthio yn gyflym i adfeiliad; mwy na hanner y rhai sydd o gwmpas Huntsville yn weigion; y gerddi blodau a'r perllanau yn llawn chwyn a'r mulod yn eu pori; naw o bob deg ohonynt `To be Sold or Let'.
Yn Huntsville, Alabama, y gwelodd hen stadau'r meistri cotwm, y grym gwleidyddol ac ariannol y tu cefn i'r gwrthryfel.