Dyna ran o arwyddocad parodi Williams Parry ei hun ar ei awdl fawreddog, 'Yr Haf.' Yn 'Yr Hwyaden' y mae'n gwneud sbort am ben y confensiynau hurt a ddaeth i ffasiwn yn sgil 'Yr Haf': y macwyaid, y brodyr gwyn a du, holl gyfarpar yr awdl ramantaidd, a droes yn amherthnasol i'r oes.
gofynnodd wil, a sylweddoli ar ôl gweld gethin yn edrych yn hurt arno na fedrai neb nofio mewn dyfroedd fel hyn.
Edrychodd y fuwch yn hurt arno a llyfodd ei thrwyn.
Roedd yn cael amser bendigedig yn mynd o gwmpas ar yr olwyn fawr - er bod pawb arall yn edrych yn hurt ar ei gastiau.
"Browning, ynte, Mr Francis?" "Ia, Aled." "Browning?" meddai Sam, yn hurt.
petai'r dorf am ddangos eu gwerthfawrogiad pellach aethant ati wedyn i gyfeirAo'r heddlu tuag at yr unigolyn hurt oedd wedi taflu'r botel a dyna ddiwedd ar y sefyllfa.
Teimlai'n oer a diamynedd ac roedd codi, a dim ond ei choban amdani, yn hurt bost.
'Neis iawn,' atebodd yntau'n hurt gan feddwl ei bod yn cyfeirio at y gusan.
Hysbyseb ddigon hurt a dweud y gwir o- Volvo yn disgyn o ben adeilad uchel a glanio ar ryw gwdyn mawr meddal.
Aethai drwy wythnos gyntaf yr arholiadau, ond gwyddai fod ei bapurau yn un gybolfa hurt ac nid oedd ganddo fawr o gof beth y bu'n ei ysgrifennu.
Yr wyf innau'n un o'r lleiafrif hurt sy'n gweld ynddo farwolaeth barchus ac esmwyth ac angladd ddialar i'r Gymraeg.
Dywedwyd wrth un aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg mai ef oedd y person cyntaf i ofyn am ffurflen o'r fath - sylw cwbl hurt o ystyried ein bod yn Aberystwyth.
Doedd dda ganddi hi ddim rhoi pigiada i bobl yn erbyn eu hewyllys chwaith, na gwthio tabledi ar bobl nes eu bod nhw'n hurt.
Edrychodd Llio yn hurt arni.
Y peth mwyaf twp heddiw oedd dwy ddarlith gan swyddog o Sgotyn, pryd y llongyfarchodd un o'r serjentiaid ar ei waith yn chwarae ffug-ddrama (rhedeg ar ôl ysbi%wr Almaenaidd ar gefn beic o Castellamare i Naples) a gofyn cwestiynau hurt iddo y byddai plentyn ysgol yn amharod i'w gofyn.
Rhaglen oedd hon i'n hatgoffa o flynyddoedd euraidd y gêm o gyfnod pan oedd Billy Meredith yn ffurfio undeb i'r pêl-droedwyr proffesiynol er mwyn sicrhau cyflog teilwng yn hytrach na'r arian hurt sy'n cael ei dalu heddiw i Beckham a'i debyg.
A'r tro hwn mae hi'n gweld y llecyn trwy lygaid artist ac yn rhyfeddu mor dlws ydi o." Dal i syllu'n hurt ar y ddau yr oedd Sam druan.
Un o'r golygfeydd gwleidyddol rhyfeddaf o fewn cof i mi oedd y lluniau hynny ar y teledu o Gerry Adams, arweinydd Sinn Féin, yn annerch seiswn cyntaf Cynulliad Gogledd Iwerddon mewn Gwyddeleg gyda'r Parchg Ddr Ian Paisley a'i giwed yn edrych arno'n hurt.
'Mae'n siwr y deudodd o'i stori wrtha chi?' Edrychodd Ibn arno'n hurt: 'Stori pan oedd o'n fach, pan roddodd 'i dad o ar ben y cwpwrdd?
Os oeddwn wedi disgwyl rhywbeth hurt, fel miloedd o blant yn canu a dawnsio i gyfeiliant darlleniadau o'r Llyfr Gwyrdd sy'n cynnwys doethinebau Gadaffi, fe sylweddolais yn fuan mai ysgolion oedd y rhain i bregethu undod Arabaidd yn erbyn y gelyn Iddewig.