Mae ein llwyddiant ni yn erbyn y Saracens wedi rhoi hwb i ni.
A rhoi'r peth yn fyr ac yn fras, awgrym Shelley ydyw fod y meddwl creadigol ar adegau'n cael hwb i weld yn amgenach nag arfer a hwb i fynegi'r weledigaeth yn amgenach nag arfer.
caiff addysg busnes a rheolaeth i siaradwyr cymraeg hwb sylweddol y flwyddyn nesaf pan agorir canolfan newydd trwy gydweithrediad menter a busnes a phrifysgol cymru.
pan mae unigolyn yn cael ei roi mewn sefyllfa lle mae'n llwyddo, mae'n derbyn canmoliaeth sy'n rhoi hwb i'r hunan hyder, a gyda hunan hyder y daw hunan barch.'
Dywed y capten dros dro, Adrian Dale, y byddai'n hwb mawr i'r tîm tasai James yn gallu wynebu Gwlad yr Haf yng Nghaerdydd yfory.
Rhoddwyd hwb sylweddol i hyder dysgwyr a chynyddwyd y cyfleoedd iddynt hwy a siaradwyr brodorol i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywyd-bob-dydd.
Crëwyd y cronfeydd i gynnig cymorth i ardaloedd sydd wedi dioddef o ganlyniad i ddirywiad diwydiant traddodiadol yr ardal ac sydd angen hwb ariannol o ganlyniad.
Ond nawr, wedi ichi gael ryw hwb bach, does dim dal arnoch chi', chwedl Mona wrth iddo droi'n fwyfwy hyderus.
Darparwyd radio llawn teimlad gan y gyfres Tros Ein Plant, a oedd yn adrodd hanes rhieni'n brwydro dros eu plant a hefyd gan Ildio Dim, cynhyrchiad a oedd yn hwb i'r galon yn adrodd hanes y rheini sydd wedi llwyddo yn wyneb adfyd.
Roedd un o storïau mwyaf dwys y flwyddyn, hanes dychrynllyd Josie Russell ond un sy'n rhoi hwb i'n gobeithion yn bwnc rhaglenni radio a theledu rhwydwaith: adroddodd Josie's Story yr hanes ar BBC Un a defnyddiodd BBC Radio 4 ddyddiaduron personol a theimladwy Shaun a Josie Russell yn Life with Josie.
Ar bwyntiau y gwnaeth y Cymro ennill yn erbyn y rheini ond buasai llorio a churo Sheika yn hwb mawr i Calzaghe ar ôl blwyddyn ddi-nod.
Roedd y twf ym mhwysigrwydd Lerpwl fel porthladd, yn ogystal â'i rhan yn y fasnach gaethweision annynol, hefyd yn hwb i ddatblygiad Ynys Môn.
Gwelir y penderfyniad i leoli'r ffilmlo yn lleol fel hwb enfawr a fydd yn gwneud lles i economi'r ardal yn y tymor byr a hir.
Yn ôl Gareth Charles, Gohebydd Rygbi BBC Radio Cymru, bu buddugoliaeth ddydd Sadwrn yn hwb aruthrol i'r garfan gyfan - nid yn unig y rhai oedd yn chwarae.
Un hwb i ysbryd y Cymry.
Darparwyd radio llawn teimlad gan y gyfres Tros Ein Plant, a oedd yn adrodd hanes rhienin brwydro dros eu plant a hefyd gan Ildio Dim, cynhyrchiad a oedd yn hwb i'r galon yn adrodd hanes y rheini sydd wedi llwyddo yn wyneb adfyd.
A hwb sylweddol i'w yrfa oedd cael ei benodi'n gaplan i Dug Somerset.
Yn y cyfamser mae Bayern Munich wedi cael hwb i'w gobeithion.
Gobeithiwn y bydd yr argraffiad newydd hwn yn ysbrydoliaeth i genhedlaeth newydd o Gymry i weithio dros eu cenedl a'u hiaith, a gobeithiwn y bydd yn rhoi hwb i eraill ail-afael yn y frwydr.
canlyniad y llwyddiant oedd i'r mudiad heddwch gael hwb pendant a haeddiannol ymlaen ac i'r gymdeithas heddwch ennill amlygrwydd a chyhoeddusrwydd iddi hi eu hun a'i gwaith.
Gweinidogion oedd golygyddion y mwyafrif llethol ohonynt ac yr oeddent yn awyddus i gefnogi llenorion ac nid oedd dim yn rhoi cymaint o hwb i lenor ifanc â gweld ei waith mewn print.
Ychydig iawn o'r atomau sydd yn y lefel laser isaf ar unrhyw bryd, ac nid oes angen cymaint o hwb i sicrhau fod mwy ohonynt yn yr un uchaf.
Mae Mark Hughes a charfan bêl-droed Cymru wedi cael un hwb galonogol cyn y gêm gydag Iwcrain nos Fercher.
Cafodd gobeithion Lerpwl o orffen yn nhri ucha'r Uwch Gynghrair - ac o chwarae yng Nghynghrair y Pencampwyr y tymor nesa - hwb neithiwr.
Cafodd hwb gan ryfeloedd Napoleon, a barhaodd am bron i chwarter canrif.
Roedd angen buddugoliaeth ar Abertawe i roi hwb i'w hyder ar y Vetch neithiwr.
Tynnodd ei hun i fyny a chlywed ei fantell yn rhwygo ond roedd gweld golau dydd o'i flaen yn rhoi hwb newydd iddo.
Mae'n bosibl trefnu fod tonfeddi'r rhain yn cyfateb i'r gwahaniaethau rhwng lefelau egni'r crisial, ac mae'r datblygiad hwn wedi rhoi hwb anferth i faes ymchwil laserau cyflwr solid.
Bydd y diwydiant twristiaidd ac economi'r ardal yn elwa'n fawr yn ogystal â Chymru, a fydd yn cael hwb i'w ddelwedd drwy'r byd, meddai Bwrdd Croeso Cymru'r wythnos hon.
Ond yr oedd yn beth od, wedyn, gweld Henry, gydai sylwadau crintachlyd, yn gwneud popeth ond rhoi hwb ychwanegol i hyder Thomas.