Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hwsmon

hwsmon

O weld yr hwsmon mewn ystum gweddi ar ganol llawr y gegin cafodd Pyrs gryn sioc a llithrodd y gist bren drwy'i hafflau a drybowndio i'r llawr.

Dyna pam roedd Sydna, y forwyn fawr, yr eiliad honno, ar riniog y drws ffrynt yn ceisio boddi y gofid â'i chroeso a'r hwsmon, Obadeia Gruffudd, ar ei liniau ar lawr cegin y gweision yn chwilio am feddyginiaeth wahanol.

Cyfeiriodd William Davies, hwsmon, at y sgwrs a gawsai â Siôn Elias tua hanner awr wedi dau y prynhawn hwnnw ar y ffordd rhwng Hen Dy a Thyddyn Bach.

'A glychu dy big dy hun yr un pryd?' 'Twt, 'neith cropar o rwbath cynnas ddrwg yn y byd i ddyn nac anifal, yn enwedig pan fydd y gwynt yn union o Borth Neigwl, fel y mae o heddiw 'ma.' Wedi sgubo sylw yr hwsmon o'r neilltu fel hyn aeth Pyrs ymlaen â'r stori.

'C'ofn i chi frifo.' Wedi teimlo'i draed oddi tano unwaith yn rhagor, a sefyll am foment i atgyfeirio, edrychodd i fyw llygaid yr hwsmon a'i gyfarch yn siriol ddigon.

Ryw fath o bwys gloesi mawr a marw ar y cefnfor.' '"Dyddiau dyn sy' fel y glaswelltyn",' sibrydodd yr hwsmon.

A pha fodd yr ydych chwi, frawd?' Anwybyddodd yr hwsmon y cyfle i ysgwyd llaw â'r person a'i gyfarch â geiriau yn unig.