Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hwyliau

hwyliau

Yn ei hwyliau gorau nid oedd di*rrach cwmn;wr na Waldo yn y byd, a gallai ddiddanu cwmni o eneidiau hoff cytu+n am oriau â rheffyn diddiwedd o stor;au am hen gymeriadau annibynnol a hynod a adnabu.

CLWB Y FELIN: Dathlwyd Gŵyl Ddewi eleni yn y Llofft Hwyliau a threuliwyd noson hynod o ddifyr gan dros hanner cant o bobl.

Ymunodd â llong hwyliau a hwylio am Pisagua yn Peru a chael tywydd mawr o gwmpas yr Horn.

Clywed y môr yn ei herio ar y gwynt o'r bar a mynd yn bwt o gogydd deuddeg oed ar long hwyliau ei dad.

Yn oes yr hwyliau diflannodd llawer llong fawr hardd, a'r unig esboniad a roddwyd yn yr ymholiadau swyddogol oedd y tebygolrwydd mai taro rhewfryn a achosodd iddi suddo, gan foddi pob enaid byw heb adael neb i ddweud yr hanes.

Bywyd caled a pheryglus oedd bywyd y llongau hwyliau.

Yn yr un storm daeth un o'r hwyliau ar y prif fast, yr upper topsail, yn rhydd o'r gaskets.

Gwelir hen adeiliadau, simneiau, a thomennydd gwastraff yn gysylltiedig â'r gweithfeydd glo a haearn a'r chwareli ym mhobman ar hyd a lled y wlad; ond, yn amlach na pheidio, mae'r hen longau hwyliau wedi pydru ers blynyddoedd yn y dŵ'r hallt, neu wedi cael eu dinistrio neu eu symud er mwyn gwneud lle mewn porthladdoedd.

Mae pobol yn dweud nad oes gynnyn nhw ddim help pan maen nhw'n tisian, ond dwi ddim yn 'u credu nhw.' Roedd Modryb yn ailddrechrau mynd i hwyliau pregethu eto, ac wedi anghofio am y tro am y sŵn crafu o'r llofft chwarae.

Rhaid pwysleisio bod rhai o'r llongau hwyliau mwyaf prydferth a welodd dyn erioed.

Y mae hanesion eraill am wragedd ar fwrdd llongau hwyliau ond nid yw pob un yn hanes hapus o bell ffordd.

Wedi'r pryd, a chyngerdd byr, roedd hi'n hollol amlwg fod y ddau mewn hwyliau ardderchog.

Er bod y bws o Esquel awr a hanner yn hwyr yn cychwyn ar ei hwyth awr o daith i'r Gaiman y mae pawb mewn hwyliau da.

Yn y cyfarfodydd dysgais y morse code a'r semaphore, sut i wneud cylymau o bob math a thrafod cwch hwyliau, sut i godi pabell a chwythu biwgl a sut i blygu baner yr Union Jack, ei chodi i dop y polyn a'i hagor yn daclus.

Un noson cariodd Mr Hughes lawer o hwyliau a daeth y Capten i fyny a dweud wrtho am dynnu hwyliau oddi ar y llong, ac o dan ei wynt yn mwmian, "Dam, you know nothing, fear nothing".

Ifor yn amlwg yn un o'i hwyliau gorau.

I'r mwyafrif llethol ohonynt, dyma'u profiad cyntaf o fod ar y mor mawr ar long hwyliau, eto roeddynt yn wynebu mordaith i fyd newydd trwy foroedd stormus a pheryglus iawn, moroedd a oedd yn hollol ddieithr i bron bawb o Ewrop lai na chan mlynedd ynghynt.

"Fy ngŵr sydd mewn hwyliau drwg .

Dim ond un peth sydd o'i blaid o : mae hwyliau da iawn ar Dad bob tro y daw adref ar ôl bod yn y rasys milgwn.

Mae milwyr ym mhobman, yn paratoi i fynd ar fyrddau'r llongau hwyliau.

Roedd hyd yn oed rhai capteiniaid hen longau hwyliau y Cei yn uniaith Gymraeg pan oeddwn yn llanc yn yr Ugeiniau.

Ac yna, gan fod Dad mewn cystal hwyliau gofynnodd: 'Dad, wnei di wthio'r bygi am 'chydig.

Ar hyd arfordir gogleddol yr ynys ceir cipolwg ar hanes amaethyddol pwysig Ynys Môn, gyda hwyliau Melin Llynnon yn llywodraethu dros Landdeusant ac yn parhau i droi hyd heddiw.

Ei long nesaf oedd llong hwyliau lawn, ac yn hwylio'n dda, ond nid oedd ei Chapten yn un am gario hwyliau.

Yr adeg o'r flwyddyn, pan ymddengys fel petai'r afon yn troi'n ôl ar ei hub, dyma achlysur yr þyl enwog, La Fete des Eaux, (Gþyl y Dyfroedd), pan fydd pawb mewn hwyliau da'n dathlu'r cynhaeaf a'r cyflawnder o bysgod.

Yn llong fudr mewn môr a pha hwyliau oedd hi yn eu cario orau mewn tywydd mawr?

O na bai'n cael llonydd ganddynt i ddilyn ei briod waith ei hun: troi melinau gwynt i falu grawn yn fwyd i'r plantos, llenwi hwyliau gwynion llongau a'u gwthio dros groen yr eigion, dal ei law dan esgyll adar mawr a mân.

Hoffwn ddiolch i nifer o gyfeillion a sbardunodd fy niddordeb yn y fordaith dan hwyliau i Awstralia ac yn arbennig.

Cyhoeddir yr apêl ar adeg pan ddylsen ni i gyd fod mewn hwyliau rhamantus - ar drothwy Dydd Santes Dwynwen, a bydd Dydd Sant Ffolant yn dilyn ymhen ychydig.

Bu hynny'n brofiad newydd iddo, ac nid oedd y llygod mawr a fu'n ei anghysuro drymedd nos wedi ychwanegu dim at ei hwyliau.

Dyma'r llong hwyliau olaf i Capten Hughes hwylio ynddi.

Yn anffodus crwydrodd ei lygad i gyfeiriad bwrdd crwn a diflannodd y gwynt i gyd o'i hwyliau - roedd Laura Elin o'r Felin wedi hulio brecwast i dri.

Yr oedd nifer y criw gyda'r Capten yn chwech, dau ar y wats, a phan oedd eisiau symud yr hwyl studding (hwyliau tywydd braf) yr oedd yn rhaid i'r llongwr nad oedd wrth yr olwyn symud yr hwyl ei hun.

Y llong hwyliau 'Pamela' oedd teitl y cywydd cyntaf a luniais.

Gwaith arbennig yr adeiladydd llongau,Donald McKay, ac athrylith y cynllunydd, John Griffith, a greodd y cliperi cyflym gyda'u llinellau hyfryd a'u mastiau uchel yn llawn hwyliau, llongau megis y Lightning a'r Flying Cloud ac yn y bennod nesaf ceir ychydig o drafodaeth am y cysylltiad Cymreig a'r llongau enwog hyn.

Rhag i neb fedru gwneud ensyniadau fel hyn amdano, rwy'n siwr y medr dderbyn fy awgrym caredig, a pheri ail-hysbysebu'r swyddi hyn, gan ddwyn y gwynt o hwyliau pob beirniaid drwgdybus ac anwybodus ohono, drwy fynegi yn glir y bydd gwybodaeth o'r Gymraeg yn hanfodol i unrhyw benodiad.

Un o'r pethau cyntaf a ddenodd fy sylw pan ddechreuais fynd i'r capel oedd y darlun ar y mur yno, sef llun llong hwyliau mewn storm uwchben y geiriau 'Cofiwch y Morwyr'.

Cawn gân neu ddwy gan Veronica Gilder - un o'r lleisiau gorau yn y Gymdeithas ac 'rwy'n sicr y bydd pawb mewn hwyliau i ganu yr hen ffefrynnau hefo'n gilydd.

Mae'n ymddangos fod carfan Cymru mewn gwell hwyliau na charfan Lloegr.

Wrth ddarllen hanesion am longau hwyliau mae un peth yn sefyll allan yn amlwg iawn, sef pa mor amrywiol ydyw'r cymeriadau sydd yn gapteiniaid ar y llongau yma.

Wrth agosa/ u ar y fordaith gartref am Sianel y Saeson yr oedd llawer o longau hwyliau yn curo yn erbyn gwyntoedd croesion a llawer ohonynt wedi mynd yn brin o fwyd.

Ei dro ef, Willie a fyddai tynnnu'r gwynt allan o hwyliau Ellis wedi iddo gael wythnos gyda'r bobl fawr yn yr Imperial.

Ymuno unwaith eto â llong hwyliau fawr fel Ail Fêt a chael tywydd mawr ym Mae Biscay, a phan oedd yn gweithio ar y dec, llongwr oedd wrth ei ochr yn cael ei ysgubo i'r môr gan foryn trwm.