O edrych ar rai o luniau David Gepp o Ogledd Iwerddon fe ellid maddau i'r anwybodus am feddwl fod bywyd yno'n un carnifal hwyliog.
Fel y dywed Islwyn Lake, Cadeirydd Cymdeithas y Cymod yng Nghymru, yn ei Ragair i'r gyfrol hon, gwnaeth Dr Gwynfor Evans gymwynas â ni wrth gofnodi "stori'r dystiolaeth heddwch" mewn dull mor hwyliog a hwylus.
Cyfieithiad i'r Saesneg o stori hwyliog i blant am daith gwrach drwy Gymru gyda'i pheiriant tywydd anhygoel.
Arferwn fynd i bob Eisteddfod Genedlaethol yn y LandRover ac aros mewn carafa/ n gyda chriw o ffrindiau lleol, hwyliog.
Ond roedd ganddo fab hwyliog iawn a alwem Tommy Son.
Ar ôl tynnu llun hefo nifer fawr o'r plant a rhai o athrawesau Saesneg yr ysgol Ganol - Merched croesawgar, hwyliog, iawn - mynd am 'wledd' unwaith eto gyda gwin coch a chwrw.
'Dydi ysbrydoliaeth ddim yn un o 'nghryfdera i,' sylwodd Paul yn hwyliog.
Ond yn y cystadlaethau adrodd roedd y llefaru yn llawer mwy cynnil yn y Gymraeg ac yn hwyliog dros ben yn y Sbaeneg.
Y môr a'i drysorau fydd y thema a ddefnyddir ac fe'i cyflwynir mewn modd lliwgar, hwyliog a deniadol.
Bu+m mewn ugeiniau o bwyllgorau yn ystod fy oes, ond dyma'r pwyllgor mwyaf hwyliog a chartrefol y bu+m yn aelod ohono erioed.
Nid yn unig y mae Cymru yn wlad eithriadol brydferth; y mae hi hefyd yn wlad hwyliog iawn.
Yn Saesneg cyhoeddwn lyfrau hwyliog sy'n dysgu Cymraeg, llyfrau coginio, llyfrau i ymwelwyr a rhai gwleidyddol, diddorol.
'Mewn ffair ydan ni!' atebodd Geraint yn hwyliog.
Y meuryn - Gerallt Lloyd Owen - yn hwyliog iawn.
Caneuon newydd, hwyliog ac addas ar gyfer disgyblion sy'n dysgu Cymraeg.
Coffa da nid yn unig am ei gyfraniadau i gyfarfodydd colegol o bob math ond hefyd am giniawau'r Calan llawer dydd, am y bowliwr troellog ciami iawn ar leiniau Treborth, y tripiau hwyliog yn yr haf i'r criced i Old Trafford, yn y gaeaf i Lerpwl i weld timoedd Shankly, Paisley a Dalglish; ac am BLJ y gŵr a'r tad yng nghysur mawr agored Bodafon.
Cafwyd noson reit hwyliog yn trafod rhaglen y tymor nesa a chafwyd pryd o fwyd i gloi y noson.
gofynnodd Wyn yn hwyliog iddynt .
Diau y byddai'n ymddwyn yn fwy bonheddig gerbron Tywysog Cymru na cherbron tîm rygbi Bae Colwyn, ond Bedwyr oedd Bedwyr ble bynnag yr âi, Bedwyr y sgwrsiwr hwyliog, Bedwyr y cefnogwr unllygeidiog, Bedwyr y rhefrwr didderbynwyneb a'r rhegwr.