Bu yn hwylus iawn am rai blynyddoedd i gario pobol a nwyddau.
Aeth gweddill y daith yn hwylus gan gynnwys paned tua hanner ffordd.
Ceir ystadegau yn adroddiad y Comisiwn Datgysylltiad (fel y gelwid ef yn ddigon hwylus) ar gyfer y gwrandwyr ond rhybuddir ni na allwn ddibynnu arnynt.
Fel y dywed Islwyn Lake, Cadeirydd Cymdeithas y Cymod yng Nghymru, yn ei Ragair i'r gyfrol hon, gwnaeth Dr Gwynfor Evans gymwynas â ni wrth gofnodi "stori'r dystiolaeth heddwch" mewn dull mor hwyliog a hwylus.
Ar ôl yr holl weithio ar olwyn, mor falch fyddai y saer coed o weld popeth wedi eu ffitio i mewn yn hwylus yn y diwedd.
Ym - o oes, mae'r iaith yn hwylus i'w ddarllen … a does dim peryg ichi ddatblygu DVT drwy ymgolli'n llwyr ynddo.
'Roedd hi'n ffordd digon hwylus a diogel i sicrhau pregethwyr i'r eglwysi ac i sicrhau cyhoeddiadau i'r pregethwr.
Fel hyn yr arferid gwneud ond heddiw, gydag offer hwylus i wasgu'r sudd allan, hawdd yw cael y sudd amrwd o'r gwraidd.
"Mae o'n lle hwylus dros ben i ni gan ei fod o'n lle tawel sy'n rhoi llonydd i ni fynd ymlaen efo'n gwaith."
* Dydi papurau newydd, cylchgronau, cyfarwyddiaduron ffon a llyfrau cyfeirio ddim bob amser ar gael yn hwylus ar dap neu mewn braille neu brint mawr.
Aeth popeth yn hwylus am flwyddyn, yna cafodd y peilot - a oedd yn þr priod - lond bol ar y ferch a dywedodd wrthi am adael.
Nid oedd yn gocysen bwysig mewn unrhyw gynllun; nid oedd yn 'ddylanwadol' mewn llywodraeth leol nac unrhyw bwyllgor penodiadau; nid oedd gwpwrdd ffeil o wybodaethau hwylus; nid oedd yn ddyn busnes nac yn gyfryngwr rhyngoch a phwerau y talai ichwi eu hastudio a gwrhau iddynt.
Ym mis Awst, creodd y math o ddelwedd gosod ffiniau/ trwyddedau teithio/ gwrth-Seisnig o'r blaid a fu'n bastwn hwylus yn nwylo beirniaid di-ddeall byth ers hynny.
Nid oes gwell ffordd o ddysgu sgiliau barddoni, a rhythm, na'r fformat hwylus yma.
Y mae rhai myfyrwyr yn gweld profforma yn ffordd hwylus o roi trefn ar eu gwaith.
Gwir fod hyn yn hwylus a didrafferth ond y mae hefyd yn amddifad o ymdrech a theimlad.
Daeth y trydan hwylus i oleuo'r fro, a bellach, ymysg casgliad o 'hen bethau', y gwelir llusern y gannwyll wêr.
Aeth dros hanner canrif heibio er pan gyhoeddodd J. T. Jones, Rhosllannerchrugog, ei lyfr hwylus arno.
Ni ddylid bychanu'r elfen ffodus yma, ond mae yna berygl i ambell un dderbyn y darlun arwynebol heb gadw mewn golwg mai crynodeb hwylus sydd gennym.
Popeth yn mynd yn hwylus drwy'r dydd a charad ar ôl carad o wair yn mynd i mewn i'r gowlas.
Ers y dyddiau hynny hefyd mae arfer o weithio mewn mwy nac un iaith yn fwy cyfarwydd ac mae'r cyd-destun gwleidyddol Ewropeaidd a byd-eang yn caniatáu i ni elwa o brofiadau gwledydd eraill yn hwylus.
(a) i'r cais am ystafelloedd ychwanegol yn y Bala a Thywyn gael ei dderbyn, cyn belled ag y byddai cyfleusterau mynediad hwylus yn cael eu cytuno.
Dylid sicrhau fod addysg Gymraeg, felly, o fewn cyrraedd hwylus i bob plentyn er mwyn rhoi i ddisgyblion afael dda ar yr iaith.
Cyfeiriais eisoes at drefniant yr Awdurdodau Siapaneaidd fod nifer o ferched o blith y Koreaid yng nghyrraedd y gwersylloedd yn hwylus at ddifyrrwch rhywiol milwyr y Fyddin Imperialaidd.
Mae'r llyfr hwn yn cyflwyno cemeg fel y mae'n effeithio ar ein bywyd beunyddiol ac, wrth ddefnyddio'r hyn sydd i'w gael yn hwylus yn y catref mae'n symbylu plant i ymchwilio ac i sylwi o safbwynt gwyddonol.
Canlyniad creu'r gwagle oedd bod yn rhaid ei lenwi, ac yr oedd y deunydd ar gael yn hwylus yn yr hen fisitors annwyl yr oedd cymaint o drigolion y Pen wedi mynd i fyw i'r sied i wneud lle iddynt yn ystod misoedd yr haf er dechrau'r ganrif.
Y mae Llyfryddiaeth eang a defnyddiol, er imi sylwi ar un neu ddwy eitem yng nghorff y gwaith nad ydynt wedi cyrraedd y Llyfryddiaeth, ac y mae'r llyfr yn frith o luniau ysgolheigion pwysig yn y maes a nifer dda o fapiau a deiagramau hwylus.
Mae o faint hwylus ar gyfer poced a bag llaw er, efallai, y byddai rhai yn hoffi hefyd gyhoeddiad mwy cylchgronol gyda lluniau o wisgoedd, steils gwallt ac yn y blaen.
Un o'r dosbarth hwnnw o ferched yn Korea y gofalai'r Awdurdodau Siapaneaidd eu cadw'n hwylus i bwrpas difyrrwch y milwyr.
Heddiw, wrth gwrs, defnyddir y trydan hwylus i oleuo a thwymo'r adeiladau.
Mae'n hwylus i bawb ohonom sy'n ymddiddori yn hanes Cymru ac yn gymwynas arbennig â'r sawl nad ydynt o fewn cyrraedd y cylchgronau dysgedig lle cyhoeddwyd hwy gyntaf.
Coeliwch neu beidio, dim ond ychydig dros ddwyawr a gymer y daith yno o gyrion Bangor, gan fod y ffordd mor hwylus erbyn heddiw.
Roedd Arabrab ei wraig yn gyfoethog iawn, a'i safle ef fel Swyddog Cynllunio (swydd fach reit hwylus a digon di-straen) yn dibynnu arni hi i raddau helaeth, ac ni allai fentro'i chroesi.
'Oes, wrth gwrs.' 'Be sy gennych chi yn digwydd bod heb 'i lenwi?' 'Unrhyw un sy'n hwylus ichi.' 'O!
a '...' Keats, ond cynhwysa hefyd y dyfyniad hwn gan Samuel Roberts: 'Yr wyf yn credu nad yw canonau na chredoau na thraddodiadau dynol yn meddu dim awdurdod ar ymarferiad Cristnogion.' Er nad yw'r geiriau ynddynt eu hunain yn ychwanegu dim at ddadl Peate mai ym mhrofiad yr unigolyn y mae chwilio am Dduw, ac er y gellid eu hystyried yn fawr mwy nag allweddeiriau hwylus i gael gwrandawiad yn uchel lys Annibynia, camgymeriad fyddai eu hanwybyddu.
Cyrhaeddwyd y lan yn hwylus ac fe gludiwyd y casgenni'n llafurus trwy'r wîg hyd nes y daeth pentref di-nod - rhyw lond dwrn o hofeldai ac eglwys i'r golwg.
Codwyd nifer dda o guddfannau hwylus a chlud nid nepell o'r pyllau.
wneud hynny, gallai gryfhau'r dysgu gan mai'r llafaredd yw'r modd ieithyddol mwyaf hwylus a chyflym i fod yn bont rhwng: * athrawon, disgyblion a'r deunydd pynciol,
Gellir gwneud hynny'n hwylus i'n pwrpas ni trwy edrych ar y math addysg a gawsant hwy cyn cymryd at eu gwaith fel athrawon a gellir edrych ar y math cyrsiau a baratoid ganddynt ar gyfer eu myfyrwyr.
Y mae hithau o fewn cyrraedd hwylus o Lundain gyda thrên neu fws neu fodur ac yn naturiol ddigon arian y brifddinas a'i gwnaeth hithau, fel y lleill, yn fagnet haf i'r cannoedd.
Ie, y cigydd, gan mai ef sydd yno yn torri corff dafad yn ddarnau hwylus i'w gwsmeriaid.
A chan ei bod yn oes o gymaint busnes a chynifer pethau, brinned ac mor lledrithiol yw ein hatgof wedyn am bobl fel, pan glywn ba ddydd fod Hwn a hwn wedi mynd, y cwbl a olyga inni yw fod rhyw ddolen gydiol hwylus â rhyw un o'n perwylion wedi peidio â bod, ac ar unwaith gofynnwn: