Ac fe ddaeth y dydd pan godwyd baneri ar ben pob glofa, uwch y ddrifft hon, a'r pwll acw, ac fe dynnwyd lluniau'r glowyr buddugoliaethus, gwynder eu gwenau yn hollti'r du%wch a orchuddiai'u hwynebau, yn dathlu'r dydd pan ddaeth y cyfan oll yn eiddo i blant yr addewid.
Yr hyn am dychrynodd i oedd yr olwg ar eu hwynebau.
Yna dyma nhw'n troi i ddannedd y gwynt ac yn eu hannog ymlaen rhwng y brigau a fflangellai eu hwynebau.
Yr oedd yn wirioneddol flasus, a hyd yn oed y foment hon gallaf weld Ginger a John Thomas, eu cegau'n orlawn a'u hwynebau'n bochio, yn fy llongyfarch ar fy medr fel cogydd.
Rhain ydi'r bobol na wyddoch chi byth be sy'n digwydd y tu ôl i'r masgiau sy'n cuddio'u hwynebau.
Yr oedd i'w glywed ym mhobman, mewn tŷ a siop, ar fynydd ac ar draeth, nes o'r diwedd i fasnachwyr llygadog weld cyfle i farchnata'r setiau bach i'w rhoi mewn poced a'u gwifrau'n cysylltu i gyrn ysbwng am y clustiau nes bod y gwrandawyr yn edrych fel pe baen nhw yn rhan o ryw 'dyrfa lonydd lan' a hanner gwen ar eu hwynebau a golau byd arall yn eu llygaid.
Bydd lle arbennig wedi ei godi i'r bobl bwysig eistedd ac wrth orymdeithio heibio'r rhain bydd y plant yn troi eu hwynebau tuag atynt fel arwydd o barch.
Gwnaf dy dalcen fel diemwnt, yn galetach na challestr; paid â'u hofni nac arswydo rhag eu hwynebau, oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt.
Wrth weld eu hwynebau hir, meddai Dad.
O holl amrywiaeth taclau'r gwareiddiad newydd, o raselydd i beiriannau golchi, mae'n debyg mai'r teledu ddaeth a'r chwyldro i'w anterth wrthi ganolbwynt yr aelwyd symud o'r lle tan, gyda'r gadair freichiau a'r setl a'r soffa yn gylch o'i gwmpas a phawb yn ei wynebu, i'r bocs yn y gornel, a phawb yn eistedd yn rhes a'u hochrau at y tan a'u hwynebau at y sgrin.
Mawr y llawenydd fydd gweled eu hwynebau melynion wedi cael byw i ddychwelyd - a dychwelyd yn fuddugoliaethus, dychwelyd wedi gorffen eu gwaith!
Yn nhawelwch y Lotments un noswaith, a'i hoff arddwyr o'i gwmpas yn drist eu hwynebau ac yntau'n dal clamp o wnionyn braf yn ei law, cymerodd y Brenin Affos lw y gwnai ei orau i gadw'r wnionyn a'r Lotments rhag dinistr dan law'r datblygwyr.
Trwy lwc a bendith newidiodd y ddau grychydd eu cwrs ac yn lle mynd drosodd i'r 'Ynys Werdd', troesant eu hwynebau tuag adref gan ollwng eu llwyth ar Fanc Dihewid rhyw bum milltir o Silian.
Fe welwch fod eu cyrff yn dechrau ysgytio a'u hwynebau'n ystunio cyn i ddim ddigwydd a chyn i ddim gael ei ddweud.
Cwn yn cyfarth, asynnod yn nadu a phobol yn rhedeg o dŷ i dŷ â'u hwynebau cyn wynned ^'r gwyngalch ar y waliau oedd yn disgleirio yn llygad yr haul.
Gwibiai'r cymylau'n wyllt ar draws yr awyr a hyrddiai'r dŵr o'r rhaeadr yn erbyn eu hwynebau.
Ar Galan Mai duai grūp o ddynion eu hwynebau a mynd o gwmpas yr ardal yn ail-ddeffro'r ddaear o'i thrwmgwsg gaeafol.
Yn y gyfrol Atgofwn, mae Kate Roberts yn cyfeirio at y tŷ llaeth helaeth y tu ôl i'r gegin yng Nghae'r Gors, a'i resiad o botiau llaeth cadw gyda llechi crynion ar eu hwynebau.
Ymroddasant i wadu'r hyn a oedd yn digwydd o flaen eu hwynebau gan ochrgamu'r presennol ar wib ddirwystr i ryw ddyfodol diofidiau fan draw.
Er na fedrai weld eu hwynebau yn glir, gwyddai eu bod yn gwelwi i liw'r eira o'u cwmpas.
Trodd y ddau grychydd eu hwynebau tua'r gorllewin ac ymhen dim o amser dyma'r 'weilgi frigdonog yn dyfod i'r golwg ac am foment meddyliodd yr hen frawd mai 'dyfrllyd fedd' fyddai ei dynged.
"O ble'r ydych yn dod?" Pan atebais, "O'r Rhyl", disgynnodd cwmwl tosturiol tros eu hwynebau.
Ond er iddynt dreulio dwyawr digon anghysurus yn swatio a gwylio yng nghefn y ffynnon ni welsant undyn byw a thri digon siomedig a drodd eu hwynebau tuag adref fel y teimlent y dafnau cyntaf o law yn disgyn ar eu talcennau.
A thithau, fab dyn, paid â'u hofni hwy nac ofni eu geiriau, er eu bod yn gwrthryfela yn dy erbyn ac yn gwrthgilio, a thithau yn eistedd ar sgorpionau; paid ag ofni eu geiriau nac arswydo rhag eu hwynebau, oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt.