Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hwynebu

hwynebu

Daliai un o'r bechgyn lantern fechan uwch ei ben ac yn ei golau melyn medrai pawb weld y ddau filwr yn sefyll i'w hwynebu.

Ar ryw olwg, mae'n galondid fod cynifer o'r problemau mae'r awdurdodau yn eu hwynebu yn codi o'r galw mawr a chynyddol am addysg Gymraeg.

Fel gr^wp maen nhw'n trafod y rhwystrau sy'n eu hwynebu wrth geisio ymuno'n llawn a bywyd y gymuned ac yn ystyried ffyrdd y gellir goresgyn y rhwystrau hyn.

Sut bynnag,' meddai hithau, wrth chwarae â beiro yn ei llaw, fedrais i erioed feddwl am fy swydd fel un rheolwr.' Trodd i'w hwynebu, ond edrych i lawr ar ei desg a wnâi hi.

Roedd y cyhoeddiad yn ymgais amlwg i dreio dynnu'r colyn o'r feirniadaeth groch sy'n debyg o'u hwynebu yn ystod yr wythnos nesa' - nad ydyn nhw'n gwneud dim ond penodi pobol i swyddi.

A'r un dynged fyddai'n ei hwynebu hithau.

Fe roddodd - - enghraifft o broblemau sy'n cael eu hwynebu gan y Comisiynydd Drama.

Unwaith inni weld sut un ydyw a'r math o anawsterau y mae'n eu hwynebu yn feunyddiol wrth geisio crafu bywoliaeth yna daw yn gyfaill inni, neu o leiaf yn rhywun sydd oherwydd ei ymdrech i gael dau ben llinyn ynghyd yn haeddu ein cydymdeimlad a'n cymorth.

Ond wrth gwrs dwg unrhyw gyfnewid fel hyn ei broblemau, ac yn fuan cafwyd cyfres ohonynt, a bu rhaid penderfynu ynglŷn a thri pheth hanfodol, tair sialens y bu rhaid eu ,hwynebu.

Wedi sicrhau rhyw fath o ddyfodol i'r ysgol, edrychai'n fwy nag amlwg i rai ohonom y byddai'r un frwydr yn ein hwynebu eto ymhen pump, deg neu efallai bymtheng mlynedd, os na fyddai nifer y disgyblion yn cynyddu yn hytrach na lleihau.

Gallai hyn greu problem mewn dosbarth lle mae mwyafrif y myfyrwyr yn Gymry Cymraeg, er enghraifft, gan y byddai tueddiad i'r darlithydd ar gwrs dwyieithog anghofio bod rhaid cadw elfen o Saesneg yn y dysgu hefyd os yw'r cwrs i fod yn un gwir ddwyieithog." Er gwaethaf yr ail bwyso a'r ail ddatblygu y bydd rhaid i Addysg Gymraeg eu hwynebu wrth weithredu'r Cwricwlwm Cenedlaethol, bydd y gronfa o arferion da sydd ar gael yn gynhaliaeth werthfawr.