Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hwyr

hwyr

Lansiwyd label Boobytrap yn hwyr y llynedd, a hynny yng Nghaerdydd.

Parhaodd y rhaglenni hyn i ddarparu newyddiaduraeth ragorol gyda chyflwynwyr gwahanol, wrth i Peter Johnson symud o'r bore i'r hwyr gan ymuno â'r gyflwynwraig newydd Felicity Evans.

Maen nhw'n gobeithio y bydd pobol ifanc yn gofyn am help drwy yrru neges i jo@samaritans.org cyn y bydd hi'n rhy hwyr.

Peidiwch â bod yn hir efo'ch cinio, rhag i ni fod yn hwyr yn yr ysgol." Ni fum yn hir yn llyncu fy nghinio, a phan gyrhaeddais at y gamfa, yno'r oedd Capten yn disgwyl amdanaf.

Dim ond yn hwyr y cyrhaeddodd dylanwad yr Oleuedigaeth a'r ymgais i greu gwladwriaeth fodern ar linellau Ewropeaidd.

Deallwn i wyl Seilo gael cyfarfod y prynhawn i'r plant, eitha' llewyrchus ond braidd yn denau mewn cynulleidfa a chystadlu oedd cyfarfod yr hwyr.

Mewn telyneg megis 'Cysgodion yr Hwyr' y mae yntau, yng nghanol erchyllterau rhyfel, yn mynegi ei hiraeth dwfn am heddwch a thangnefedd, a gwynfyd natur ardal ei faboed.

Rhy hwyr i ddifaru,' crechwenodd Mini.

'Dwi'n cofio un noson hwyr, hwyr iawn a ninnau'r hogia yn gwneud lot o sŵn fel arfer.

Does arna i ddim isio mynd yn ôl i ganol Saeson eto." "Mae arna i ofn dy fod ti braidd yn hwyr yn meddwl am beth felly, 'ngwas i.

'Rwy'n hwyr.

Serch hynny, croesodd Kevin James am gais i roi gobaith hwyr i Gastell Nedd.

Y nodyn cynta' a wnes i yn fy llyfr oedd bod ambell un o'r cyrff main wedi'u lapio mewn sach fwyd a gyrhaeddodd yn rhy hwyr.

Rwyf wedi arfer a'r hyn a elwir yn "amser Celtaidd" - h.y. popeth yn hwyr.

Hyd yn oed heddiw, gyda'r diwydiant glo Cymreig wedi ei ladd, dywed Hywel Teifi nad yw hyd yn oed yn awr yn rhy hwyr i wneud iawn am y diffyg hwn yng ngorffennol ein llenyddiaeth.

Agorodd Mary'r drws iddo ymhen hir a hwyr gan wneud esgus ei bod wedi pendwmpian ar y soffa a'i bod yn rhaid bod y glicied wedi dod i lawr ar ddamwain.

A go brin fod Rick wedi lleddfu dim ar ei thymer ddrwg drwy fod hanner awr yn hwyr yn dod i'w nôl hi.

Dydyn ni ddim eisio bod yn hwyr.

Ymddiheuraf fod y rhybudd yn fyr, ond bu'r ffurflenni'n hwyr iawn yn dod i law eleni.

Mae un newid hwyr yn nhîm datblygu Cymru i chwarae Tîm A Canada heno.

Ymhen hir a hwyr adroddais y stori am y gwely wrth y bechgyn a chawsom lawer o hwyl ynghylch y digwyddiad.

Yr oedd wedi trefnu cyrraedd cartref rhyw ffrindiau iddo y noson honno, ond ofnai y byddai hi wedi mynd yn dywyll ac yn hwyr cyn iddo wneud hynny.

Manteisiai hi ar y cyfle gyda'r hwyr i wneud bara tra oedd Jonathan yn cysgu'n dawel.

Yn rhagarweiniad i'w gynllun ymunodd a dosbarth nos, er ei bod yn hwyr yn y tymor.

Yn rhy hwyr y mynegais fy hun Juan Carlos!

Fe wnaethon nhw ei gadael hi'n hwyr.

Ac eto onid i Lety'r Bugail yr ai hi weithiau gyda'r hwyr ar ol gorffen gorchwylion, i freuddwydio?

Nid wyf yn cofio ddim rhagor, ond ein bod wedi mynd i'n gwelyau yn go hwyr, ond cyn i ni gysgu, dyma gloch Anti yn swnio, am y tro cyntaf, a'r dro diwethaf hefyd.

Un noson pan oedd ef yn teithio ar ei feic yng ngorllewin yr ynys, a hithau wedi mynd braidd yn hwyr, fe alwodd mewn siop yn rhyw bentre bach, i brynu lamp beic.

Fodd bynnag yn ôl i'r noson hwyr: nhad yn gweiddi o'r stafell gysgu - "Cysgwch hogia%.

Cyraeddasant Gaerdydd gyda'r hwyr, lGeg Awst.

Coeden fythwyrdd arall sydd yn ffynhonnell hwyr o ffrwythau yw'r eiddaw neu'r iorwg.

Gofynnodd am gael cyflwyno'i achos o'u blaen; ac ymhen hir a hwyr fe gafodd ganiatâd i wneud hynny.

Ar ôl iddi fynd yn hwyr fe ddaeth y cyfarfod rhyfedd hwn i ben.

Dyna a wnânt yn hwyr neu'n hwyrach am mai hynny yw eu greddf.

Ymadael yn hwyr yn y prynhawn yng nghwmni gwr cymharol ifanc o'r enw Josepho - peintiwr wrth ei alwedigaeth cyn y rhyfel, ond wedi gorfod ymuno â'r fyddin.

Roedd hi'n anodd iawn gwneud y brif stori achos roedd Terry Waite yn mynd i ffwrdd y peth cynta' yn y bore a doedden ni ddim yn ei weld o wedyn tan yn gymharol hwyr yn y nos.

"Fedra i ddim bwyta yr un briwsionyn arall," meddai'r cardotyn ymhen hir a hwyr, gan wthio'i gadair oddi wrth y bwrdd.

Ond o'r berw a godai yn sgîl clywed mor hwyr y dydd am ddigwyddiad o'r fath, y tebygrwydd yw y byddai cyflwynydd y rhaglen yn ymddangos mor ddi-gynnwrf ag erioed wrth adrodd holl fanylion y stori o fewn yr awr.

Does yma ddim croeso ichi ar ôl yr helynt hwyr a wnaethoch tro blaen.

Fe ddaeth newyddion y bydd Epitaff yn lansio Follow Me eu hail ep nos Lun, 11 Medi mewn gig hyrwyddo arbennig yng Ngwesty y Snowdonia Parc, Waunfawr am 8:30 yr hwyr.

Yn hwyr neu'n hwyrach byddai'n rhaid egluro i'r plant beth oedd neges y dieithryn mewn lifrai, ac yna, ni fyddai dim yr un fath iddynt hwythau, ychwaith.

Cymerodd y gwaith o fricio'r twnnel saith mlynedd i'w gyflawni, a'r gweithwyr yn gweithio yn yr hwyr ac yn ystod oriau'r nos.

Roedd hi'n hwyr.

Roedd Modryb yn ei gwely yn darllen Woman's Weekly fel brenhines, Gwenan a'r hogiau'n cysgu a Dad yn edrych ar y newyddion hwyr ar y teledu.

Yn hwyr y noswaith honno wedi treulio diwrnod digon diddan efo Mali a'r plant, cychwynnodd Merêd a Dilys am Gaergybi i ddal y llong hwyr am Iwerddon.

Yna, ymhen hir a hwyr, a ninnau bron â diflasu ar ôl gwrando ar y fath lifeiriant undonog, deuai'n cyfle ninnau.

Mae silia mor gyffredin trwy fyd yr anifeiliaid a'r planhigion nes bod astudio unrhyw organeb sy'n byw yn y mor, yn hwyr neu'n hwyrach, yn sicr o gynnwys rhyw fath ar ddealltwriaeth o'r organebau hyn.

Mae'n debyg mai patrwm y tywydd yn ystod Mehefin a ddywed wrthym a ydym yn cael haf cynnar neu hwyr.

Yn ystod y cyfnod yng nghanol fy mywyd (hyd at fy nhridegau hwyr) golygai hyn fy mod yn hepgor llawer o weithgareddau oedd yn golygu llawer o gerdded neu os oedd fy arafwch yn amharu ar y gweithgarwch.

Ni bydd neb yn gallu hel at ei gilydd yr holl atgofion am Waldo y dylid eu cofnodi cyn iddi fynd yn rhy hwyr, ond gobeithio y bydd rhywun llafurgar yn ceisio'i wneud.

'Roedd pwll nofio'n barod amdanom yn y gwesty i esmwytha/ u'r cyhyrau ysig ac ailddeffro'n cyrff at asbri'r hwyr.

Caerfyrddin oedd y tîm amlyca yn yr ail hanner a chyda'r gôl hwyr yn cipio'r tri phwynt.

Yn gyntaf, maen nhw'n agored o oriau cynnar y bore tan yn hwyr y nos - deg o'r gloch ac wedyn, bob dydd o'r wythnos.

Does dim raid i ti brofi hynny i neb." Yr oedd yn rhy hwyr.

DeuswUt yn y bore, ond swllt erbyn yr hwyr--roedd pris yr hen greadur yn mynd yn is ac yn is.

Er bod y bws o Esquel awr a hanner yn hwyr yn cychwyn ar ei hwyth awr o daith i'r Gaiman y mae pawb mewn hwyliau da.

Er y gwaith cefndir manwl iawn am ddatblygiad poblogrwydd y Cyrff a gweddill sêr sîn yr 80au hwyr, fel mae'r teitl yn awgrymu, Catatonia a Cerys yn benodol syn cael y prif sylw.

Dipyn o syndod oedd darganfod ymhen hir a hwyr fod Miss Gwladys Lewis ('Anti Glad') neu J.Alun Roberts, yr Adran Hanes, yn medru siarad Cymraeg.

odOdd rhyw ~r fi i fynYy ar fy~ aeendtospo/ rtadd nu malth Cychwynnais at Lanrwst yn yr hwyr yn feddw iawn, a yrthials wrth bont Dolgarrog, a chysgais yno hyd Y bore "

Os gadewir yr awr fawr yn rhy hwyr, bydd cyfnod yr 'hanner cyntaf' pan chwery'r sewin ar yr wyneb gan gymryd ambell bluen ar lein nofio (floating line) wedi darfod.

Roedden ni'n hwyr iawn yn cael bwyd am fod y ffrae wedi para cyhyd, ond roedd yn werth aros am y pryd am fod Dad wedi mynd yr holl ffordd i%r dref i nôl tships i ni.

Ymhen hir a hwyr fe gododd y capten ar ei draed: bu'n gweddio'n galed ac roedd ei lygaid yn goch.

"Rhaid i ni frysio rhag bod yn hwyr," meddai, "neu mi fydd yr hen Samon yn falch o'n gyrru ni at y sgŵl i gael slap." Gwelodd ar f'wyneb nad oeddwn yn ei ddeall.

Ond fe fydd rhaid gwynebu hyn yn hwyr neu hwyrach, ac efallai fod yr amser bellach wedi mynd heibio i eglwysi drefnu eisteddfodau.

Gweinyddwyd y Sacrament o Swper yr Arglwydd ar ôl y bregeth yng ngwasanaeth yr hwyr.

Byddai yn mynd i'w wely yn syth ar ol cinio'r Sul i orffwys ac atgynferthu at yr hwyr.

Yn hytrach na rhoi trefn ar bethau ar y cae mae gormod o lawer o chwaraewyr yn achwyn yn rhy hwyr.

Yn hwyr ar nos Sul, mynychais wasanaeth dwyieithog yn un o eglwysir ddinas.

Gallasai fod wedi mynd efo ni yn y modur, ond buasai hynny'n golygu cyrraedd yn hwyr, yn fwy na thebyg, felly, cerdded wnai hi.

Lleoedd ydynt y cytuna'r cariadon i gyfarfod, gan fyned adref gyda'i gilydd yn hwyr y nos.

A phaid ti â bod yn hwyr,' pwysleisiodd.

Erbyn hyn roedd hi'n hwyr a dylem i gyd fod wedi bod gartref ers amser ac felly, gadawsom y swyddfa gan adael Mr Roberts Thomas, fel y tybiem, i ffonio'r Prif Uwch-Arolygydd, Mr Merfyn Morgan, gyda chanlyniadau ein hymdrechion.

Gwyrodd, ond yn rhy hwyr.

Un bore, 'roedd Deiniol yn hwyr yn cyrraedd llidiart Caeau Gleision, a Charadog yn anesmwytho gan fod gwaith y fferm yn disgwyl.

Pen hir a hwyr daeth Wang Jun, athro Saesneg, i'n cyfarfod, a dyma stryffaglio at fynedfa'r orsaf.

Gwyliais yr hyn a wnaeth hi a dod oddiar y lifft yn union yr un fan a hi - ond syrthiodd ac yn rhy hwyr sylweddolais nad oedd hithau'n hyddysg yn y grefft yma - ac felly syrthiais innau.

Yn Nghapel Jerusalem [y Methodistiaid], yn hwyr yr un dydd, pan oedd y gynulleidfa yn canu ar derfyn yr oedfa, daeth dyn ieuanc i mewn, ac aeth ar ei union i'r set fawr, ac ar ei liniau, ac ymddangosai fel dyn mewn breuddwyd.

Felly, pan sylweddolodd yn hwyr un noson iddo adael ei waled yn llawn o arian ar ben postyn llidiart buarth tyddyn anghysbell yng nghyffiniau Llynnoedd Teifi ar noson o eira ar drothwy'r Nadolig doedd ganddo fe ddim dewis.

Ac na, dydw i ddim yn mynd ich llethu gyda stori arall, eto fyth, am drens yn rhedeg yn hwyr a chael fy nghadw i ddisgwyl oriau ar blatfform oer.

A yw hi'n rhy hwyr i Eisteddfod y Glowyr wneud cynhyrchu llenyddiaeth o bwys am fywyd y glowr yn briod bwrpas iddi?

"Wyddoch chi ddim eich bod chi mewn perygl bywyd yn nofio ar eich pen eich hun yn hwyr y nos?" "Perygl?

Mae gen i dasg i'w gwneud drosto, ac mae'n rhaid imi'i gwneud hi ar unwaith, cyn iddi fod yn rhy hwyr.' 'Rhy hwyr?' meddai Non.

Ond i goroni'r cyfan, a dyma oedd yn wir yn groes i'r graen ac yn ei gwylltio, roedd yn golygu ei bod yn awr wythnos yn hwyr yn dychwelyd i'w gwaith.

Er ei bod yn hwyr iawn fe Iwyddodd i gael llety mewn gwesty digon tlawd yn y pentre.

Roedd e'n hwyr fel arfer, meddyliodd Alun.

Yn ystod y flwyddyn, tynnwyd sylw'r Swyddfa Gymreig yn gyson at bwysigrwydd y cynlluniau sydd gan yr awdurdodau i gynnal gwasanaeth athrawon bro a sefydlu canolfannau i hwyr-ddyfodiaid er mwyn goresgyn anawsterau sy'n codi o brinder athrawon a mewnlifiad disgyblion di-Gymraeg i ardaloedd Cymraeg.

Aeth y cyfarfod yn un hwyr iawn, gan achosi rhyfel cartref yn y car yn ddiweddarach.

Trannoeth, ar ôl i'r mistir fynd mor ddisymwth, allwn i ddim mynd lan nes bo' i'n hwyr y prynhawn.

Rydyn ni, fel eraill, wedi bod yn hwyr i ddeffro i'r angen i wneud ein bywyd cyffredin mor ddiogel ag sydd modd i blant, meddai'r Archesgob.

Ma' rhyddid yn beth mawr, wyddoch chi a rydw i am ddal 'y ngafal ynddo fo." Ar yr un gwynt, ychwanegodd yn ddyn i gyd: "Rydw i am fynd i weld tipyn ar y byd cyn iddi hi fynd yn rhy hwyr arna i." Agorodd ceg Maggie Huws, ond cyn iddi hi gael yr un gair allan ohoni hi, roedd Willie Solomon wedi cyrraedd ei ddrws ac wedi rhoi clep arno yn ei hwyneb.

Roedd hi'n rhy blydi hwyr.

Y gobaith yw sicrhau nad yw trenau yn rhedeg yn hwyr oherwydd bod dail ar y cledrau.

Bydd y penwythnos yn cynnwys pryd canol dydd o sglodion a physgod gyda Mrs OTT (GILLIAN ELISA), cinio'r hwyr gyda'r cogydd, DUDLEY NEWBERY a thaith o gwmpas Stadiwm y Mileniwm yng nghwmni RAY GRAVELL.

Yn y gêm arall yn y grwp, gwnaeth Yr Eidal barhauu record gant y cant yn y gystadleuaeth drwy guro Sweden 2 - 1 efo gôl hwyr gan Alessandro Del Piero yn Eindhoven.

Yn ogystal sefydlwyd canolfannau iaith ar gyfer cymathu'r hwyr-ddyfodiaid ac y mae'n fwriad i sefydlu rhagor ohonynt yn y dyfodol.

Pan ymddangosodd Teflon Monkey ar raglen Iestyn George –Y Sesiwn Hwyr – nôl ym mis Hydref, 'roedd hi'n amlwg bryd hynny fod gan Rhodri Vine dalent aruthrol a bod ei gerddoriaeth yn syml ond eto yn hynod o effeithiol.

Roedd digonedd o dai bwyta ar gael yno ond dim gwesty felly roedd rhaid i fi ddod lawr gyda'r hwyr.

Yng nghwmni Rebecca John a Jason Mohammad, gall y gwylwyr gael clywed am ddigwyddiadau yng Nghymru ar byd, gyda'r bonws ychwanegol o dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar straeon newyddion syn digwydd yn hwyr yn y nos.

Un hwyr, pan oeddwn yn dychwelyd i'm cartref o Lyn Rhosyn, rhedodd y ferch allan 'o lôn gefn gul' yn syth o'm blaen.