Gwelsom Mr Jones, Dolwar, yn croesi'r cae â phâl yn ei law, wedi bod yn chwilio am ddiferyn o ddŵr i'w ddiadell, ac yr oedd honno'n ei ddilyn gan frefu mor daer â'r hydd a glywsai'r Salmydd gynt yn brefu am yr afonydd dyfroedd.
Llamai'r carcharor gan lawenydd am ei fod yn cael dyfod i'w hen gell gartrefol, a neidiai fel hydd.