Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hyderus

hyderus

Mae Richard Vaughan o Lanbradach wedi cychwyn yn hyderus ym Mhencampwriaeth Badminton Lloegr.

Dychwelodd Stevens yn sionc i Sheffield neithiwr ac fe ddylai fod yn dawel hyderus ynglyn â'i obeithion yn y gêm.

Ond, yn groes i'w ddisgwyliad, daeth mab yr Yswain ato, gyda gwên ar ei enau, gan ddymuno bore da iddo, a chan ei annog i deimlo yn hyderus, ac ychwanegodd: `C'lynwch chi fi, Harri, pan ddaw hi'n adeg cychwyn, a mi fyddwch yn all right.

Mae calon barddoniaeth yn curo'r ymddangosiadol gryfach, ac wrth gwrs caiff y beirdd faeth o wreiddiau hen y traddodiad, a gellir son yn hyderus am adfywiad cynganeddol ac yn y blaen.

Gall y safle eich helpu i wella'ch Cymraeg, dod yn fwy hyderus wrth ddefnyddio'r Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig, ac ysgrifennu mewn Cymraeg clir, dealladwy.

Dyma'r tro cyntaf i Hector aros mewn gwesty, ond yr oedd yn benderfynol o fod yn hyderus ac yn siŵr o'i bethau.

Teimlai'n hyderus yng nghylch y twnnel, heb feddwl y byddai llawer o berygl mewn mentro drwyddo.

Y môr yn gynnes a llawn heli cryf wrth inni nofio'n hyderus tuag at y dwr brown yn ein gwahodd ni tua'r traeth a gweld eglwys wen, fechan, ar y lan.

Wedi hynny batiodd y gwr ifanc sy wedi dod i mewn i'r tîm, Kumar Sangakkara, yn hyderus cyn syrthio i Robert Croft am 58.

Ond nawr, wedi ichi gael ryw hwb bach, does dim dal arnoch chi', chwedl Mona wrth iddo droi'n fwyfwy hyderus.

Bydd Northampton yn hyderus ar ôl curo un o dimau gorau'r adran, Wigan, gartre, y Sadwrn diwetha.

Damwain mae'n siwr ydy'r ffaith fod prif gymeriadau'r ddwy nofel yn ferched ifanc, hyderus a'u bod yn ceisio datrys dirgelwch o ryw fath.

Yna martsiodd ymlaen yn hyderus tuag at gysgod tywyll y porth.

Er bod yr awdurdod yn hyderus eu bod wedi clirio'r rhan fwya o asbestos, maen nhw'n cyfadde y gall rhywun fod wedi dadlwytho'r deunydd yn anghyfreithlon ar y safle.

Yr oeddent wrthi'n gweithio i weddnewid gwerin mewn ffyrdd a fyddai'n ei gwneud yn ddigon hyderus a diwylliedig erbyn canol y ganrif i fynnu ei hawliau ac i gymryd at awenau arweiniad cymdeithasol a gwleidyddol.

Na - rwy'n hollol hyderus mai yn yr un modd yn union y trinir y ceisiadau am y swyddi hyn ym myd Iechyd.

Ni'n hyderus iawn yn mynd i'r gêm yn erbyn Llanelli fory.

Fe ddylai'r Cristion o bawb fedru byw bywyd yn llawn, a throedio yn hyderus yn wyneb yr hyn a ddaw i'w ran.

Mynegai ac amddiffynnai safbwynt yr hyn a gynrychiolai yn hyderus a digywilydd a phlannodd yr un ysbryd eofn yn ei ddarllenwyr cyson.

Am hynny dywedwn ninnau'n hyderus: 'Yr Arglwydd yw fy nghynorthwywr ac nid ofnaf; beth a all dyn ei wneud i mi .

Fydden ni ddim yn caniatau plannu cnydau os na fydden ni'n hyderus nad ydyn nhw am wneud drwg i bobol, anifeiliaid na'r amgylchedd.

Byddai'r gwrandawyr yn gwybod ar unwaith wrth glywed 'Morgan Hyderus' yn sôn fod y Cymry'n caru yn y gwely, mewn ffordd mor wahanol i'r Saeson diwair, mai parodi oedd o dystiolaeth William Jones, ficer Nefyn, ac ni allai fod unrhyw amheuaeth ynglŷn â'r sylwadau ar y Gymanfa Bwnc gan 'Haerllugrwydd Cableddog Troedyraur' (t.

ac y maent yn hyderus y bydd y mwyafrif llethol yn cytuno i hyn.

Taflodd ei phen yn ôl yn hyderus lawen.

Ond dywedodd Prif Weithredwr Superleague, Ian Taylor, ei fod yn hyderus y byddai Caerdydd yn chwarae yn y cynghrair y tymor nesaf.

Digon am y tro ydi datgan yn weddol hyderus, os byw ac iach, y bydd y cerrig hyn yn goffadwriaeth i rai o'n ty ni, am sbel go lew beth bynnag .

Wrth gwrs, wrth gwrs, atebais innau, yn hyderus na fyddwn yn clywed gair pellach am y peth.

Maent yn hyderus wrth fynd i'r afael ag amrediad o destunau o gymhlethdod cynyddol a gallant ddeall ystyron ymhlyg yn ogystal â'r arwynebol a'r amlwg.

Y dull gwyddonol yng nghyd-destun eich prif bwnc chwi eich hun Lle Gwyddoniaeth yn y cwricwlwm a'r berthynas rhwng y gwahanol wyddorau a rhwng gwyddoniaeth a thechnoleg, mathemateg a phynciau eraill Datblygiadau diweddar mewn meysydd megis technoleg gwybodaeth, micro- electroneg, a biotechnoleg Perthynas gwyddoniaeth a thechnoleg a bywyd bob dydd ar bob lefel Defnyddio'r amgylchfyd ar gyfer dysgu Asesu Sgiliau sylfaenol asesu a sut i'w cymhwyso wrth ddysgu Sgiliau cadw golwg ar gynnydd a chyrhaeddiad disgyblion a'u cofnodi, gan gynnwys swyddogaeth gwaith cartref Sgiliau angenrheidiol ar gyfer cloriannu gwerth gwersi, defnyddiau dysgu a meysydd llafur Iechyd a Diogelwch Yn ogystal â gwybodaeth am ddeddfwriaeth ynglŷn ag iechyd a diogelwch yng nghyd-destun yr ysgol, cynhelir sesiynau ar gyfer pob myfyriwr gwyddoniaeth ar beryglon arbennig labordai bioleg, cemeg, ffiseg ac astudiaethau maes Ymarfer diogel wrth wneud gweithgareddau ymarferol gyda disgyblion Storio a chynnal cemegau a chyfarpar Gofalu am greaduriaid a phlanhigion cyffredin y labordy Egwyddorion sylfaenol ac ymarfer Cymorth Cyntaf Datblygiad Personol a Phroffesiynol Paratoi'r myfyriwr ar gyfer profiad ysgol Datblygu hyder fel athro ac ymwybyddiaeth o gryfderau a gwendidau personol wrth ddysgu Hyrwyddo cyfranogi bywiog gyda chydweithwyr wrth ddatblygu a dysgu cwricwla newydd, cynlluniau gwaith, ymarferion theoretig ac ymarferol Bod yn ymwybodol o'r cynnydd mewn ymchwil addysgol, yn arbennig ym maes dysgu'r gwyddorau Astudiaethau Addysg a Datblygiadau Arloesol Bod yn ymwybodol o bwysigrwydd dysgu 'sgiliau proses' mewn gwyddoniaeth Dod yn gyfarwydd a mentrau megis, Cofnodi Cyrhaeddiad, Disgwylir i bob myfyriwr archwilio posibiliadau Gwybodaeth Technoleg, eu heffaith ar arddulliau addysgu a dysgu, a dod i'w defnyddio'n hyderus.

Os ceir y dyfarniad terfynol yn Lwcsembwrg þ ac rwy'n hyderus yr aiff Cyngor Gwynedd â'r mater i'r eithaf Ewropeaidd, os bydd raid þ bydd y dyfarniad hwnnw'n un tyngedfennol i'n dyfodol ni fel Cymry.

Cerddi cryf am gyfraniad y Dysgwyr i'r Gymru newydd hyderus.

Sŵn bodlon Sais hyderus, er iddo fod yn Sais wedi'i ddadymerodraethu sydd yn yr atebion.

Mae am i ni droedio 'mlaen yn hyderus, gan ymddiried ynddo Ef.

Bu Jimmy Maher yn ymarfer gyda'i glwb newydd ddoe, a mae'r capten, Steve James, yn hyderus bod gan Forgannwg y chwaraewyr i sicrhau llwyddiant y tymor hwn.

Fyddwn i'n gobeithio ein bod ni i gyd fel aelodau Cymdeithas yr Iaith, er efallai yn ymateb yn reddfol i sefyllfa, yn hyderus fod y reddf honno wedi ei seilio ar egwyddor o hir ymarfer.

Eglurodd bod cydweithrediad da rhwng y gwahanol gynghorau ac 'roedd yn hyderus y buasai hyn yn parhau.

Rwyf yn hyderus bod tîm rheoli BBC Cymru yn llwyr ymwybodol o'r newidiadau hyn i'r farchnad ddarlledu, a bod y gallu yno i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd newydd fydd yn ymddangos o ganlyniad i'r chwyldro sy'n awr yn digwydd ym maes cyflwyno rhaglenni.

Bob tro y canai'r seiren, byddai Natalie yn crio'n afreolus, a newidiodd Adam o fod yn fachgen bywiog, hyderus i fod yn dawel a nerfus.

Credwn hefyd bod y rhaniad oedran uchod yn adlewyrchiad teg o'r Cymry Cymraeg yng Nghymru heddiw, ac felly rydym yn hyderus o ddilysrwydd y sampl o ran rhyw ac oedran.

Gwell ar y dechrau yw'r cysylltiad â grwpiau bach canghennau CYD, yn Gymry Cymraeg a rhai llai hyderus (boed yn Gymry Cymraeg neu ddysgwyr), er mwyn ennill hyder a phrofiad.

Cychwynnodd India'n hyderus er iddyn nhw golli Siv Sundar Das yn gynnar, wedi'i ddal a'i fowlio gan Glenn McGrath.

Rhaid i ni fod yn hyderus.

Ond mae'n ymddangos bod sawl un hyderus yn byw yng Nghwmderi gan bod digon o'r cymeriadau'n fodlon diosg eu dillad er budd eu busnes.

Ar ôl y datganiad ifanc, hyderus yna dipyn o ddisgyniad yw cyfraniad cyntaf y rhifyn cyntaf, sef telyneg gan Geraint Bowen nad yw'n ddim ond adlewyrchiad o delynegaeth John Morris-Jones:

Cynghorwyd y tenor o Croatia i beidio â chanu oherwydd anhwylder ac i'w le camodd tenor hyderus iawn o Mexico, Luis Rodriguez.

Y fframwaith greiddiol yw'r ymwneud a'r defnydd o iaith mewn dulliau dysgu ond bydd gwahaniaethau ym mhrofiad yr athrawon ac yn eu gallu i drin a thrafod y Gymraeg yn hyderus.

Edrychwch draw ac fe welwch lle y rhuthrodd ysgrifbin beiddgar y gŵr hunan-hyderus i recordio i'r oesau ei fawredd ei hun, na recordiwyd mohono yn unman arall.

Ond y cyfuniad yma o ymddygiad hyderus a bregus syn gwneud stori Catatonian ddiddorol ac yn werth ei darllen.

Cododd wedyn a chamu'n hyderus draw at y grŵp o Saeson oedd yn chwarae dartiau.

Wedi'r egwyl ymddangosodd Stephanie Novacek, mezzo hyderus o'r Unol Daleithau.

Lle bo'r safonau mewn Cymraeg/Saesneg yn dda, bydd disgyblion yn siarad yn eglur a chyda hyder cynyddol; yn cyfleu gwybodaeth yn effeithiol gan roi cyfarwyddiadau ac ymateb iddynt yn briodol; byddant yn darllen yn fwriadus, ac yn ymgymryd â chwarae rôl a drama'n hyderus.

Yn methu'n lân, fodd bynnag, â'i leoli, suddodd y gyllell i lawr am y cymal sy'n cysylltu'r aelod wrth y corpws, a dechreuodd hacio'n hyderus yn y diriogaeth honno.

Nid yw'r iaith felly yn 'perthyn i bawb' nac ar gael yn mhob rhan o Gymru ac mae hefyd yn gwahaniaethu yn erbyn pobl nad ydynt yn gallu siarad yr iaith neu yn hyderus i'w hysgrifennu.

Rhif oed yr addewid, meddyliodd Willie'n hyderus, addewid o bethau gwych i ddyfod, nid nefoedd niwlog o fyd arall, ond yma o'i gwmpas ac yntau gyda digon o bres yn ei boced i dalu amdano.

Ond trown atat yn hyderus, canys buost trwy'r oesoedd yn noddfa rhag y dymestl i'th bobl.

Wedi dychwelyd i'w lety llwm y noson honno y buasai yn nhŷ braf Mrs Paton Jones teimlai Hector dipyn yn fwy hyderus a phwysig.

Petai'r Cynulliad a'r sefydliadau eraill yn methu, mae ymgyrchwyr iaith yn hyderus y byddai'r Wyddeleg yn dal i ffynnu, oherwydd bod y fan y maent wedi'i gyrraedd nawr yn ffrwyth blynyddoedd lawer o waith nad oes modd ei ddadwneud.

At hynny gwyddai nad oedd o mor hyderus â hi ynglŷn â diniweidrwydd Lewis.

Yn sicr, fe ymddengys fod y bwci'n gwybod ei ffordd gan ei fod yn torri drwy'r goedwig yn hyderus iawn gan droi o'r naill lwybr i'r llall heb oedi eiliad i ystyried a yw e'n dilyn yr un cywir.

Mae ganddo rhyw awdurdod i fedru wynebu bywyd yn hyderus, a'r modd i ddirnad rhwng yr hyn sy'n iawn a'r hyn sy'n anghywir.

Roedd y cynhyrchiad, felly, i fod i greu llun oedd yn caniatau inni ddarllen meddwl Ifans; ofn y genhedlaeth hŷn o offer mecanyddol, o fod allan o waith wrth gael eu sarhau gan newydd-ddyfodiad di-grefft sydd yn medru defnyddio'r offer hwnnw; ofn agweddau newydd o ddiffyg parch; ofn ffyrnigrwydd caled, hyderus y to newydd a chymysgedd meddwl ynglŷn a Chrefydd - a yw'r Giaffar yna i wrando ar yr holl gwynion hunan-aberthol?