Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hydref

hydref

Os yw'r grug yn blodeuo yn Awst, bydd yr hydref yn fyr a'r gaeaf yn gynnar.

Fel y bo Medi'r cyntaf, felly fydd yr Hydref.

Mae Gwlad Pwyl wedi enwi 8 o'r 11 a ddechreuodd y gêm yn erbyn Cymru ym mis Hydref ar gyfer y gêm nesaf rhwng y ddwy wlad yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd ar Fehefin 2.

Daeth y newyddion i wylwyr o Gymru ar Wales Today yn gyntaf gyda newyddion brys am 5.30pm ar Hydref 27.

Haf 1972, Hydref 1985, Gwanwyn 1997. Y ddarlith a newidiodd hanes Cymru.

Bydd nosweithiau Sesiwn yn cychwyn ar nos Fercher, Hydref 11, gyda Talogus, Depth a Supa Muff.

Gwaith amser mwy rhydd o ddyletswyddau pwysicach garddio fyddai hyn, dyddiau di-wlawio diwedd hydref neu aeaf fel rheol.

Penderfynwyd symud y Cyfarfod Cyffredinol o'i slot arferol ym mis Hydref i fis Mawrth neu Ebrill.

yn fuan ar ôl iddo adael yr ysbyty ym mis Hydref.

Y mae cyfrinach llwyddiant ac enwogrwydd y cylchoedd glan môr hyn bellach ynghlwm wrth yr ymosodiadau cyson arnynt gan ymwelwyr o bob math rhwng Ebrill a Hydref bob blwyddyn.

Steve yn trin traed yr hyrddod i sicrhau na fyddant yn rhy gloff i weithio yn yr hydref.

Roedd Pwal wedi dod i Fodwigiad i dalu'r ail ran o'r arian oedd yn ddyledus am y buchod a brynasai yr hydref cynt.

Yn allweddol, cafwyd cwymp o £10,000 yn nifer y di-waith yng Nghymru rhwng agor y Cynulliad ym Mai 1999 a Hydref 2000.

Os medrwn ei hadu a chael glaw yn fuan, yna gallwn ddisgwyl porfa ffres at yr hydref ac i'r wyn bach yn y gwanwyn.

Yn ei anerchiad ar ddydd Gwyl Ddewi, saith mil o filltiroedd o Gymru, dyma oedd neges Ben Gregory, Ysgrifennydd NSC Cymru: 'Byddwn yn gwylio canlyniadau etholiadau Nicaragua yr hydref hwn gyda diddoedeb mawr.

Am ddau hydref efallai cafodd gymar, a chyd-rychasant y gro i fwrw ei grifft.

Yn ystod sesiwn yr haf safai'r defnydd o'r Gymraeg ar 12.1% ond erbyn sesiwn yr Hydref (hyd 23 Tachwedd) roedd y defnydd o'r Gymraeg wedi disgyn i 10.8%. Efallai ar yr wyneb nad yw hyn yn ymddangos fel dirywiad sylweddol.

Gweithredodd y Gymdeithas dros ryddid Hydref 1996 Rali fawr o dros 1,000 o bobl tu allan i'r Swyddfa Gymreig gyda Pharti Ffarwél i'r Torïaid a Gorymdaith dros Ryddid trwy strydoedd y Brifddinas.

Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal ei phrotest gyntaf tu allan i'r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd am 2 o'r gloch Dydd Mercher Hydref 27ain.

Wrth annerch cynhadledd ar Entrepreneuriaeth a Busnesau Bychan yn y Cyfryngau, yn Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth ar ddydd Gwener 8 Hydref bydd HUW JONES, Prif Weithredwr S4C, yn dadlau fod yn rhaid derbyn bod impact economaidd ac effaith bendant S4C ar fusnes a bywoliaethau yn bell gyrhaeddol.

Hydref 26 MANGRE yn Le Pub,Casnewydd.

Caiff ei darlledu ym mis Hydref 2000, ar achlysur 600 mlwyddiant marwolaeth Chaucer.

Mae prinder adlodd i besgi wyn ar ambell ffarm ac mae eraill, lle bu gwrteithio am ail dyfiant, yn ceisio ennill crop ychwanegol o silwair yn yr hydref.

Cwilt pobol ddiog yw'r cwilt erbyn hyn a'r clytiau o las Gwanwyn a melyn Haf ac aur Hydref wedi mynd yn fawr ac yn ychydig, a'r tractorau a'u gwehyddion a'u casglwyr silwair a'u combeiniau yn llusgo hyd yr erwau agored fel chwilod mawr, boliog yn ysu'r cnydau.

Roedd hi newydd fod am dro yn y berllan gan sylwi gyda phleser fod y coed ffrwythau'n llawn blodau - argoel y byddai yna gnwd da yn yr hydref.

Mae'r lliwiau y mae'n eu defnyddio yn Beddgelert yr yr Hydref yn gyfoethog o goch a brown a melyn - lliwiau'r Hydref.

Tystion: Yn dilyn llwyddiant albym newydd y Tystion - Hen Gelwydd Prydain Newydd - mae'r grwp hip hop yn parhau i fod yn brysur gyda gig yn y Toucan, Caerdydd nos Fawrth Hydref 17.

Medi sych, hydref glawog.

Hydref 28 ANWELEDIG a GOGZ ym Mhafilwin Corwen.

Bwriadai gychwyn ei ympryd ar y chweched o Hydref, 1980.

Cafwyd llawer o awgrymiadau am gyfarfodydd ar gyfer y tymor nesaf fydd yn dechreu yn gynnar ym mis Hydref

Mae'r 'hydref' yn yr awdl yn symbol o ddioddefaint a dadfeiliad y byd ar y pryd.

Hydref 23 ANWELEDIG a MANGRE yn gig RADIO 1, Queens Vaults, Caerdydd.

Erys gwledd i'r synhwyrau o'n blaenau wrth gerdded tua phen pella'r trwyn, ffresni tyfiant ifanc y gwanwyn, aeddfedrwydd cynnes y rhedyn a'r eithin ar bnawn o haf, lliwiau machlud tanbaid yr hydref ac awyrgylch gysglyd y gaeaf yn aros y deffro cyfarwydd, gyfareddol.

Eglurodd TI Ellis fod yr Undeb wedi bod yn trafod y mater er mis Hydref ond wedi penderfynu cadw'r bwriad yn ôl nes byddai'r etholiad cyffredinol wedi mynd heibio.

GO Byddai'n fanteisiol i gyfarfod yn yr Hydref i'r cwmniau gael rhannu gwybodaeth gyda'r canolfannau mewn da bryd.

Hydref cynnes, gaeaf oer.

Wrth i'r Bwrdd gyhoeddi y byddan nhw'n dosbarthu drafft o ganllawiau iaith yn yr Hydref, fe gawson nhw'u beirniadu gan Eleri Carrog o'r mudiad Cefn am lusgo'u traed.

Daeth newydd fod Supamyff yn recordio ep ar label RASP fydd yn cael ei rhyddhau tua mis Hydref.

Coeden weddol fechan yw hon ond gwna iawn am ei diffyg maint trwy fod yn llawn o aeron cochion yn yr hydref - arlwy hyfryd i'r Aderyn Du, y Drudwy, Coch y Berllan a'r Fronfraith.

Watkins alwad, a daeth i'r ofalaeth i fyw yn Hydref y flwyddyn honno.

Yn ôl ymchwil newydd gan ysgolheigion yng Nghaer-lyr a Sheffield, gellir tybio mai Chaucer ei hun oruchwyliodd beth o waith copïo a golygu y llawysgrif cyn ei farwolaeth ar Hydref 25, 1400.

Wrth deithio i Gynhadledd Merched y Wawr yn yr Hydref, mae'r gwahaniaeth rhwng coedydd bythwyrdd duon y Ganllwyd, a lliwiau'r coed llydan eu dail yng ngoedydd Dolgellau yn syfrdanol hollol.

Bydd diwrnod hirfelyn ym mis Hydref yn fy atgoffa am rannau o bumawd hyfryd Schubert i linynnau.

Rhaid cofio rhain i gyd; a chyn i rhywun droi mae'n lli Awst a'r eogiaid yn rhedeg yn gyson am y llednentydd - a dyma ni wedyn hyd ganol mis Hydref yn prysur edmygu a gwerthfawrogi cynnwys parsel arall.

Bydd yn teimlo pryder yn yr Hydref rhag ofn bod ei dail wrth ddisgyn yn peri blinder i'r teulku drws nesaf neu'n myfyrio ar faint o arian a gâi pe torrai hi i lawr a'i gwerthu fel coed i'r saer.

Pan ddaw'r barrug cyntaf, a dail derw a ffawydd glan yr afon fel creision yd, a sgerbydau'r coed yn cyhoeddi cilio o'r haf a'r hydref - dyna pryd y bydd y ddau bysgodyn yma ar eu gorau.

MAE DYFODOL swyddfa Bangor Awdurdod Datblygu Cymru yn dal yn y fantol yr wythnos hon wedi i'r gweithwyr gael gwybod y bydd y rhan fwyaf o'u swyddi yn cael eu lleoli yn Lanelwy wedi'r addrefnu yn yr Hydref.

Yn union fel y bo tywydd Hydref, felly y bydd Mawrth.

'Roedd dail trwchus y coed wedi troi lliw yma ac acw yn barod, a llanwyd ei ffroenau gan leithder hydref.

Ceisiwch hefyd gael cyfle i ymweld a rhai o'r sioeau carafan, yn enwedig y brif sioe fly- nyddol a gynhelir yn Earl's Court Llundain bob Hydref.

Bwriadwn gyflwyno'r ddeiseb i'r Cynulliad Cenedlaethol mewn rali fawr yng Nghaerdydd yn hydref 2001. Beth yr ydym yn ei ddisgwyl gan y Cynulliad Cenedlaethol?

Roedd hyn i gyd yn ddigon i godi'r gwrychyn i'r gorllewin o Bont Llwchwr, ac fe fuodd Carwyn James a Norman Gale wrthi'n cynllunio a pharatoi mor drylwyr ag a wnaethent cyn gêm Seland Newydd, 'nôl ym mis Hydref.

Gweler Dwyieithrwydd Gweithredol, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Hydref 1999.

Mae cynnig wedi ei roi i'r gweithwyr i roi cais am swydd newydd pan fydd yr awdurdod yn ad-drefnu yn mis Hydref, ond does dim addewid am barhad i'r swyddi sydd ar hyn o bryd yn Fangor.

Ddydd Mercher, fe wnaeth Bwrdd yr Iaith eu datganddiad mawr cynt' ers tro - fe fydd drafft o'u canllawiau iaith ar gyfer y sector cyhoeddus yn cael ei gyhoeddi ddechrau Hydref ar gyfer ymgynghori a chynllun ar gyfer y sector preifat yn dechrau cael ei weithredu.

Aelodau Evans ydy Alex Philp, llais, Rhys Elis, gitar, Dylan Evans, gitar, Aled Williams, Bas a Dewi Jones, drymiau ac ar Hydref 16 mae'r grwp yn rhyddhau eu Ep cyntaf o'r enw Evans ar label nodedig Sylem o Fetws y Coed.

Dewch inni ystyried rhai o nodweddion yr hydref ysbrydol yr ydym wedi byw trwyddo.

Hydref 20 CACAN WY EXPERIENCE a RHIAN MOSTYN yn Llanfair Arms, Llanfairfechan.

Mae'n rhaid i'r Cynulliad ddod i benderfyniad yn yr Hydref (gw.

Mae yna ddau olwg ar yr Hydref a rheini yn groes i'w gilydd - ond a chysylltiad rhyngddynt.

Y casgliad a dynnaf oddi wrth yr argyhoeddiad hwn yw fod diben i'r hydref ysbrydol, er nad wyf bob amser yn gwbl glir beth ydyw.

Mae'n ymddangos yn debyg na fydd Cymru'n gallu chwarae eu gêm gydag Iwerddon, gafodd ei gohirio fis dwetha oherwydd clwy'r traed a'r genau, tan yr hydref.

Adnabyddir tymor yr hydref yma fel tymor y "iorton" sef dathlu. Dyma pryd mae'r bobl yn dathlu eu henwau eu hunain yn ogystal â dathlu enw'r nawddsant.

Pan ymddangosodd Teflon Monkey ar raglen Iestyn George –Y Sesiwn Hwyr – nôl ym mis Hydref, 'roedd hi'n amlwg bryd hynny fod gan Rhodri Vine dalent aruthrol a bod ei gerddoriaeth yn syml ond eto yn hynod o effeithiol.

Hydref 25 Gig Byw Radio 1 Topper, Murry the Hump.

Ac mewn llawer gwlad yn Affrica ac India, lawer tro dioddefodd miliynau hirlwm oedd yn ymestyn trwy'r hafau i'r hydref di-gynhaeaf.

Pan aeth y gweithwyr yn ôl i'w pyllau yn wythnos gyntaf mis Hydref, gwnaethant felly ar y telerau a fuasai ar gael ers blwYddYn.

Hydref 25 TOPPER yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd.

A sicrhau'r dwbwl ar ôl curo Abertawe 1 - 0 ar y Cae Râs 'nôl ym mis Hydref.

Materion Sirol: Bydd y Pwyllgor Sir yn cyfarfod ar y Sadwrn cyntaf ym mis Hydref ym Mhenrhosgarnedd.

Dengys adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Hydref gan Hybu Iechyd Cymru fod angen gwella deiet pobl ifanc yng Nghymru.

Mehefin gwlyb ar ôl Mai oer - bydd yr hydref yn baradwys i'r ffermwr.

Ffrwyth yr ysgaw yw'r ffefryn fodd bynnag, a maint y cnwd o'r perlau duon sydd yn penderfynu yn aml faint o fynd fydd ar aeron eraill yr hydref hwnnw.

Chwilota am y cnau a guddiodd yn yr hydref a wna'r wiwer, a'r gwenyn yn y cwch yn byw ar y mel a gasglwyd ganol haf.

Felly mae peth gwrth-ddweud yn y ddau ond cawn weld yn yr hydref pa ymadrodd i lynu wrtho yn y dyfodol.

"O fis Medi a Hydref ymlaen," meddai, "mi fydd yna rywbeth inni ddangos ein bod ni wedi gwneud job soled." "Dim ond yn cynnig gawn ni ar wneud canllawiau.

Dylech fod yn dwys ystyried a fydd eich carafan yn cael ei defnyddio yn hwyr yn yr hydref a i mewn i'r gaeaf.

Yn Seasons cafwyd synau pedwar tymor olaf y Mileniwm ar gof a chadw, gyda'r gwrandawyr yn profi gwanwyn, haf, hydref a gaeaf olaf y ganrif drwy lygaid pum person gwahanol iawn.

O'r amser y daeth y newyddion ar brynhawn Mawrth, Hydref 27, roedd y tîmau cynhyrchu ar waith.

Mae ffrwythau yn fwyd i adar nid yn unig i fagu bloneg ymlaen llaw yn yr Hydref i wynebu'r llymder sydd i ddod, ond hefyd maent yn gynhaliaeth gefn gaeaf llwm.

Dathliad pwysig arall yw Dydd Oxi (sy'n golygu Na) ar Hydref 28 i gofio'r dydd y penderfynodd y Prif Weinidog ddweud Na a gwrthod mynediad i'r Eidalwyr i'r wlad yn 1940 - y weithred a sicrhaodd fod y Groegwyr yn ymuno â'r Ail Ryfel Byd.

Fe fydd uchafbwyntiau gyda'r nos o gêmau eraill Cymru yn erbyn Siapan (Sadwrn, 9 Hydref) a Samoa (dydd Iau 14 Hydref) ac o unrhyw gêmau pellach y bydd Cymru yn eu chwarae yn ystod y gystadleuaeth.

Mae'n bosibl gweld Andromeda yn ystod yr hydref a'r gaeaf, ac mae'r diagram isod yn dangos ble i edrych amdani yn yr awyr.

Os yw'r Hydref yn dechrau yn wyn, fe erys eira yn hir i'r gwanwyn.

Mae'r Hydref mwyn yn loetran yn hir ar lan Llyn Maggiore yn nhalaith Ticino Byddwn yn Oostende ymhen pedair awr!

Newydd orffen cwrs yn y 'Tech' ym Mangor y mae Becca ac yn gobeithio dechrau cwrs 'astudiaethau cymdeithasol' ym Mhrifysgol Manceinion yn yr Hydref.

Fe fydd y darllediadau'n cychwyn nos Wener Hydref 1 gydag uchafbwyntiau gêm agoriadol Cymru yn erbyn Yr Ariannin yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd.

Yn yr Hydref, pan fydd yr adar ddaeth yma yn y Gwanwyn yn troi yn ôl am Affrica gyda'u teulu newydd, mae miloedd o adar eraill yn dylifo i Brydain o rannau gogleddol y byd i dreulio'r Gaeaf yma gyda ni.

Ac os mai syfrdan yw lliwiau'r hydref yng Nghymru, beth am y syfrdan o weld y coedwigoedd llydan ddail yn nhaleithiau dwyreiniol Unol Daleithiau America.

'Rydym ni yng Nghymru yn lwcus iawn gan ein bod yn cael cwmpeini y miliynau o adar a ddaw yma yn y Gwanwyn, a hefyd yn cael haid arall yn yr Hydref i liwio tipyn ar y Gaeaf i ni.

Cyhoeddwyd y papur syn dweud hyn yn rhifyn Hydref o'r Economic Journal gan ddau Athro Prifysgol, Bruno Frey ac Alois Strutzer, sydd wedi dod i'r casgliad nad yw hyd yn oed penderfyniadau gwleidyddol yn effeithio ar faint hapusrwydd pobol gyda datganoli - maen nhw jyst yn hoffi datganoli doed a ddel.

Yn Hydref aeth trên oddi ar y cledrau yn Virginia Water, Surrey, wedi iddo lithro ar ddail gwlyb.

JFelly o ganol Hydref ymlaen byddaf yn rhoi'r gêr plu o'r neilltu ac yn gafael yn y wialen "drotio%, y rîl rydd (centre pin) bocs o fflôts pwrpasol, bocs o bwysau (heb blwm ynddynt cofiwch)...

Bwriedir lansio pecyn tebyg ar gyfer addysg ac arweiniad Gyrfaoedd yn ystod yr hydref.

Mae Cymanfa Ganu ym mis Hydref.

Gan iddi flodeuo yn yr hydref, yn groes i'r rhelyw o goed eraill, mae ei ffrwythau hi yn llenwi yn y flwyddyn newydd.

Bydd y grwp Mansun yn perfformio yng Nghlwb AMSER - TIME, Ffordd Deiniol ar nos Sul, Hydref 22.

Cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith ar Hydref yr 20fed a'r 21ain.

Bu Egin yn datbygu cyfarpar didoli cryno ar gyfer peiriannau labordai awtomatig ac offer cysylltiedig ers Hydref 1993.