Gohiria Tref hwy'n hyf er mwyn rhoi cyfle i'r gweithlu wagio'r sinema a chludir y madarch nas casglwyd i'w cuddio yn yr hen waith glo.
Yng ngwaith Llwyd y mae'r mynegi ei hun yn rhyfedd: yr ymbilio hyf, y tawtolegu hir, y trosiadu a'r cyffelybu a'r personoli, yr aml ddefnydd o similiter cadens, repetitio, contrarium, expolitio, lamentatio, sermocinatio, - y mae'r oll mor syn, mor dynn, mor daer.
Daethant yn fwy hyf a ffyrnig fel y ciliai awdurdod y Rhufeiniaid, nes dod yn bla ar y wlad a rhaid oedd ceisio'u gorchfygu.
Roedd un o hogiau'r De wedi bod yn ddigon hyf i lygadu un o gennod ein hysgol ni.
"Pethau celyd a llymion a ddywedid flyneddau yn ol yn y Seren am yr eglwys wladol, ac wele wr Llen tan yr enw 'Gwr lleyg', a ddaeth i'r maes yn rhyfeddol hyf a gorchestol i'w amddiffyn; ond cyn pen hir efe a ddychrynodd ac a synodd, a ofidiodd ac a gywilyddiodd, ac a ddiangodd, gan rym ei wrthwynebwyr, a'r holl edrychwyr yn chwerthin, a'r holl eglwyswyr yn cnoi penau eu bysedd".