Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hyfryd

hyfryd

At bwrpas darlledu lle maen bosib dod â chydbwysedd i'r hyn â glywir fe fydd yn swnio'n hyfryd.

Am gymal neu ddau dangosodd fymryn o nerfusrwydd yna aeth rhagddo i ganu'n hyfryd, gydag aeddfedrwydd tu hwnt i'w oed.

O'r diwedd rwyt wedi gadael Cors y Cedyrn ac mae'r gwastadeddau o'th flaen yn edrych yn hyfryd.

Dim problem--swper hyfryd iawn, a chofio troi'r botwm ar y wal ar ôl gorffen y coginio.

Yn stori garu hudol a doniol Donizetti, L'Elisir D'Amore (cynhyrchiad gan RM Associates i BBC Cymru) crewyd cyffro o wahanol fath gan y par gyda'u dehongliad iasol o'r darn hyfryd hwn a ddangoswyd ar BBC Two.

Rydw i'n eu cofio nhw i gyd: Hugh Cae Haidd, Wil Pant, Shem Pandy, Wil Jones Happy Valley, Ifan Morgan, Ellis Nant, Wil Thomas Bryn Hyfryd, Rolant Gruffydd Felin Hen a William Ifans Glasgoed.

Parsel hyfryd a thaclus yw'r cyfnod prydferth o'r flwyddyn rhwng mawrth a Mehefin, pryd y byddaf yn datod y llinynnau ac yn cael pleser o bysgota brithyll mewn llyn, afon a chronfa...

At hyn i gyd, trosiad hyfryd y cynaeafu a thrylwyredd y cywain i ysguboriau yn y pennill olaf; nid yn unig bodloni ar fedi diwyd ond mynnu lloffa'n ymroddgar hefyd fel nad oes ronyn o weld a chlywed yn mynd ar goll.

Hyfryd oedd cael gair a Mrs Valmai Vernon a chael hanes Richard a Geraint.

Cofiwn hefyd eiriau'r Salmydd: 'Fy llinynnau a syrthiasant mewn lleoedd hyfryd; y mae i mi etifeddiaeth deg.' Yr oedd David Ellis yntau yn caru bro ei febyd yn angerddol.

'Mae'n lle hyfryd i fam,' meddai Lila.

Dangosodd y modelau steiliau hyfryd a chreadigol, a chafodd y gynulleidfa ei synnu at y technegau newydd sydd ar gael.

Er mai yn Lambeth yn Llundain y ganed ef, fe'i magwyd ym Mhen-y-groes ac acen hyfryd shir Gâr fu ganddo weddill ei oes.

Yn fuan ar ôl hyn, gwelwyd Clociau Blodau hyfryd hefyd mor bell i ffwrdd â dinasoedd Canada, Affrica ac Awstralia .

Ond er 'gyrru'r eryr i Gymru', ni chafodd y bardd ddychwelyd o Facedonia i droedio eto Barlwr y Glyn nac 'ardal hyfryd Rhyd Lefrith' yn Ninmael, ger ei gartref.

Flynyddoedd yn ôl, cerddi A.A.Milne yn y gyfres When We Were Very Young oeddwn i yn eu darllen a chael fy hudo gan y geiriau a'r delweddau hyfryd.

Ond mae Iolo yn ein harwain hefyd i gwrdd â'r teulu sy'n byw yn y cartref hyfryd hwn.

Mae'n fwy na phosibl fod geiriad y salmau hyfryd hyn o dan ddylanwad cenadwri Iesu ei hun ond i fesur y maent yn adlewyrchu mudiad o dduwioldeb gwlatgar wedi ei liwio gan ddyhead y proffwydi gynt am gyfiawnder.

Un o ryfeddodau'r daith oedd sefyll wrth ymyl Llyn Brychan uwchben Trefelin a deall yn union sut y cafodd Cwm Hyfryd yr enw.

'Rwy'n byw yngobaith (sic) Israel, ag yn hyfryd gennif weled y wawr yn torri, ar haul ar godi ar ynys Brydain'.

Gorwedd y maes uwchlaw'r Wyddgrug ar y ffordd i Wernaffild, a maes hyfryd yw hefyd, eang a gwastad, ac yn ddelfrydol ar gyfer 'Steddfod Bro Delyn.

Gwn fod un o chwiorydd tad fy mam yn briod a gwr o'r enw Pearson ac iddynt fynd i fyw yn Heol Jwbili, Cwmaman, Aberdar, lle yr oedd Mr Pearson yn mwynhau tipyn o fri lleol ar bwys ei allu anghyffredin i dyfu rhosynnau hyfryd.

Felly mewn enw lle y mae'n debyg mai 'llecyn dymunol, hyfryd' yw ei ystyr.

Jones yn Y Winllan Wen (dyddiadur Stephen Hughes), a chan Nansi Selwood mewn nofel sy'n mapio ardal newydd ac yn creu naws hyfryd gyda'i thafodiaith, sef Brychan Dir.

Medrwch eu gweld yn ffurfio patrymau hyfryd yn awyr y nos.

Dydd Llun a ddaeth, ac yr oedd gweddi'r Person wedi ei hateb yr oedd y tywydd yn hyfryd a dymunol, ac yr oedd Harri wedi bod yn ei baratoi ei hun i'r ymgyrch er toriad y wawr.

Pan yn ddeuddeg oed, aeth y teulu i fyw i Cwm Hyfryd yn yr Andes.

Mae'r lluniau lliwgar yn hyfryd gyda digon o fanylder i gadw diddordeb plentyn bychan yn y cymeriadau a'r anifeiliaid.

Gofuned hyfryd.

Coeden weddol fechan yw hon ond gwna iawn am ei diffyg maint trwy fod yn llawn o aeron cochion yn yr hydref - arlwy hyfryd i'r Aderyn Du, y Drudwy, Coch y Berllan a'r Fronfraith.

Cymerer y gyntaf o'r wyth soned hyfryd hyn, a sylwer, nid yn unig ar brudd-der y thema fel sy'n arfer, eithr ar y seiniau ystyrlon sy'n corffori'r teimladau hyn: Barddonais yn y cyfnos, O!

Mae dyfodol y ganolfan - ac felly hefyd swyddi'r rhai sy'n gweithio yno - o dan fygythiad o hyd ac fe fyddwn i'n argymell i unrhyw un sy'n chwylio am le i gynnal cwrs, neu hyd yn oed am wyliau gyda chriw o ffrindiau, i fentro i'r ganolfan hyfryd hon yn y gorllewin gwyllt.

Mae'r stori yn un hyfryd a chlasurol - un seml iawn am Tedi'n mynd ar bicnic efo'i berchennog, Lili.

Ennyd hamddenol a hyfryd yw honno yn y beudy pan ollyngir y buchod o'u haerwyon.

roedd awel hyfryd yn chwarae ar wyneb y ferch.

Bydd diwrnod hirfelyn ym mis Hydref yn fy atgoffa am rannau o bumawd hyfryd Schubert i linynnau.

Pas hyfryd Darren Ferguson yn rhyddhau Carlos Edwards ac mi orffennodd o'n gampus.

Telyneg hyfryd.

Nid ydyw'n ddim llai na'r gosodiad hudol hyfryd - 'Mae Gwilym yma.'

Newyddion Teuluol Hyfryd oedd clywed newyddion da am Rhian a Rhidian Lewis, merch a mab Mr a Mrs Les Lewis, St Mary's Cresc, Garth.

Bu'n rhaid iddi gydnabod fod y tywydd yn hyfryd a'r môr yn dawel.

Tystiodd pawb ein bod wedi cael gwibdaith ardderchog er i'r niwl ein hamddifadu o olygfeydd hyfryd gwlad Llŷn.

Wrth weled rhain mor hyfryd Cynhyrfais innau hefyd Anghofio wnes fy unig fam A wylo am fy anwylyd.

Aeth y teulu i fyw i Cwm Hyfryd yn yr Andes.

Hyfryd oedd gweld y llyfryn bach hwnnw, Mere Christianity, o eiddo C.S. Lewis, yn cael lle mor anrhydeddus ar y silffoedd.

O'i fewn gwelir golygfeydd hyfryd naturiol, nid o waith llaw, ac hefyd batrymau hynod o bleserus o weithgarwch dyn ar hyd yr oesau.

Tegeirian tal, cain ei wedd, o liw pinc tywyll ydyw, a'i arogl hyfryd o sbeis a mymryn o 'carnation' yn cryflhau fin nos er mwyn denu'r gwyfynnod i'w beillio.

Bu'n aelod ffyddlon yn Bethel Cwm Hyfryd ar hyd ei oes.

Fe'n cludwyd i iard gefn yng nghanol tref Palembang, heb fod nepell o'r becws yr oedd gennyf atgofion mor hyfryd amdano.

Ar ôl y bwyd cafwyd hanner awr yng nghwmni Miss Iona Jones gyda'i detholiad hyfryd o ganeuon.

Ar fore o Fai gwelodd y bardd brydferthwch naturiol ein hamgylchedd a chyfeiriwyd yn hyfryd at 'emrallt astud y gwellt a'r lloi llonydd'. O weld 'ganhwyllbren y gastanwydden' cafwyd darlun rhyfeddol o lestri'r offeren yn ymbaratoi ar gyfer addoliad.

Hi hefyd a gyflwynodd a diolch i Mr a Mrs Dewi Jones an eu rhan hyfryd yn y dathlu.

Ar y llawr y cysgwn i am sbel rhag ofn i'r Capten fy nal, ond pan fentrais ddefnyddio'r gwely o'r diwedd dyna hyfryd oedd profi ei esmwythdra.

Gwesteion y noson oedd Mr Dewi a Mrs Magdalen Jones o'r Benllech a chafwyd adloniant syber a phwrpasol iawn ganddynt, sef adrodd barddoniaeth gan Mr Jones a chanu hyfryd Mrs Jones.

Dyna set hyfryd.'

"Mi fydd yn hyfryd cael mynd i'r caban i gysgu," meddai Douglas Wardrop.

Tra oedd Martha Jones, sef y forwyn fach, yn gwneuthur munudiau trwy gil drws y parlwr, o'r lle y tarddai miwsig â mwg tybaco, anadlwn innau'n helaeth o'r aroglau cinio a ddeilliai'n chwaon hyfryd o'r gegin gefn.

Ar ei hyd, taria wedyn Ar lawr glas Parlwr y Glyn; Yno mae hoen 'y mywyd, Ac yno mae, gwyn 'y myd, Ardal hyfryd Rhyd Lefrith A'r dydd ar y bronnydd brith.

Os oedd yna fymryn o awgrym o dywyllwch, gwreiddiai ef ynddo'n awchus o hyfryd.

Cafwyd diwrnod hyfryd dros ben yn sgwrsio, cofio hen storiau teuluol, a throedio eto ar hyd hen lwybrau Camer Fawr a oedd mor agos at ei galon.

Ac mi welais innau enghraifft arall o ddiflaniad sifalri wrth i ddau gi fynd i yddfai gilydd ar un o feysydd hyfryd Caerdydd y bore o'r blaen.

Gwaith arbennig yr adeiladydd llongau,Donald McKay, ac athrylith y cynllunydd, John Griffith, a greodd y cliperi cyflym gyda'u llinellau hyfryd a'u mastiau uchel yn llawn hwyliau, llongau megis y Lightning a'r Flying Cloud ac yn y bennod nesaf ceir ychydig o drafodaeth am y cysylltiad Cymreig a'r llongau enwog hyn.

Does neb yn carrega bellach, ac mor wir yw englyn y diweddar Dafydd Williams, Bryn Hyfryd, Y Garn, Pentrefoelas, i'r chwalwr tail: Ni raid wrth deisi gwair ac ŷd mwyach, ac mae'r grefft o'u toi ymhlith y pethau a fu - un o'r crefftau hynny y byddai dyn yn ymhyfrydu ynddynt ar derfyn dydd.

Gewin o leuad Awst sŵn tonnau man a chyfeillgarwch Hogia' Pentraeth yn ei gwneud yn fwy na noson hyfryd.

Yma fe geir boncyffion enfawr o fwynau hyfryd a elwir yn iasbis ac agat.

Mae yna ymadrodd hyfryd i ddisgrifio tywydd ar ddechrau dydd pan fedr fynd yn hindda neu'n ddrycin: rhyw dywydd "be wna i' yn 'te.

Ar ôl blynyddoedd o ymdrin â bwganod, mae'r arswyd hyfryd o allu cysylltu ag ysbrydion yn f'atgoffa bob amser o sŵn frou-frou gwisg sidan Miss Jones Bach a'r oglau arogldarth yn gymysg â pheli gwyfyn.

Ar ddiwrnod o haf hirfelyn tesog y mae byw a bod yn hyfryd.

Yr oedd yn ddarllenwr brwd ac yn hanesydd naturiol, a byddai ymweld â chartrefi Cymru yn fwynhad pur - mangre geni John Pugh yn New Mills, beddrod Ceiriog yn Llanwnnog; Gregynog, cartref wyresau David Davies Llandinam; a chael caniatad y Dr Glyn Tegai Hughes (y pryd hynny) i weld y gerddi hyfryd.

Golygfa hyfryd.

Ac mae'n rhywbeth sy'n rhoi arogl unigryw i'r siop achos beth bynnag ddyweda nhw am faco mae ei arogl o YN hyfryd ac y mae yma gymanfa o aroglau yn ein tywys yn ôl i rhyw gyfnod pell yn ôl.

Rwyf wedi cael diwrnodau o'r fath a haul hyfryd yn cynhesu'r gaeaf, ac yr wyf wedi cael dyddiau gwych wedi i'r bechgyn fod allan yn torri tyllau yn y rhew er mwyn gallu rhoi'r abwyd allan!

Hyfryd ydyw cael eistedd yn dawel ar lan afon neu lyn, a gweld y pysgod yn codi i ddal y clÚr, a'r adar, ar adenydd chwim, yn cystadlu â hwy i ddal y tamaid blasus.

Pan ddengys lilith ichi mor hyfryd yw'r olygfa o ffenestr y llofft ac fel y mae'r domen dail yn rhoi cydbwysedd artistig iddi, peidiwch â'i alw'n rhagrithiwr melltigedig na'i daro dan glicied ei ên.

Hyfryd oedd cael estyn croeso i wr a gwraig o'r Wladfa yn yr Ariannin.

Roedd y llwyfan wedi troi'n ogof hud a lledrith, lle'r oedd holl gymeriadau hoffus a hardd y Nadolig, yn goed ac adar, tylwyth teg, angylion, cor a Sion Corn ei hun yn ein swyno a chreu naws y tymor gydag amrywiaeth hyfryd, hyd at uchafbwynt y cyfan yn nrama'r Geni.