Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hyfrydwch

hyfrydwch

Nid bod cyfraniad cerddorol yr Eglwys yn ddisylw gan fod organ a chôr eglwys gadeiriol neu abaty yn sicr o fod yn hyfrydwch i glust pwy bynnag a'u clywai Ond yr oedd crefft y telynor a'r crythor proffesiynol yn dai yn hynod fyw a derbyniol, a pharch mawr yn cael ei ddangos tuag at feistri'r re/ pertoire traddodiadol helaeth a chywrain, sydd bellach wedi llithro bron yn llwyr o'n gafael.

Y darluniad cywiraf a fedrwn roddi o'r golygfeydd ar y daith hon ydyw disgrifiad a roddir gan Solomon o faes a welodd ef yn rhywle: `Wele, codasai drain ar hyd-ddo oll; danadl a guddiasai ei wyneb ef; a'i fagwyr (goed) a syrthiasai i lawr; y palasau ydynt wrthodedig - yr amddiffynfeydd ydynt yn ogofeydd, yn hyfrydwch asynod gwylltion, yn borfa diadelloedd.'

Hyfrydwch tangnefeddus Y Lôn Goed sy'n treiddio trwy'r ddau bennill olaf, a'r profiad o gerdded hyd-ddi yn werthfawr ynddo'i hun yn hytrach nag fel moddion i fwynhau unrhyw brofiad pellach:

Fel hyn yn unig yr argyhoeddir fod bardd yn adnabod y byd yn ei gymhlethdod cordeddog, ac y geill greu rhywbeth sy'n feicrocosm o'r byd, yn cynnwys ei elfennau gwrthgyferbyniol, ei gariad a'i gas, ei hyfrydwch a'i aflendid, ei fwynder a'i dristwch, ei eni a'i farw.

Hyfrydwch oedd cael croesawi'n ôl Mr Roger Jacob i'n cynorthwyo'n fedrus dros ben ar yr organ.

Hyfrydwch arbennig i mi fu cael ufuddhau i gais o'r fath, a mawr werthfawrogaf y gwahoddiad.