Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hygrededd

hygrededd

Roedd hygrededd yn nodweddu'r oes ac anwybodaeth ynglŷn â gwir hanes y Cymry a'r traddodiad barddol ar y pryd yn rhoi rhwydd hynt i hynafiaethwyr Cymru, Lloegr ac Ewrob chwedleua a rhamantu derwyddol a chynoesol.

Rhoes hygrededd i Blaid Cymru yn arbennig yng Ngwynedd a Dyfed.

Fe fydd hefyd yn tanseilio hygrededd Cristnogion gerbron y byd ac yn y pen draw fe fydd yn dwyn anfri ar Dduw.

Yr awdur yw David Owens, newyddiadurwr o Dde Cymru syn brolio mai fe oedd y cyntaf yng Nghymru i gyfweld grwp bach fydd rhai ohonach chi'n gyfarwydd efo - y Manic Street Preachers, ac mae ei CV llwythog yn profi fod ganddor hygrededd ar wybodaeth i daclor testun newydd yma.

Mae'r awdur wedi colli'r cyfle i ddatblygu'r cymeriadau gan roi rhywfaint o hygrededd a rhesymeg y tu ôl i'w gweithredoedd.

I'r Democratiaid Rhyddfrydol - ddaeth yn bedwerydd trwy Brdain wyth mlynedd yn ôl, mae angen mwy o seddi arnyn nhw i roi hygrededd iddyn nhw ar y lefel Ewroeaidd y mae nhw'n honni sydd mor allweddol.

Mae'r polisi hwn hefyd ar hyn o bryd mewn cul-de-sac, ond mae hygrededd ariannol y polisi hwn yn ddibynnol ar benderfyniad gan y Swyddfa Gymreig ar y fformiwla gyllido h.y. a ddylid dehongli 'ffederasiwn' fel un ysgol, neu fel nifer o ysgolion at bwrpas cyllido.

y rhai sydd yn cael trafferthion i ddeall y gwaith, - y rhai a allai droi'n wrthnysig ac yn anodd i'w rheoli, (yn arbennig felly os yw diffyg dealltwriaeth yn arwain at ddiffyg hygrededd ymysg cyfoedion, neu yn ddiweddarach yn eu gyrfa uwchradd, pan fo dealltwriaeth yn arwain at ddiffyg hygrededd), - y rhai galluog sydd angen eu hymestyn;yn bendant nid un o'r diwinyddon defnyddiol fel y 'Dr Goodwin, Dr Owen, Dr Gill, Marshall, Hervey, Usher' a'r lleill, yn Anglicaniaid a Phiwritaniaid, y cydnabu Williams Pantycelyn ei ddyled iddynt: mewn chwarter canrif o ddarllen ni ddeuthum ar draws un Methodist o'r genhedlaeth gyntaf a ynganodd ei enw hyd yn oed.

Reit o'r cychwyn bu'r arbrawf yn colli hygrededd gan fod y gert bren yn cael ei thynnu ar fatiau rwber wedi eu gosod ar y ffyrdd.

Mae'r ffaith ei fod yntau'n greadur mor flin, diddal a hunanol (yn cam-drin ei deulu) yn tynnu oddi wrth hygrededd ei ddadleuon dros wastata/ u cymdeithas yn llwyr.