Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hyll

hyll

Sylwodd Alun ar y graith biws hyll oedd yn rhedeg ar hyd un ochr i'w wyneb, lle'r oedd cyllell wedi rhwygo'r croen mewn sgarmes.

O'r diwedd gollyngodd y llysywen hyll a wasgai am ei wddw ei gafael.

Rhaid peidio tynnu wyneb hyll rhag i'r gwynt newid cyfeiriad ac i'ch wyneb aros felly.

Trodd a gweld y cawr chwe throedfedd a'r graith ar ei wyneb yn gwenu'n hyll arno.

I ddangos nad oedd dim drwgdeimlad, er bod pawb yn gwybod fod, gwnaeth Affos frawd-yng-nghyfraith ei wraig yn Swyddog Cynllunio gyda'r teitl o Bennaeth ac er mai dyna'r teitl isaf yn y wlad mynnodd Ynot o hynny ymlaen gael ei alw wrth ei deitl, a phan arwyddai lythyr, swyddogol neu breifat, torrai ei enw, 'Ynot Benn.' Rhyfeddodd erioed i'r Brenin Affos gydsynio iddo briodi i mewn i'r teulu brenhinol, ond wedi'r cwbl roedd Arabrab yn ddychrynllyd o hyll, a'r blynyddoedd yn cerdded.

Neun cael rhyw yn yr idiom hyll, fodern.

Y mae'r stori am ei wraig yn dinistrio llawysgrif yr hyn a ystyriai hi yn stori hyll Dr Jekyll gan ei orfodi ef yn ei salwch i'w hail-sgrifennu i gyd, yn stori ynddii hun.

Gwnaeth Jean Marcel wyneb hyll ar Marie a safai wrth ei ymyl, cododd goler ei gôt dros ei glustiau a gwthio ei ddwylo rhewllyd i waelodion ei bocedi.

"Mi arhoswn i glywed y sgwrs rhyngddyn nhw." Clywsom Matthew Owen yn dod i mewn ar ei hyll i'r neuadd, a Rees yn gofyn yn dawel iddo, "Chwilio am Aled yr ydach chi.

Ond roedd pob ffôn yn yr hen adeilad mawr hyll yn brysur, a nifer fawr o bobl yn sefyllian o gwmpas yn anniddig yn disgwyl eu cyfle i ffonio.

Os oedd ei ragflaenydd, Raul Alfonsin, wedi methu'n llwyr ag achub y wlad o'i thranc, pa obaith oedd gan ddyn byr, hyll yr olwg, i gyflawni gwyrthiau?

Prif siop Vilnius, honglaid hyll o adeilad, yn debycach i warws na dim arall - warws heb fawr o nwyddau.

Steve Buscemi (Adolpho Rollo yn y ffilm hon; Mr Pink yn Reservoir Dogs) yn ddelwedd ynddo'i hun - ei wyneb; llygaid pysgodyn, dannedd ymwthiol a gormod ohonynt, gwallt tenau yn cilio o'i dalcen - wyneb hyll yn y bôn ond un nad oes modd tynnu'ch llygaid oddi arno.

Yn wir, pan fyddai morladron yn goresgyn llongau Sbaen un o'r pethau cynta fydda nhw'n i wneud, ar ôl lladd a mwrdro'r dynion a gwenu'n hyll ar dywysoges efo'u cyllyll yn eu cegau a hen hedsgraff eu nain am eu pennau, fyddai taflu'r sacheidia Cacao dros y bwrdd i'r eigion.

Chwarddodd eto, yr un chwerthin gyddfol, ond yn sydyn trodd y chwerthin yn gyfog a gwelodd Llio waed yn llifo o'i cheg, ei llygaid yn troi a'r graith yn goch hyll ac yn amrwd.

Wedi dringo i ben y mynydd, yng nghanol gogoniant Cumbna, ac edrych draw i'r gorllewin mae'r orsaf niwcle ar enfawr, hyll, blêr a bygythiol yno o dan eich trwyn.

Dau air 'hyll', a dau yn unig, a ddefnyddiai, sef 'diawl' ac 'uffar' (nid 'uffern' fel pobl y Rhos) ac fe'i defnyddiai ym mhob brawddeg bron.

Doedd Ynot yn neb mewn gwirionedd, ond rywfodd fe lwyddodd i briodi Arabrab, chwaer Navid y Frenhines - am ei harian, medden' hw, o achos roedd hi'n hyll fel pechod.

Heledd yn crechwenu'n ddwl yng ngafael y ddiod, Heledd yn wylo'n ddilywodraeth a hyll, yn nadu fel anifail mewn poen, a neb yn gallu torri drwy gylch ei hing i'w chysuro.

Bu cwyno yn y papur bro lleol, Llafar Bro, fod mast teliffon symudol hyll wedi ymddangos, a mawr oedd y cwynion yn ei erbyn.

'Gad lonydd i 'mrawd bach i, y bwli hyll!' gwaeddodd Elen.

Y llipryn hyll i chi!

"Mi arhosa' inna' yn fan'ma i edrych ar ôl y fechan." Edrychodd Mam yn hyll, hyll arno.

Nid Bryn Terfel o gawr a safai yno o gwbl, ond yn hytrach rhyw lipryn hyll, mor anniben â hi ei hun!

Nid yw wahaniaeth p'run ai'r tlws ai'r tebyg hyll a unir, mae'r ddwy agwedd mor annigonol â'i gilydd i wneud tegwch â bywyd.

Diddorol Diflas Golau Tywyll Tawel Swnllyd Diogel Ddim yn ddiogel Del Hyll Glan Budr

Yr ydym yn byw mewn byngalos mawr, hyll, gyda llestri lloeren sy'n gallu casglu cant o sianelau ac nid yw'r awydd yn bodoli i wylio rhaglenni Gwyddeleg ar TnG yn y babel sianelog hon.