Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hymateb

hymateb

Mi fydd yn ddiddorol cael eu hymateb nhw.

Ffacsiwyd ein hymateb at y tri arweinydd Cyngor yn Neuadd y Sir heddiw, ac ynddo mynna Cyd-Gadeirydd y Gymdeithas, Aled Davies, fod adolygiad trylwyr o Bolisi Iaith y Cyngor yn digwydd a noda bod obsesiwn y cyngor gyda rheolwriaeth yn troi pobl ifanc, ynghyd â phobl proffesiynol, i ffwrdd o'r broses ddemocrataidd, gan eu bod yn teimlo na fydd neb yn sylwi ar eu barn.

Mae straeon synhwyrus a chelfydd harri Pritchard Jones, Ar y Cyrion, y mwyaf cyfoethog ac artistig o'r cyfan, er yn fwy tawel a gobeithiol - crefyddol-obeithiol, mae'n bosib - yn eu hymateb i'r "ddiwethafiaeth" hyn na'r gweddill.

Cyflwynodd Cymdeithas yr Iaith ei hymateb i'r canllawiau newydd ar berthynas y Gymraeg a'r gyfundrefn gynllunio i'r Swyddfa Gymreig heddiw.

Ond roedd hyfforddwr Abertawe a hyfforddwr Caerffili, Gareth Nicholas, yn llygad eu lle yn eu hymateb i gwynion personol ynglyn âr ystyriaethau corfforol.

Mae'r corff sy'n rheoli snwcer, y WSA, ar fin cyhoeddi eu hymateb i gynlluniau TSN i ffurfio cylchdaith newydd o gystadlaethau fydd yn cynnwys Pencampwriaeth Byd fydd yn cael ei chynnal yr un pryd â Phencampwriaeth y Byd Embassy y flwyddyn nesa.

Ac nid safbwynt yn unig, ond traethiad neu faentumiad o hawl, a'r hawl oedd hawl y genedl i ffurfio ei hagwedd a'i hymateb a'i pholisi ei hun tuag at y rhyfel,--yr hawl, mewn byr eiriau, i benderfynu drosti ei hun a fynnai hi ymyrryd yn y rhyfel ai peidio.

A thybed beth fyddai eu hymateb i radio a theledu ac i beiriannau godro neu olchi?

Eu hymateb hwy yw troi'n erbyn y traddodiad yn gyfan gwbl, rhoi'r tyddyn ar rent ar ôl marwolaeth eu tad a mynd i fyw yn y dref.

Ei hymateb negyddol oedd i osgoi cyfrifoldeb a dweud mai mater i Awdurdodau Lleol oedd hyn.

Croesawodd y Gymdeithas gyhoeddi'r canllawiau newydd, a chyflwynodd ei hymateb i'r Swyddfa Gymreig heddiw yng Nghaerdydd.

Beth fyddai eu hymateb i'r dirywiad crefyddol a ddigwyddodd wedi eu cyfnod hwy?

Gadawodd y dynion eu gorsafoedd a'u gweithdai yn llu, gan syfrdanu'r cyflogwyr, y Llywodraeth, y wasg, a'r undebau hyd yn oed, mor selog oedd eu hymateb i'r alwad.

Diolchwyd i Dottie James a Roger Fox am baratoi'r ddogfen ymateb i Ad-drefniant Llywodraeth Leol ac i Mandy Wix am ei hymateb, ar ran CCPC., i'r ddogfen ar Ddawns.

"Ac mi ddangosodd y siwpar ei gyrn i mi," oedd ei hymateb pan oedd pawb yn dweud y drefn wrthi.

Efallai'n wir fod eu hymateb iddynt yr un ag ymateb Joyce i gatholigiaeth, ond yr oeddynt yno, hyd yn oed os oeddynt yn llai lliwgar na'r adleisiau joyceaidd.

Roedd yn naturiol, felly, i ni fod yn uchelgeisiol yn ein hymateb i'r Uwch-gynhadledd Ewropeaidd yng Nghaerdydd ym mis Mehefin 1998: nid adroddiadau a dadleuon yn unig, ond hefyd rhaglenni dogfen, celfyddydol ac adloniant ysgafn.

Yn dilyn yr helynt hwn bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg pan gyfarfyddant nesaf yn ystyried eu hymateb os na fydd ffurflenni cyfrifiad 2001 yn drwyadl ddwyieithog i bob ty.

Y mae i'r newid hwn, sef y gostyngiad sylweddol yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yn yr ardaloedd hyn, oblygiadau pellgyrhaeddol sy'n mynnu ein hymateb os ydym o ddifrif ynglŷn â gwarchod buddiannau'r Gymraeg.