Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hymdrechion

hymdrechion

Diolch i'w hymdrechion gyda'r Ysgol Ganolraddol, cafodd llawer ohonynt y fraint o gael addysg uwchraddol.

Cymaint oedd ein pryder wedi misoedd heb unrhyw gydnabyddiaeth o'n hymdrechion fel ein bod wedi gorfod galw am gymorth arbennig.

Mae'n bwysig fod y rhai sy'n darparu gwasanaethau dwyieithog yn canfod gwerth o'u hymdrechion.

Dyna pam yr ymddiddorant yn ein hymdrechion ni i ennill deddf iaith gryfach i'r Gymraeg, ac i ail-sefydlu'r iaith ym mywyd pob dydd.

Gwireddwyd eu hymdrechion hwy erbyn heddiw.

Sylweddolwn wrth gwrs ein bod yn hollol ddibynnol ar y tywydd yn sylfaenol am ein llwyddiant neu ein haflwyddiant yn ein hymdrechion garddio.

Parodd hyn i Schneider ac eraill gymharu trylwyredd yr awdurdodau yn hyn o beth â'u hymdrechion i ymchwilio i gefndir cyn-Natsi%aid.

Yn sgîl hyn, ffurfiwyd cymdeithas newydd i gymryd yr awenau oddi ary 'Gymdeithas Rieni' ac i gario ei hymdrechion ymlaen.

Onibai am eu hymdrechion hwy edwino fyddai'r ddrama amatur a byddai'r gymdeithas yn dlotach o'r herwydd.

Ond doedd y cochion ddim wedi cwbwlhau eu gorchest, ac fe fylchodd Roy Bergiers mor effeithiol fel na fedre'r gleision rwystro'r wythwr, Hefin Jenkins, rhag croesi am gais arall, i'w throsi gan Phil, i roi deg pwynt ar hugain ar y sgôrfwrdd--yn erbyn saith pwynt Caerdydd Nid gwneud cam â Chaerdydd yw dweud eu bod nhw wedi rnethu gyda chwe chic at y pyst, wrth iddyn nhw ddefnyddio Gareth Edwards, Leighton Davies a Keith James yn eu hymdrechion.

Yn ôl Cyfrifiad 1991 rhyw 142,000 sydd â rhyw wybodaeth o'r iaith -- canran is na 10% -- a llawer iawn o'r rheiny wedi dysgu'r iaith yn yr ysgol a heb gael y profiad ohoni fel iaith gymunedol fyw, er gwaethaf eu hymdrechion i'w meithrin felly.

David Trimble a John Hume yn ennill y Wobr Heddwch Nobel am eu hymdrechion i ddod â heddwch i Ogledd Iwerddon.

Erbyn hyn roedd hi'n hwyr a dylem i gyd fod wedi bod gartref ers amser ac felly, gadawsom y swyddfa gan adael Mr Roberts Thomas, fel y tybiem, i ffonio'r Prif Uwch-Arolygydd, Mr Merfyn Morgan, gyda chanlyniadau ein hymdrechion.

Anaml y bydd disgyblion yn ysgrifennu; gall eu gwaith fod yn gyfyngedig ei amrediad, heb ei drefnu'n dda, yn anghyflawn, yn anniben neu'n fle/ r yn sgîl sillafu gwael a gwallau gramadeg; ychydig a wyddant am ddiben neu gynulleidfa a chyfyngedig yw eu gallu i wella ar eu hymdrechion cyntaf.

`Pan drown yn llwch,' meddai'r geiriau ar y garreg, `os bydd iaith Lithuania'n gry' ac os bydd ysbryd Lithuania, trwy ein hymdrechion ni, wedi adfywio; yna, hyd yn oed yn y bedd, fe allwn orffwyso'n fwy tawel.'

Oherwydd ein pechod yr ydym o dan gondemniad ac nid oes dim a allwn ni ei wneud trwy ein hymdrechion ein hunain i sicrhau'r cyfiawnder a fydd yn bodloni'r Duw sanctaidd.

Fel pe bai hynny'n arwydd bod cyfnod wedi dod i ben, fe fu'n rhaid i Brydain, ar ôl ei hymdrechion ofer i sleifio allan o bob cytundeb rhyngwladol, fynd i ryfel.

Yma yng Nghymru rhoddir anogaeth i ymgais dila ac arwynebol i ymateb i sefyllfa real y Gymru sydd ohoni, tra ystyrir ein hymdrechion ni i greu Diwylliant Gweledol Cymreig go-iawn yn amherthnasol...

Dechreuodd fel prentis crydd, ac y mae ef a Daniel Owen yn enghreifftiau da o'r dosbarth o grefftwyr yn y ganrif ddiwethaf sydd yn eu hymdrechion i ddod o hyd i lyfrau da, i'w darllen, ac i ymddiwyllio arnynt yn gyfryw ag y dylent godi cywilydd wyneb arnom ni yn y ganrif hon gyda'n haddysg rad, ein horiau gwaith cwtogedig a'n horiau hamdden helaeth.

Hanes eu hymdrechion hwy i rwystro'r hereticiaid rhag ennill tir sydd yn y llyfr.

I'r graddau hyn y mae hanes y plwyf hwn yn adlewyrchiad o blwyfi eraill Cymru yn eu hymdrechion i ennill bywoliaeth yn y ddau fyd.