Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hymgorffori

hymgorffori

Y rhain oedd y 'separatists' cyntaf i godi yng Nghymru ar ôl iddi gael ei hymgorffori yn Lloegr; hwy oedd y cyntaf i anghydffurfio â'r drefn Seisnig.

Gwelwyd hefyd ddylanwad llenyddiaeth Lloegr a Ffrainc yn treiddio i'r traddodiad Cymraeg, nes bod llenorion yn benthyca naill ai destunau cyfan i'w cyfieithu a'u haddasu ar gyfer cynulleidfa newydd, neu'n codi enwau ac elfennau naratif unigol o'r ffynonellau estron, i'w hymgorffori mewn testunau cyfansawdd.

Dylid cywiro'r gosodiad "Bydd y taliadau unwaith ac am byth yma yn cael eu hymgorffori i mewn i swm yr ariannu sylfaenol am gyfnod o dair blynedd" trwy ddileu'r cyfeiriad at amser oherwydd na phenwyd unrhyw amser o'r fath.

Mae'n wir dweud fod yna nifer o wahanol elfennau wedi'u hymgorffori yn eu cerddoriaeth - acid house, hip hop, reggae, dub, rap a chryn ymdriniaeth ar rhythmau Affricanaidd.