Cawn drafod ymhlygiadau hynafiaethol hwnnw yn nes ymlaen oherwydd ni allai ddianc oddi wrth y dulliau a ddefnyddiai ei gyd-fonedd o edrych ar hanes.
Dechreuodd fyfyrio ynghylch arwyddocad enwau megis Bod Drudan a Myfyrion, ac am yr olion hynafiaethol a welid yno ac yng Nghaer Leb ac y tybid eu bod yn feddrodau ac yn allorau'r hen grefydd.
Ef, wrth fynd â mi o gwmpas y wlad i weld hen olion Rhufeinig a chromlechau a chutiau Gwyddelod a phethau felly, a'm symbylodd i brynu llyfrau ar bynciau hynafiaethol Cymreig.