Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hynafol

hynafol

Yng nghapel hynafol Carmel, Rhoshirwaen, siaradodd Mrs Katie Pritchard am yr hanes a'i hatgofion personol hi o'r amser y bu hi'n blentyn yno.

Ar sail y cyfoeth sy'n deillio o ddwy iaith hynafol, rhydd addysg Gymraeg gyfle iddynt ehangu eu gorwelion a dyfnhau eu profiadau.

preece yn eglwys hynafol llanbeblig, ger caernarfon.

Rhestr gynhwysfawr o gerrig hynafol wedi eu llythrennu, gyda 55 o ffotograffau.

Er hynny, nid oes lle i amau nad yw Eglwys Llanddewi Brefi'n hynafol.

Ymddangosodd newid sylweddol o ran agwedd tuag at longddrylliadau hynafol gyda gwaith Bass a'i gydweithwyr ym Mhrifysgol Pennsylvania.

Ar ffurf dogfen hynafol, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyflwyno ei gofynion sylfaenol i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn dilyn lawnsio ymgyrch am Ddeddf Iaith 2000 mewn rali ym Mlaenau Ffestiniog ddechrau'r flwyddyn.

Yn y dref fodern y mae'r bobl yn byw erbyn hyn, ond y dref hynafol yw trysor diwylliannol cenedl y Cwrdiaid a safle hynafol o bwysigrwydd rhyngwladol.

Ystyr y gair alcemeg yw'r grefft hynafol o geisio troi metalau cyffredin yn aur.

Gwelodd Lisa, trwy ei lygaid ef, yr awyrgylch dlodaidd, y peiriannau llaw hynafol, ac amgylchiadau gwaith cyntefig y gweithwyr.

Gan mai Ystorya Trystan yw'r unig destun naratif sydd gennym am Drystan ac Esyllt, a gan fod posibilrwydd fod yr englynion yn rhai hynafol, bu'n demtasiwn i rai chwilio ynddi am debygrwydd i'r chwedlau Ffrangeg, gan gasglu fod Golwg Hafddydd, er enghraifft, yn cyfateb i Brengain, morwyn Esyllt yn y traddodiad Ffrangeg (er gwaethaf yr enw gwahanol), a bod taith y cariadon i Goed Celydon yn cyfateb i hanes Tristan ac Iseut yn ffoi i Fforest Morrois.

Adeiladwyd hen wal gerrig yn y gornel yma o'r oriel, yn amgylchynu ysgubau o ŷd a cherrig malu hynafol.

Hynny yw, barddoniaeth a oedd yn rhychu mewn hynafol rigolau oedd barddoniaeth Gymraeg gyfoes bron yn gyfan gwbl; prin fod moderniaeth wedi ei chyffwrdd.

Gan fod y llywodraeth ganolog yn Delhi Newydd mor bell oddi wrthynt ac mor esgeulus ohonynt mae llawero'r casiaid ifainc yn cefnogi'r mudiad sy'n hawlio anibyniaeth wleidyddol i'w pobol - pobol sy'n ymwybodol iawn o'u tras a'u traddodiadau hynafol.

Trowyd ffriddoedd serth a'r ucheldiroedd yn borfeydd bras, traenwyd y corsydd, plannwyd miloedd o erwau o goed bytholwyrdd felly collwyd cynefinoedd gwyllt, - y coedlannau derw a'r rhosydd a'r grug, a hefyd yr arferion hynafol a ganiataodd i laweroedd o blanhigion ac anifeiliaid ffynnu mewn cydberthynas â dyn.

Y mae'n cynnig ffordd i mewn i Gymru sy'n danllyd, gynhyrfus, tawel a hynafol, barddonol a ffraeth.

Dwy dref sydd yma mewn gwironedd, un hynafol ac un fodern.

Erbyn hyn mae modd ymweld a'r eglwysi hynafol sy'n llechu oddi mewn i waliau'r Kremlin ei hun, ac yno gwelir lluniau hardd yn addurno'r muriau.

Ymbil ydi hyn ar ryw dduwiau cynnar i gadw'r 'arthreitus draw a'r prif dduw hynafol ydi Arthur wrth gwrs.

Canant a bloeddiant eu hoff air yn eu hiaith hynafol sef HEDDWCH.

Fe orfodwyd y cynghreiriaid a ryddhaodd frenhiniaeth ffiwdal Kuwait i roi help llaw am y tro i genedl hynafol na chafodd fyth gydnabyddiaeth deilwng gan y byd rhyngwladol.

rheswm dros hyn yw mai cymdeithas gymharol ifanc yw cymdeithas America y dyn gwyn, heb hanes a diwylliant hynafol y bobl frodorol yno, ac wedi colli cysylltiad â diwylliannau'r ymsefydlwyr cyntaf o Ewrop.

Sylwais fod blwch postio yn ymyl y ciosg a ymddangosai yn wirioneddol hynafol er bod ER wedi ei doddi i'w gyfansoddiad.

ond mae'r cythreuliaid yn falch bod ambell arfer hynafol fel meddwi a charu-yn-y-gwely wedi goroesi, yn nannedd Ymneilltuaeth.

Tuedd y rhan fwyaf o lenorion Lloegr, hyd at yr Oes Ramantaidd, fu ystyried fod popeth Groeg a Rhufeinig yn rhwym o fod yn well na'r dulliau brodorol; ond yr oedd y Cymry, mewn cyferbyniad, yn dueddol o edrych ar farddoniaeth Gymraeg fel traddodiad clasurol arall, a oedd yn llawn mor hynafol yn ei wreiddiau, yn llawn mor gaeth a ffurfiol, an yn llawn mor deilwng o barch ac astudiaeth â'r traddodiad Groeg a Rhufeinig.

Safai derwen hynafol yng nghanol tref Caerfyrddin tan yn gymharol ddiweddar.

Oherwydd diffyg cyd- drefnu cenedlaethol effeithiol, cafwyd peth ymrannu, ond yn y diwedd bu ffyddlondeb y Beirdd i weledigaeth Iolo Morganwg, eu teyrngarwch i'r traddodiad barddol, y boddhad a gaent o gael cydnabyddiaeth gwlad am eu campau barddol trwy gael eu hurddo ac, yn bennaf oll, yr ymdeimlad fod gan y gymdeithas farddol 'hynafol' hon rywbeth mwy nag y medrai cyfundrefn a chyfansoddiad ei gynnig, sef yr hyn a elwid gan Orseddogion y ganrif ddiwethaf yn 'awdurdod', yn ddigon o atgyfnerthiad iddi oroesi, er gwaethaf yr holl feirniadu.

Ni fu SL erioed yn fardd poblogaidd a da fuasai clywed rhagor o feirniadaeth o'r math a geir weithiau yn ysgrif Gwenallt, sy'n dweud, er enghraifft, 'Nid yw Mr Lewis yn cerdded mor sicr yn y mesurau traddodiadol at yn y vers libre.' Teimlais innau droeon mai gwely Procrwstes y mesurau caeth a orfodai SL i gynnwys geiriau hen, prin ac anghyfiaith a chystrawennau hynafol a chymhleth, fel petai tywyllu ystyr yn ddibwys neu hyd yn oed yn rhinwedd.OES AUR Y WASG GYMREIG

Ac yntau wedi treulio blwyddyn yn astudio yno ynnechrau'r wythdegau, ar adeg twf yr undeb annibynnol solidarnos‡, sut brofiad oedd dychwelyd i ddinas hynafol Krako/ w?

Sonnid amdano yn Arabeg glasurol llwyth y gof, ac mewn Berbereg hynafol a brodorol hyd eithafoedd y Sahara.

Wrth gwrs, 'roedd eglwys hynafol Sant Dyfrig wedi ei gwasgu i gesail y mynydd ganrifoedd cyn hyn, ac yn ddiweddar bu rhywun mor ddifeddwl â gollwng 'sgubor o gapel Annibynwyr yn blwmp ar ganol y rhos yn y man mwyaf diarffordd posib'.

O dan bentyrrau o rwbel a chwyn nid nepell o Landeilo roedd cyfrinachau anhygoel yn cuddio: twnnel ywen hynafol, gardd bwll, gardd glwysty fendigedig a gardd furiog syn cael ei gosod gan y dylunydd garddio byd enwog Penelope Hobhouse.

Fydd dim rhaid iti fod allan fawr ddim felly." Ddwyawr yn ddiweddarach eisteddai'r ddau yn swyddfa hynafol Huw Jenkins.

Yn unol a'r egwyddor hon ceir Salesbury yn gyson yn arfer geirfa hynafol, yn rhoi'r flaenoriaeth i eiriau Lladin eu tras ac yn amrywio'i eirfa, ei ffurfiant a'i gystrawennau hyd eithaf adnoddau'r Gymraeg.

Y Taj, fel y gellid disgwyl, a'r lleoedd hynafol eraill, yn hardd - hyd yn oed yn hardd iawn.