Roedd hygrededd yn nodweddu'r oes ac anwybodaeth ynglŷn â gwir hanes y Cymry a'r traddodiad barddol ar y pryd yn rhoi rhwydd hynt i hynafiaethwyr Cymru, Lloegr ac Ewrob chwedleua a rhamantu derwyddol a chynoesol.
Pryddest debyg i awdl 'Y Graig', Rolant o Fôn, yn y modd y mae'n edrych yn ôl ar hynt y canrifoedd.
Trwy gymeradwyo hyn y mae hefyd wedi rhoi rhwydd hynt i'r Wasg hela'r llanc ifanc.
Yr oedd y profiad newydd hwn yn llawenhau'i ysbryd, a'i synnu, braidd, gan mor anesmwyth oedd hynt y llongau yn nygyfor y tonnau a oedd dipyn yn fwy ymchwyddol na neithiwr.
Dilynwch ei hynt gartref ac ym mhen drawr byd.
Mae'r enw ei hun yn mynd â ni, mae'n debyg, yn ôl dros y canrifoedd i'r iaith Frythoneg - eb-hynt, llwybrau'r ebolion.
Yr oedd yr Almanac yn ystordy o wybodaeth gymysg am genedlaethau lawer, geni, priodi, marw rhyw deyrn neu arglwydd, drylliad llong, neu dan mawr Llundain, ac yna yn sydyn, rhyw ddywediadau fel - "Gwynt a glaw, yma a thraw%, rhyw erchyllderau dyddiol am sbel wedyn, ac yna "Felly pery i'r mis derfynnu%, hynt y lleuad a thrai a llanw.
Yr oedd ei hynt gyntaf gyda bonheddwyr wedi troi allan yn hynod o anffortunus.
cofient adegau pan allent gerdded hyd y lan a gwylio 'u hynt, a 'r afon yn loetran lifo dan y coed, ond nid felly 'n awr.
Y mae gwacter bythol yma megis pan gipier dyn o'i hynt gartrefol...Caeais y drws gan wybod na chawn ymwared o Seren byth.
Gyda'r nos yn yr haf byddai'r meinciau i lawr ger Penycei yn llawn o ddynion mor, pawb a'i bibell yn ei ben yn hel atgofion am hynt a helynt cychod a llongau.Clywid enwau llefydd fel Valparaiso, Taltal, Callao, Buenos Aires, Cape Town, Hambro a Genoa yn amlach o lawer na llefydd fel Pwllheli a Chaernarfon.
Oedd dad yn "chap" ar gefn ei geffyl ac felly yr ai i'n goedwig ar y mynydd i edrych hynt yr anifeiliaid.
Ar y gorau, rhai miloedd yn unig o bobl a oedd yn ymddiddori yn ei hynt.
Yn wyneb y duedd cynyddol i ganoli grym ac i danseilio awdurdod awdurdodau lleol trwy ganiatau i'r farchnad-rhydd cael rhwydd hynt i reoli, ni fydd adroddiadau ar yr iaith Gymraeg, ynddynt eu hunain yn sicrhau dyfodol i'r iaith.
Ceir disgrifiadau manwl yn adroddiadau swyddogol y cyfnod, a hefyd mewn llyfrau a gyhoeddwyd yn ddiweddar, megis llyfr ardderchog Robert Hughes the fatal shore, ac o diddordeb arbennig i ni'r Cymry astudiaeth fanwl Deirdre Beddoe o hynt a helynt y carcharorion benywaidd o Gymru, Welsh Convict Women, a llyfr Dr Lewis Lloyd, Australians from Wales.
Yn nyddiau'r Gwlff unwaith eto, fel y gwelodd y gohebydd Cymraeg Guto Harri, roedd adroddiadau'n aml yn ymwneud â hynt a helynt y newyddiadurwyr ac yn codi o'u cynnwrf nhw ynglŷn â'u rhan yn y digwyddiadau.
Ar eu hynt rhwng y gogledd a'r de, rhwng y werddon a'r ddinas, cyrcydu a wna merched Cwffra mewn lori agored, yng nghysgod bocsys o domatos, basgedi o ddâts gwasgedig a marsiandi%aeth o'r fath, rhag y gwynt a grafella'r croen fel rhathell wyllt.
Bu talentau academaidd Edwin yn foddion i hwyluso ei hynt addysgol.
yr un oedd ei hynt ym mhob un o'r gwledydd yr ymwelodd â hwynt ; derbyniad gwresog i'w ddyfais, ac anrhydedd iddo yntau yn amlach na na.
Nofelau yn dilyn hynt yr enaid unigol yw'r ddwy nofel am Leifior yn hytrach na gweithiau sy'n dehongli'n wrthrychol wleidyddol strwythur ein cymdeithas.
Roedd ar y dynion yma ei angen at ddibenion arbennig, roedd yn hollbwysig ei fod ar gael ar gyfer eu bwriadau, ac fel uchelswyddogion pob oes yn gweithredu yn enw eu gwlad rhoed rhwydd hynt iddynt fwrw ymlaen â'u cynlluniau.
Dyna felly a gaed yn y ddrama - dilyn hynt a helynt dwy chwaer oedd wedi troi eu cefnau ar ei gilydd ers deng mlynedd ac yn dychwelyd i ymweld â'u mam oedd yn dioddef o afiechyd.
Siaradai Ernest yn ddi-baid am ddifyrrwch y diwrnod, a disgrifiai yr hynt gyda blas.
Holais ei hynt rai misoedd wedi hynny gan ddisgwyl clywed ei fod yn well.
Drwy'r Ymofynnydd gofalodd drwytho'r mudiad yn hynt a helyntion ei orffennol, gan groniclo nid yn unig ffeithiau moel eithr eu gwerthfawrogi'n graff, gan danlinellu cyfraniad unigryw 'hen Gewri'r Ffydd' a'u pwysigrwydd i'r eglwys gyfoes.
Os dowch ar eich hynt yn y gwanwyn fe welwch seren y gwanwyn yn garped piws golau yma, planhigyn eitha prin yngh ngogledd Cymru.
Ac yn hynt dynolryw, o ran hynny.
Ychydig flynyddoedd ar ôl sefydlu TG4 y mae cynulleidfa'r sianel wedi cyfarwyddo a phêl-droed Sbaen, dilyn hynt a helynt cyfreithwyr Amsterdam, a chael blas ar haute cuisine y gwledydd pell.
Ar y dechrau, bu'r Ysgrifennydd Cartref Winston Churchill yn betrus, ond cyn bo hir rhoddodd rwydd hynt i'r ceisiadau am Gatrawd Gwyr Meirch a throedfilwyr yn y Rhondda, yn groes i ewyllys RB Haldane, yr Ysgrifennydd Rhyfel.
Rhwydd hynt iddynt.
Mae rhwydd hynt iddynt ddilyn eu diddordebau personol a chynnig syniadau.
Ac eto, y tu allan i'r stribedi culion o olau trydan a ddihangai rhwng y llenni duon dros y ffenestri, roedd y byd mawr yn dywyll a dieithr, yn llawn ofnau am yr hyn a ddeuai yfory drwy law'r postman am hynt a helynt plant y plant a aeth i ffwrdd i Affrica, i'r Dwyrain Pell ac i bob man lle ceisiai Prydain Fawr ddal rhyw afael ar ei thiroedd ar hyd a lled wyneb y ddaear.
Mynych oedd y gwyliau drama tair act, a brwd, hyd at waed bron, oedd ymrwymiad y cyhoedd i'w cwmni%au bro, a pheryglus oedd hynt y beirniad druan fyddai'n gorfod hollti blew wrth bvwyso a mesur rhagoriaethau'r cystadleuwyr.
Dangoswyd cryn ddiddordeb mewn ffilm fideo, a gomisiynwyd gan PDAG ac a gynhyrchwyd gan Ganolfan Adnoddau Clwyd, yn olrhain hynt disgyblion, rhai o gartrefi di- Gymraeg, a dderbyniodd eu haddysg trwy'r Gymraeg.
Yn ystod y drafodaeth byrdwn cyfraniad rhai o'r aelodau oedd adrodd hanesion a dyfalu am hynt a helynt yr iaith yn eu hardaloedd eu hunain.
Myfi a gymerais fy hynt amser maith yn ôl i dalaith o'r enw Califfornia.