Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hysbysebu

hysbysebu

Mae pob papur newydd yn drwm i'w gario o'r siop gyda'r wadan drwchus o daflenni yn hysbysebu pob dim dan haul.

Yr oedd y posteri i hysbysebu'r cyngerdd yn artistig tu hwnt; y cwbl ar bapur wedi ei ddwyn a'i smyglo i'r gwersyll.

'Os ydi'r arian yno, beth yw pwynt hysbysebu a hyrwyddo?

Syniad y mab oedd hysbysebu yn y papur am howsgipar.

Cafwyd cyfle i hysbysebu gwaith y pwyllgor ac i arddangos adnoddau a gyllidwyd gan y Swyddfa Gymreig ac a gynhyrchwyd gan yr Uned Iaith Genedlaethol, Canolfan Astudiaethau Addysg Aberystwyth, Canolfan Astudiaethau Iaith Bangor, NERIS a MEU (Uned Feicroelectroneg Cymru).

Daeth nifer o aelodau cwmni teledu Yiyang draw yma a gofyn imi hysbysebu wyau.

Byddai Ffrancon Thomas hefyd yn rhoi datganias ar yr organ - y mae gennyf ddarn o boster yn hysbysebu cyngherddau organ o'r cyfnod yn enwi Sandy McPherson a Ffrancon Thomas hefo'i gilydd.

Dwi'n cael yr argraff mai 'chydig o swyddi athrawon mathemateg sy'n cael eu hysbysebu y dyddiau hyn.

Arwydd o rym y cwmni%au hysbysebu yw eu bod yn gallu rhoi pwysau ariannol ar y sianeli teledu drwy dynnu hysbysebion yn ôl os nad ydynt yn cytuno efo cynnwys rhaglen.

Bydd Ysgrifennydd y Sir yn trefnu i hysbysebu'r gorchymyn arfaethedig a byddai'n ddiolchgar o dderbyn sylwadau gan y Cyngor hwn.

Maen nhw wedi gofyn am help yr actor o fri oherwydd ei fod yn hysbysebu'r banc ar y teledu.

Dywedodd Meira Roberts ei bod hi ar gael yn rhinwedd ei swydd i ymweld â changhennau yn rhad - i ddangos sleidiau a hysbysebu'r Mudiad.

Erbyn y chwedegau roedd mwy a mwy o 'Oruchwylwyr Trwyddedig Ymfudiaeth' yn hysbysebu eu gwasanaethau amrywiol yn rheolaidd yn y wasg, a'r Herald Cymraeg, er enghraifft, yn cynnwys asiantaethau a oedd yn canolbwyntio ar ddenu Cymru oedd a'u bryd ar ymfudo.

Awdurdodwyd y Prif Swyddog Cynllunio i roddi hysbysiadau yn y Wasg o unrhyw gais a fydd, yn ei farn ef, o ddiddordeb arbennig i bentref, ardal neu'r Dosbarth (mae hyn yn ychnwanegol i unrhyw geisiadau y bydd yn rhaid eu hysbysebu'n unol â gofynion y Ddeddf - gan yr ymgeisydd neu'r Cyngor).

Ceir enghreifftiau ddigon ganddo o'r modd yr anwybyddwyd ef a'i gynulleidfa a'i fudiad oherwydd culni a rhagfarn, ac fel y gwrthodai cylchgronau enwadol eraill roi gofod i hysbysebu cyfarfodydd a syniadau, heb sôn am gyfle i amddiffyn safbwynt a chael chwarae teg mewn dadl.

Y byd hysbysebu gwallgof yno sy'n cael ei sylw yn ei herthygl gyntaf (ysgwn i ydy hi wedi cael y cyfle i gyfarfod â rhai o'r cyfreithwyr dishy 'na sydd i'w gweld ar ein sgriniau teledu?

Felly, y mae yna fwy o wir nag oedda ni'n feddwl yn yr hysbyseb, See the face you love light up with Terry's All Gold syn siwr o fod y slogan hysbysebu fwyaf clogyrnaidd a fathwyd erioed.

Delweddau negyddol sy'n ein pledu yn ystod hanner cynta'r ffilm: yn wir, golygfa lom sy'n agor y ffilm wrth i Mona'r 'fenyw eis-crim' frasgamu drwy'r glaw fin nos i dŷ sinema'r Rex sydd a phoster uwch ei fynedfa yn hysbysebu'r ffilm nesaf a ddangosir: Coming Soon: Raiders.

Mewn ymgais i greu mwy o farchnad, mae Ankst wedi dilyn polisi brwd o hysbysebu'n helaeth ac yn yn gyson, gan arbrofi gyda dulliau gwahanol - fel rhoi copi%au am ddim o un record sengl newydd gyda'r tocynnau mynediad i ddawns lwyddiannus ym Mhafiliwn Ponthrhydfendigaid adeg Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth y llynedd.

Gosodwyd y brotest i fyny ar fyrddau hysbysebu'r colegau, er mwyn rhybuddio'r myfyrwyr rhag y Traethawd.

Cysylltiadau cyhoeddus, hysbysebu, marchnata a cyfieithu.

Er waetha'r ffaith fod y diwydiant hysbysebu yn cwyno dan effeithiau'r dirwasgiad byd eang, nid ydw i, yn bersonol, am golli cwsg drosto.

Taflenni hysbysebu yw rhai ohonynt a fawr ddim newyddion na deunydd golygyddol tra ceir eraill sy'n olynwyr i bapurau y telid amdanynt gynt ond sydd wedi penderfynu ymuno a'r fasnach ddosbarthu rhad - yn hynod o debyg i'w rhagflaenwyr.

Y peth cyntaf a ddaeth i'm meddwl wedi i mi weld poster yn hysbysebu "Llanrwst, Lloegr a Chumru% oedd cân y grŵp roc Cymraeg - Y Cyrff, "Cymru, Lloegr a Llanrwst".

Wrth feddwl am hysbysebu yn Gymraeg, yr unig hysbyseb weladwy a gofiaf yw Raleigh - y beisicl sy'n ddur i gyd.

Rhag i neb fedru gwneud ensyniadau fel hyn amdano, rwy'n siwr y medr dderbyn fy awgrym caredig, a pheri ail-hysbysebu'r swyddi hyn, gan ddwyn y gwynt o hwyliau pob beirniaid drwgdybus ac anwybodus ohono, drwy fynegi yn glir y bydd gwybodaeth o'r Gymraeg yn hanfodol i unrhyw benodiad.

Mae ganddoch chi rhyw fath o syniad yn awr o fawredd a hollbresenoldeb hysbysebu ym mywyd pobol yr Unol Daleithiau.

Dyna bosteri hysbysebu'r Bwrdd Glo wedyn, oedd yn boblogaidd iawn ar ddechrau'r wythdegau cyn iddyn nhw gau'r pyllau glo i gyd - "Come Home to a Real Fire% rhywun wedi ychwanegu "Buy a cottage in Wales".