Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hystafell

hystafell

Un flwyddyn yr oeddem yn astudio'r Actau yn yr Ysgol Sul, a dechreuodd Anti ein gwahodd ni blant i fynd bob gyda'r nos i'w hystafell i fynd dros y wers erbyn y Sul nesaf.

Neithiwr daeth i mewn i'm hystafell yn dwyn fy swper ar hambwrdd, ac meddai, gyda rhyw ffug sancteiddrwydd, "Ydi dy frest ti'n fwy rhydd, Hannah?

Ymhen amser clywsom leisiau Mr a Mrs Edmunds, yna daeth mama i'n hystafell i nol rhywbeth o'r bocs mawr.

Gwnaed lliaws o awgrymiadau, o ddodi llonaid llwy de o soda golchi yn ei chwpanaid boreol, i ollwng blychaid o lygod bach yn rhydd yn ei hystafell wely'r nos; eithr nid oeddynt yn ymarferol.

Yn ei hystafell hi yr oedd te yn barod iddynt, a bwytaodd y tri tra oedd Huw yn y ward gyda Dad.

Pan ddaeth Bowser i wybod am hyn gwnaeth bopeth a fedrai i'w atal a hyd yn oed garcharu'r ferch yn ei hystafell wely am gyfnod a dywedir i Jasper, y ci, fod yn llatai ar adegau, i gario negesau rhyngddynt.

Cydiodd Janet yn ei law eto a'i arwain 'nôl at y Teulu i'r Neuadd a daeth hithau ati ei hun a cherdded yn araf i'w hystafell.

Yn y cyfamser, fodd bynnag, mynnai Arabrab fod Ynot yn cysgu gyda hi bob nos, a rhaid oedd iddo yntau ufuddhau er bod ei hystafell wely a phob peth ynddi, a phawb ond Ynot ei hun yn drewi o wynwyn.

Darllenai bennod o'r Beibl yn ei hystafell wely yn ddi-ffael bob nos, a chysgai'n dawel ar ôl hynny; ac nid wyf yn gwybod a ddarllenai hi ddim arall oddieithr ar y Saboth, pryd yr arferai gymryd y DRYSORFA i fyny, gan ei hagor yn rhywle ar ddamwain ac yn union deg dechreuai bendympio.

Ei hystafell wely oedd hi a gorchmynnodd i mi eistedd ar ymyl ei gwely.

Dowch i'm hystafell i tra byddaf i'n dweud wrth eich tad eich bod chi yma.

) Ond yr oedd wedi bod yn annoeth, yn rhoi lle i bobl faleisus gychwyn straeon trwy fynd â chwpanaid o de yn y bore i'r bydwragedd yn eu hystafell wely a rhoi cusan bore da iddynt.

Ei serch at ei wraig yw ei bopeth fel na chais ddim ond bod gyda hi yn neilltuedd eu hystafell.

Roedd Alwyn Owens a'i wraig yn ymlacio yn eu hystafell wely yng ngwesty'r Priory ar gyrion Llundain.

Ond y maen ddarlun gogleisiol - hwnnw o griw o fyfyrwyr ac ysgolheigion yn eistedd yn unigedd eu hystafell yn ceisio goglais eu hunain.